8.6.22

Rhod y Rhigymwr -gwyn ein byd

Pan godais ar fore dydd Iau’r 30ain o Fawrth, ac agor y llenni, gwelwn ei bod yn wyn y tu allan. Nid yn unig roedd eira’n gorchuddio copaon y Moelwynion, ond roedd yr ardd dros ffordd i Dŷ’n Ffridd acw’n gwbwl wyn hefyd. 

Wythnos ynghynt, fe fanteisiais ar y tywydd gwanwynol, cynnes gawsom i baratoi’r ardd ar gyfer plannu. Bum yn ddigon mentrus i roi tatws cynnar yn y pridd, ond ceisiais wneud yn siŵr mod i’n eu rhoi’n ddigon dwfn gan fod y gwybodusion wedi rhybuddio y bydden ni’n talu am y tywydd tesog yn fuan.

Ydi, mae edrych ar lendid eira drwy’r ffenest yn dlws. Ac mi rydan ninna’, uwchben Llan Ffestiniog yn cael ein siâr ohono pan fydd o gwmpas. Rhwng y pentre a phen yr allt lle rydan ni’n byw, mae yna linell eira, neu ‘snow-line’ fel y gelwir hi gan yr hinsoddwyr. Cofiaf gerdded i fyny mewn lluwch un tro, a’r eira’n cael ei chwipio o’r caeau uwchben y ffordd fawr nes ei chau. Am brofiad oedd cael y crisialau oer, gwyn yn fy nallu. 

Dyma fel y disgrifiais hynny mewn englyn:

Dwyreinwynt a drywana - fy wyneb,
Yn finiog chwistrella
I’m mêr storom o eira  
O ddur ei nodwyddau iâ.

Sawl gwaith hefyd y buon ni’n edrych ar yr olygfa o storm eira drwy ffenest y llofft, a gweld yr A470 yn prysur ddiflannu ‘dan luwchion oerion eira’ chwedl yr hen gân.

Rydw i’n cofio’n dda, pan oeddwn i’n brif athro yng Nghefn Coch orfod ffonio i mewn i ddweud nad oedd hi’n bosib i mi gyrraedd yr ysgol gan na allwn gael y car allan o’r buarth oherwydd eira. Yr ateb gawswn i’n ddi-ffael oedd nad oedd pluen eira  i lawr yn y Penrhyn! Doedd gen i ddim car gyriant pedair olwyn yr adeg honno, a chofiaf mai cael a chael fu hi unwaith neu ddwy i mi fedru cyrraedd adref heb fynd yn sownd mewn lluwchfeydd eira ar yr Allt Goch, Dreif yr Oakeley a Rhiw Cefn Pannwl.

Cerdd a wnaeth argraff arnaf flynyddoedd yn ôl oedd un gan fy nhiwtor addysg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, Aneurin Jenkins-Jones, a gyhoeddwyd yn ‘Blodeugerdd y Plant’ ym 1971. Hwyrach fod rhai ohonoch chi’n cofio i Arwel, Myrddin ac Elwyn - ‘Hogia’r Wyddfa’ - ddewis hon i’w chyflwyno ar gân ... 

GWYN

Rwy’n caru popeth, popeth sydd yn wyn;
Y sêr liw nos a’u lampau bach ynghyn;
Y lleuad gron yn rhedeg ras o hyd
Yn erbyn holl gymylau’r nos i gyd.

Rwy’n caru glendid cnu oen bach ar fryn
A’r llwyni drain yn drwm dan flodau gwyn;
Llygad-y-dydd yn siriol syllu’n hy
I lygad llosg yr haul ar hafddydd cu.

Yr ewyn ar y don fel ruban les;
Iâr-fach-yr-haf yn llathru yn y tes;
Lili-wen-fach a Lili Mai, bid siŵr,
A Lili’r Grog a hithau Lili’r Dŵr.

Y bwthyn gwyngalch o dan gapan cawn
A’r briodasferch gyda’i gŵn fel gwawn;
Barrug y bore bach fel briwsion bara-can
Yn addo eira’n wrthban yn y man.

Rwy’n caru’r alarch yn ei goegni syn
Yn dotio arno’i hun yn nrych y llyn.
Hwyliau gan wynt yn llawn, a lliain main,
A’r gwynder annwyl hwnnw sydd yng ngwallt fy nain.

Rwy’n hollol siŵr taw gwyn, o’r lliwiau i gyd,
Yw’r lliw sy’n hoff gan Dduw; O! Gwyn ein byd.

Fe ges i fanteisio ar y cyfle droeon i drafod y gerdd gyda phlant, a’u cael i werthfawrogi’r rhestr o ddisgrifiadau sydd ynddi ac i fwynhau sŵn mydr ac odl.

 

Cyn cloi, mae SIMON am ein tywys i dangnefedd ein bro ein hunain. Hoffais y defnydd a wnaeth o ddisgrifiad Gwyn Thomas o’r ‘Blaenau’ yn llinell agoriadol ei englyn:


Dantaith y Mynyddoedd

Rhyw achlust gefais o freichled o dref
      mor driw ac agored.
Saig o’r graig wnaeth fwydo’r gred
a’r Blaenau, gorau’r blaned.

- - - - - - - - 

Rhan o erthygl yng nghyfres Iwan Morgan; ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2022



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon