12.6.22

Stolpia -enwau a chyflog

Dyma ran olaf fy atgofion am Chwarel Llechwedd yn yr 1960au gan obeithio y bydd o ddiddordeb i un neu ddau ohonoch. Fel y crybwyllais, deuthum i adnabod amryw o leoedd yno wrth eu henwau gwreiddiol. Yn ddiamau, y mae y mwyafrif o’r lleoedd hyn bellach yn hollol ddieithr i’r to presennol. 

Y mae’n rhaid crybwyll hefyd y deuthum i adnabod amryw o weithwyr dawnus a gwybodus yno, megis fy mos, Emrys Williams, Robin George Griffiths, y gof, Glyn Griffiths, Reuben Williams, Robin Williams, (Cocoa), fforddoliwr, Bleddyn ac Arthur Williams (Conglog), Dafydd Roberts, Gwalia, Gwilym J. (Bells), a sawl un arall.

Gydag Emrys y dysgais am yr enwau lleoedd yno. Dyma rai eraill a ddaw i’m cof: 

Ffridd Blaen Llechwedd y tu uchaf i’r chwarel; 

Caban Garreg Wen (Llawr 7); 

Dyfn Jac Bach (Llawr A); 

Ponc Ganol, Barics Bach, Lefel Fawr, Lefel Tai’r Frest. 

Llwnc y Ddaear, sef y man lle mae’r Afon Barlwyd yn llifo i geg y lefel hir sy’n dod allan uwchlaw Ceunant Llechwedd. 

Ymhlith yr enwau Seisnig eraill yno ceid ‘Woolworth’, am un o agorydd y Sinc Fawr, a ‘Dartmoor’ oedd yr enw ar un o rannau pellaf y gwaith ar y mynydd.

Swyddfa’r chwarel (blaen), a’r Felin Isaf a thai Llechwedd yn y cefndir

Gŵr diddorol oedd Glyn Griffiths, Tŷ Capel Ebeneser (W) a weithiai yn y pwerdŷ. Roedd yn arbenigwr ar drychfilod, a byddai’n cael wyau gwyfynod o leoedd mor bell a Burma, ac roedd ganddo ‘wyfyn Atlas’, sef un a fesurai tua 9 modfedd o flaen un adain i’r llall. Byddai gan Reuben straeon diddorol am bysgota yn Llyn Dyrnogydd a llynnoedd eraill yr ardal. Bum yn gwrando ar Bleddyn sawl tro yn adrodd hanesion difyr am ei amser yn byw yng Nghwmorthin.

Cofiaf glywed hanes gwroldeb un hen fachgen a oedd yn ffitar yn y chwarel lawer blwyddyn yn ôl a phan ddigwyddodd i un o’r pympiau a oedd ar waith i lawr yn Sinc Mynydd ballu a stopio pwmpio. O ganlyniad, ymgasglodd y dŵr oddi amgylch nes yr oedd oddeutu 12 troedfedd o ddyfnder yn y diwedd. Daethpwyd i’r casgliad mai carreg a oedd wedi syrthio ar ran o’r pwmp, ac wedi taro lifer y falf a’i throi i ffwrdd. Ceisiodd y dynion fachu’r beipen a thynnu’r pwmp i fyny, ond methiant llwyr a fu hynny gan fod cryn bwysau arno. Penderfynodd yr hen ffitar, a oedd wedi bod yn forwr ar un adeg o’i fywyd nad oedd dim byd amdani hi ond tynnu ei ddillad uchaf oddi amdano a neidio i mewn i’r dŵr iasoer yn ei drôns hir, ac i lawr at y pwmp a cheisio ei gael i weithio. O fewn munud neu ddau, roedd i fyny o’r dŵr, ac wedi llwyddo i gael y pwmp i weithio. Bu’n dipyn o arwr gan y criw ar ôl ei wrhydri y diwrnod hwnnw. Byddai’n ddiddorol cael clywed pwy oedd y ffitar dewr hwn?

TÂL

Roedd y drefn o dalu yn 1969 braidd yn hen ffasiwn. Byddid yn cael syb (sef blaen dâl) am y tri Dydd Gwener cyntaf yn y mis, ac yna y Tâl Mawr ar Ddydd Gwener olaf y mis. Nid ei fod yn dâl mawr imi fel ffitar, chwaith! Ar y diwrnod talu roedd yn rhaid inni aros wrth un o ffenestri’r swyddfa tan yr agorid hi am 4:00 y prynhawn i dderbyn ein cyflog. Yna, gelwid eich enw ac estynnid blwch pren i’ch llaw gyda’r arian cyflog yn rhydd ynddo. 

Fy nghyflog yr adeg honno oedd £9-15s o syb, a rhyw £11. 10s o dâl. Gyda llaw, cofier bod papurau chweugain, sef 10 swllt, a phapurau punt a phum punt hefyd yn y blwch, ac os byddai’n chwythu, neu’n bwrw glaw yn arw, roedd yn rhaid bod yn ofalus rhag i’r arian papur fynd efo’r gwynt i ebargofiant. Dyna beth oedd chwysu am eich cyflog!

Mewn blwch fel hwn y telid fy nghyflog yn 1969

D.S.  Bydd colofn Stolpia yn cael saib am y misoedd nesaf. Gwn bod rhai ohonoch wedi cael blas ar yr atgofion a diolchaf yn fawr i chi am eich diddordeb.

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2022


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon