12.7.22

Gorwelion Bro

Cynllun ‘Skyline’ Bro Ffestiniog
Nid oedd archfarchnadoedd yn bodoli pan oedd ein neiniau a’n teidiau ni yn blant. ‘Roedd gan bob tref ambell i siop fach arbenigol yn gwerthu eitemau wedi’u mewnforio a mwy yn gwerthu cynnyrch mwy lleol. ‘Roedd gan bron bob cartref eu gardd gefn i dyfu ffrwythau a llysiau.

Roeddynt yn gwneud eu jam a’u cyffeithiau eu hunain. ‘Roedd rhai hyd yn oed yn bragu cwrw neu win. Ac yn helpu ei gilydd pan oedd yn amser cynaeafu a rhannu llwyddiannau a methiannau ei gilydd. Ychydig iawn o gemegau oedd yn y bwyd bryd hynny, a thechnegau amaethyddol diwydiannol ddim ond yn syniadau gan rai.

I dorri stori hir yn fyr - ‘roedd ein systemau bwyd yn fwy iach, yn fwy blasus ac yn fwy cadarn. ‘Roedd mwy o fioamrywiaeth, a llai o broblemau iechyd meddwl neu alergeddau bwyd.

Dyma genhadaeth prosiect Skyline ym Mro Ffestiniog: 

i ddod â’r bwyd, y tanwydd a’r wybodaeth yn ôl i’r cymunedau ble ‘roeddynt yn ffynnu. Gyda’n gilydd, rydym yn datblygu gardd fasnachol weithredol ac effeithlon, menter goed tân fforddiadwy a chynaliadwy, yn ogystal â chanolfan sgiliau traddodiadol er mwyn dysgu’r hen ffyrdd i’r cenedlaethau newydd.

(Llun gan BroCast Ffestiniog)
   Mae banc coed Coed Call wedi ei sefydlu i geisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn yr ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni J.W. Greaves, Llechwedd, am fenthyca darn o dir ger Pant yr Afon i ni, tra mae Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn rhoi tunelli o goed sydd wedi eu torri ar dir cyhoeddus i ni. Byddwn yn prosesu’r rhain gyda chymorth gwirfoddolwyr ac yn eu sychu mewn siediau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar eu cyfer. 

   Bydd y mwyafrif o’r coed yma yn cael eu rhoi allan am ddim i’r rhai sy’n dioddef tlodi tanwydd, a’r gweddill yn cael eu gwerthu i helpu eraill dalu biliau nwy, olew neu drydan.

   Mae ein cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys caffael a rheoli darn o goedwig gan Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn gwneud ein banc coed yn gynaliadwy yn yr hir dymor.

 Rydym yn croesawu rhoddion o goed tân, ac mae gennym staff sydd wedi’i hyfforddi i dorri a symud coed sydd wedi disgyn. Cysylltwch gyda ni am fwy o fanylion.

Ail ran prosiect Skyline Bro Ffestiniog yw’r Ganolfan Sgiliau Traddodiadol, ger llwybrau beicio Antur Stiniog. Mae 25 tunnell o Ffynidwydden Douglas o Lyn Efyrnwy wedi ei brynu, a byddwn yn eu torri i adeiladu ‘cwt crwn’ wythonglog gyda tho tywyrch i'w ddefnyddio i ddysgu sgiliau traddodiadol fel gwaith coed irlas, cerfio, gwneud basgedi a llawer mwy. Ein bwriad yw gwerthu’r profiadau hyn i ymwelwyr er mwyn ariannu cyrsiau am ddim i bobl leol.

Mae’n debyg mai’r trydydd prosiect yw’r mwyaf uchelgeisiol. Rydym yn bwriadu creu rhwydwaith o brosiectau garddio fyddai’n cynhyrchu digon o ffrwythau a llysiau i fwydo’r dref. Tra’i fod yn nod uchelgeisiol iawn, drwy gefnogaeth prosiect Skyline, rydym yn credu ei fod yn nod hollol realistig, ac erbyn 2032, rydym am i Fro Ffestiniog fod yn hunangynhaliol mewn cynhyrchu ffrwythau a llysiau.
Nid yn unig fydd hyn yn help i daclo tlodi bwyd a gordewdra, ond hefyd yn gyfle ychwanegol i roi profiadau garddio i bobl a phlant y dref - rhywbeth sydd â buddion enfawr i iechyd meddwl. Byddwn yn adeiladu sied ar ein safle yn y Manod, gyda thân coed cynnes i bobl gael eistedd o’i amgylch neu i blannu hadau neu i brosesu’r cynhaeaf.

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â’r Dref Werdd, byddwn yn datblygu'r gwaith mewn tri safle o amgylch Blaenau Ffestiniog dros yr haf.

Bydd cymorth gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer y prosiectau, ac fe fyddant yn cael eu gwobrwyo gyda barbeciws penigamp a phaneidiau diddiwedd, heb sôn am y wybodaeth galonogol eu bod yn cyfrannu tuag at rywbeth mor gadarnhaol yn eu cymuned.


Os hoffech chi gael clywed mwy neu wirfoddoli, ewch i www.drefwerdd.cymru neu ffoniwch 01766 830082.

Wil Gritten
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2022



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon