20.6.22

Tymor anodd chwaraeon Bro Stiniog

MAE DYDDIAU GWELL I DDOD I’R AMATURIAID

Daeth tymor CPD Amaturiaid y Blaenau i ben ar y nawfed o Ebrill, a hynny i ffwrdd yn erbyn Brickfield Rangers yn Wrecsam. Colli’n drwm oedd yr hanes, fel oedd hanes y rhan fwyaf o’r tymor. Doedd hynny ddim oherwydd diffyg ymroddiad gan y chwaraewyr a’r staff, nac oherwydd diffyg ysbryd ymysg y garfan, chwaith. Mi fu’r hogia’n brwydro’u gorau glas bob penwythnos a phob gêm ganol wythnos pan oedd angen, a gan amlaf roedd Blaenau yn rhoi hanner gyntaf galed i’w gwrthwynebwyr cyn i’r goliau (a’r llifddorau) agor. Rhaid cofio hefyd, er gwaethau ein gwendidau, ein bod ni wedi cael lwc anffodus iawn mewn sawl gêm, heb sôn am ambell i reffarî oedd angen mynd i sbecsêfars – a’r reffarî hwnnw sydd nid yn unig yn cael trafferth dweud y gwahaniaeth rhwng coeden a pholyn lamp, ond hefyd yn casâu yr Amaturiaid ac wrth ei fodd yn ein cosbi yn gwbl anheg.  

Roedd camu i fyny i’r gynghrair newydd (Ardal Gogledd-Orllewin, Tier 3 pyramid cenedlaethol Cymru) ar ôl cael dyrchafiad fel ail yng nghynghrair y Welsh Alliance wedi bod yn gam anodd i’r hogia. Ond roeddan ni – y tîm, staff a pwyllgor – yn edrych ymlaen am yr her, a phan addawodd saith o chwaraewyr profiadol i arwyddo i’r Amaturiaid (rhai ohonynt wedi chwarae i Blaenau o’r blaen) roedd pethau’n edrych yn dda ar gyfer gallu cystadlu yn y gynghrair newydd. Ond yn anffodus, gohirwyd y tymor pêl-droed oherwydd y pandemig Covid, ac erbyn i’r tymor newydd ddechrau roedd y saith wedi newid eu meddyliau ac wedi dychwelyd i le’r oeddyn nhw gynt.

Felly dyna ni yn chwarae efo cnewyllyn bychan o chwaraewyr profiadol, a’r gweddill o’r garfan yn hogia ifanc iawn, ac ambell un mor ifanc â 16 oed. Y garfan hon oedd yn gweithio’u gorau bob gêm, yn gorfod herio timau cryf o ardaloedd Wrecsam ac ardal y ffîn efo Lloegr. Ia, Cynghrair Ardal Gogledd-Orllewin â’r rhan fwyaf o’r gynghrair yn dod o’r gogledd-ddwyrain! A’r timau hyn yn llawn o chwaraewyr mawr, profiadol a chorfforol (ac yn cael eu talu) a’n hogia ifanc ni yn eu herio nhw heb unrhyw ofn o gwbl. Wna i ddim mynd ymhellach, ond roedd ymddygiad ac agwedd rhai o’r timau yma o’r “gogledd-orllewin newydd” yn warthus. 

Rhaid canmol yr hogia a Geraint y rheolwr am frwydro yr holl ffordd. Mi ddalion ni rai o dimau mawr y gynghrair am hanner awr, neu hyd at funud olaf yr hanner gyntaf – ac ambell gêm pan safodd ein amddiffyn yn gadarn, dim ond i gael ein chwalu yn y munudau olaf. Roedd y tymor yn addysg i’n hogia ni, ac wedi rhoi profiad i’r hogia ifanc. Chwarae pêl-droed maen nhw’n licio wneud, a hynny i’w tîm lleol. Pob parch iddyn nhw.

Rhaid rhoi canmoliaeth hefyd i’r cefnogwyr fu’n cefnogi’r tîm, gan greu awyrgylch gwych yng Nghae Clyd. Cawsom dorfeydd go fawr, yn cael tua 200 yn rheolaidd, ac weithiau yn cael rhwng 300 – 400 pan oedd tîmau mawr yn dod draw i Gae Clyd, gan gynnwys y darbi yn erbyn Porthmadog. Roedd hi’n fraint i groesawu timau Cymraeg lleol fel Llanuwchllyn, Llanrwst, Nantlle Vale, y Felinheli a.y.b. a’r awyrgylch yn gyfeillgar a llawn hiwmor a hwyl. Roedd y rhan fwyaf o gefnogwyr pob tîm wrth eu boddau yn dod i Gae Clyd, ac yn canmol y cae a’r croeso, a’r golygfeydd anhygoel. 

Roedd unigolion yn dod o bob rhan o Brydain i weld Cae Clyd. Wedi’r cwbl, roedd y cylchgrawn FourFourTwo wedi cynnwys Cae Clyd yn 43ydd yn rhestr o’r 100 stadiwm gorau ym Mhrydain. Dim ond 4 cae o Gymru oedd yn y rhestr. 

Cae Clyd a'r Moelwynion. Llun Paul W

I gloi, rhaid diolch i’r chwaraewyr, a’r staff, a Geraint Owen y rheolwr. Diolch i bawb fu’n helpu ar ddydd Sadwrn, aelodau pwyllgor ac ati, a diolch arbennig iawn i Dafydd Williams (Bynsan) am ei waith anhygoel yn trin a chynnal y cae ar gyfer pob penwythnos – y cae gorau yng Nghymru, cae sy’n cael ei ganmol gan y timau sy’n dod yma i Gae Clyd. A rhaid canmol Rhian am redeg y cantîn, a phawb fu yn ei helpu. A diolch mawr i’n noddwyr.

Tymor cymysg, felly. Ond rhaid cadw’n bositif. Bydd yr Amaturiaid i lawr yn Tier 4 yn y tymor nesaf. Byddwn yn ôl mewn cynghrair sy’n llawn o dimau sydd o’r run safon a ni, ac o’r run brethyn ac agwedd â ni. Bydd dim cymaint o ofynion a gorchmynion yn dod oddi wrth y Gymdeithas Bêl-droed, a’r gobaith ydi y cawn ni dymor adeiladol i’r tim ifanc hwn, a gallu croesawu ambell i wyneb profiadol i ymuno efo’r garfan. Mae un peth yn sicr, mi fydd CPD Amaturiaid y Blaenau yma o hyd!
Dewi Prysor

 

Clwb Rygbi  Bro Ffestiniog
Bu’n dymor heriol iawn i glybiau pêl-droed a rygbi yr ardal. Ar y cae rygbi, doedd Cynghrair 1 y gogledd ddim yn ffurfiol gystadleuol y tro hwn oherwydd trafferthion covid a’r angen i gadw pellter cymdeithasol dal mewn lle ar ddechrau'r tymor. 

Ond yr her o annog digon o chwaraewyr i droi i fyny oedd anhawster mwyaf Bro Ffestiniog. Rhaid oedd dibynnu’n helaeth ar gymwynas clybiau Port a Dolgellau i fedru rhoi tîm ar y cae yn eu dwy gêm olaf, pan gollwyd yn drwm yn erbyn Nant Conwy ddechrau Ebrill, a Cobra (Caereinion) bythefnos wedyn. 

Noson galad arall i Bro, Ebrill 2022. Llun Paul W

Doedd Undeb Rygbi Cymru ddim yn trefnu unrhyw symudiadau rhwng y cynghreiriau eleni oherwydd yr amgylchiadau anarferol, ond mae rhai o’r farn y byddai’n fuddiol i dîm Bro ystyried disgyn yn wirfoddol i adran 2* er mwyn ail-adeiladu. Cawn weld be ddaw. Yn sicr, mae dyfodol disglair iawn ymysg y timau ieuenctid ar hyn o bryd. 

*Diweddariad: yn ôl yr Undeb Rygbi, doedd dim lle yn yr Ail Adran, felly bu'n rhaid i Bro dderbyn lle yn Adran 3. Cawn edrych ymlaen rwan i ail-adeiladu carfan gref i gystadlu ar lefel uwch.

- - - - - - -  

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2022

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon