24.6.22

Rhod y Rhigymwr -deilio Mai

Pob mis mae Iwan Morgan yn gosod tasg i'r rhigymwyr, a mis Mai symbylodd y dasg ar gyfer rhifyn Mai:

Mai sydd yn persawru’r blodau,
Mai yw teiliwr y petalau ...
Roedd un o’r cwpledi ddaeth i law -gan GWENLLIAN- yn cydio mor grefftus y sefyllfa yn yr Wcráin wrth linell yr hen fardd, Dafydd Nanmor, o’r 15fed ganrif:
Ond â’r rhyfel fel rhyferthwy
‘A ddylai Mai ddeilio mwy?’
Mae hyn wedi fy nhywys innau i edrych ar hen nodiadau coleg a luniais dros hanner canrif yn ôl. Fel yr awgryma’i enw barddol, un o gyffiniau Nanmor, Beddgelert oedd Dafydd. Yn ôl y gwybodusion, fe’i hanfonwyd o’i ardal enedigol gan ddeuddeg o reithwyr, a hynny am iddo ganu cywyddau i wraig briod o’r un gymdogaeth. ‘Gwen o’r Ddôl’ [Dolfriog] oedd y wraig honno. Cawn y bardd wedi hynny yn Neheudir Cymru, yn derbyn nawdd gan yr uchelwr, Rhys ap Meredudd o’r Tywyn, gerllaw aber Afon Teifi.

Fel Dafydd ap Gwilym ac eraill o feirdd yr uchelwyr, ystyriwyd Dafydd Nanmor yn gywyddwr o fri. Dyma ran o’r cywydd gwych a gyfansoddodd ar ôl i’w gariad farw – ‘Marwnad Merch.’ Does dim dwywaith nad hwn ydy’r cyfeiriad tristaf a mwyaf dirdynnol sy’n bod at fis Mai:
Caru merch ifanc hirwen,
a marw wnaeth morwyn wen.
Gweddw am hon yn y bronydd
yw'r gog a'r bedw a'r gwŷdd.
Os marw hon yn Is Conwy -
ni ddylai Mai ddeilio mwy!
Gwywon yw'r bedw a'r gwiail
ac weithian ni ddygan' ddail.
Och un awr na chawn orwedd
Gyda bun dan gaead bedd...

Cywydd enwog arall a gyfansoddwyd dan amgylchiadau tebyg oedd un Llywelyn Goch ap Meurig Hen, oedd yn byw rai blynyddoedd cyn Dafydd Nanmor. Roedd yn gysylltiedig â theulu Nannau, plwyf Llanfachreth, Dolgellau. 

Canu marwnad i Lleucu Llwyd o Ddolgelynnen, sydd ar lan Afon Dyfi rhwng Machynlleth a Phennal wnaeth Llewelyn. Dyma’n sicr un o’r cerddi dwysaf o’i bath yn yr Iaith Gymraeg. Dros y canrifoedd, tyfodd cylch o draddodiadau am garwriaeth Llywelyn a Lleucu.

Dyfynnaf ddarnau o’r cywydd angerddol hwnnw:

Llyma haf llwm i hoywfardd,
a llyma fyd llwm i fardd...
Nid oes yng Ngwynedd heddiw
na lloer, na llewych, na lliw,
er pan rodded, trwydded trwch,
dan lawr dygn dyn loer degwch.

Y ferch wen o'r dderw brennol,
arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
cyd bych o fewn caead bedd.

Gwae fi fod arch i'th warchae!
A thŷ main rhof a thi mae;
Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
breuddwyd dig briddo dy dâl!

Clo dur derw, galarchwerw gael,
a daear, deg dy dwyael,
a chlyd fur, a chlo dur du,
a chlicied; yn iach, Leucu!

- - - - - - - - -

Addasiad o erthygl yn rhifyn Mai 2022



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon