5.10.19

Pwy fydd yma ymhen can mlynedd..?

Erbyn hyn mae Eisteddfod Genedlaethol Conwy ymhlith y pethau a fu. Faint tybed o bobl, ac yn arbennig felly bobl ‘Stiniog, sy’n gwybod ym mhle y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y flwyddyn 1898?

Ie, yma yn y Blaenau, yn hen dref y chwareli, y bu hynny; yma y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1898.

Codwyd y pafiliwn ar ei chyfer ar y darn tir lle mae Siop Kwiks a’i maes parcio heddiw [Ewrospar bellach]. Cafwyd trafferth hefo’r pafiliwn, neu ‘Y Babell’; fel y’i gelwid, gan iddo ddymchwel, a bu’n broblem ac yn bryder ei gael ar ei draed erbyn y 19eg o Orffennaf, sef diwrnod cyntaf yr ŵyl. Nid yn ystod yr wythnos gyntaf o Awst y cynhelid yr Eisteddfod Genedlaethol yr adeg hynny, a phum diwrnod oedd ei hyd, o ddydd Mwrth tan y dydd Sadwrn.

Mae dau beth, hyd y gwyddom, beth bynnag, yn aros o’r dyddiau hynny gan mlynedd yn ôl. Yn  Swyddfa’r Cyngor yn y Blaenau y mae cadair dderw drom, gerfiedig, i Gadeirydd y Cyngor eistedd ynddi i gadw trefn ar yr aelodau. Dyma’r Gadair a ennillodd Elfyn (R.O. Hughes) yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog, ac yntau ar y pryd yn byw yn Llan Ffestiniog. ‘Awen’ oedd testun y gadair, a dyfarnwyd Awdl Elfyn yn orau o ddeuddeg, a hynny gyda chanmoliaeth.

Y peth arall sy’n aros yw cyfrol swmpus, clawr caled, o feirniadaethau a chynhyrchion yr Eisteddfod. Mae hon yn gyfrol o 420 o dudalennau, ac o bopeth sydd ynddi, mae’n debyg mai’r peth mwyaf diddorol a difyr a gwerthfawr, yw y traethawd 186 tudalen ar ‘Llên Gwerin Meirion’: William Davies, Tal y Bont, Ceredigion, a’i hysgrifenodd ac ennill y wobr o £10.

Mae yna lawer iawn o Saesneg yn y gyfrol yma, fel er engraifft, y traethawd buddugol ar ‘The Influence of the Battle of Chester on the History of Wales and the Welsh People.’ Ynddi, hefyd, y mae y cyfieithiad buddugol Saesneg o bryddest Elfed Lewis, ‘Llyn y Morwynion’. Roedd yna rai cystadlaethau y gellid cystadlu arnynt naill yn y Gymraeg neu yn y Saesneg. Un felly oedd, ‘Handbook – The Botany of any County in Wales’, a’i feirniadaeth yn cael ei rhoi yn yr iaith fain. D.A. Jones o Harlech oedd yn fuddugol ar law-lyfr ar fotaneg sir Feirionnydd. Tybed a gyhoeddwyd hwn, fel y bwriadwyd, ac a oes copi ohono ar gael wedi can mlynedd?

Testun y bryddest oedd ‘Charles o’r Bala’, a’r Parch. R. Gwylfa Roberts, Porthdinorwig, aeth a’r Goron. Byddai’n ddiddorol gwybod a ydi’r Goron yma’n dal gan rhywun neu’i gilydd heddiw*.

Yn yr adran gwaith llaw, 'Y Cerfwaith a’r Ffurfluniaeth’, fel y’i gelwir, ceir cystadlaethau fel, gwneud ‘Mat traed o fân ddarnau o frethyn. Gwobr £1: Miss K. Jones, Tan y Grisiau; ac hefyd gwneud ‘Hosannau clos penglin’. Gwobr 15/-: Mrs A. Jones, Penrhyndeudraeth. Enillodd Jacob Jones, Ffatri, Tan y Grisiau, ddau dlws arian am frethynnau a gwlanenni Cymreig. Ym mhle a chan bwy y mae’r tlysau yma heddiw, tybed?

Cystadleuaeth a oedd yn boblogaidd iawn, fel y gellid disgwyl a’r chwareli yn yr ardal ar ei hanterth ar y pryd, oedd ‘Hollti Llechi’. Aeth y gwobrau i gyd i rai o ‘Stiniog. Erbyn ein dyddiau ni mae y gost o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol wedi mynd yn arian mawr. Yr holl gost o gynnal Eisteddfod Genedalethol Blaenau Ffestiniog yn 1898 oedd £4,127.4.11 (hen arian, wrth gwrs).

Casglwyd yn lleol a chan wahanol gwmniau ac unigolion y swm o £1,627.13.10. Gwnaeth yr Eisteddfod elw o £298.8.3 a rhannwyd yr arian yma drwy roi £149.4.1 i’r ‘National Eisteddfod Association’; rhoi £100 i gronfa adeiladu Ysgol Sir Ffestiniog; rhoi £30 i Lyfrgell Cyhoeddus Ffestiniog; rhoi £10 i Gymdeithas Nyrsio Ffestiniog; ac £9.4.2. i’r ‘Welsh Colony in Patagonia’.

Sut dywydd a gafwyd yn ystod y Eisteddfod? Dydd Mawrth roedd yn ddigon braf i Orsedd y Beirdd a ‘llu mawr o’r cyhoedd’, yn cael eu harwain gan yr Arch Dderwydd Hwfa Môn, i ddod at ei gilydd ar Fryn yr Orsedd (Carreg Defaid). Dydd Mercher, roedd ‘yn fore nodedig o braf’, meddai’r cofnodion. Dydd Iau, eto, ‘yr oedd yn foreu hyfryd’. Dydd Gwener, ‘gan fod y wybren yn welw, ni wisgodd y beirdd eu mentyll’. ‘Erbyn y cyngerdd hwyrol ymarllwysai y gwlaw’ yn ôl y cofnodion.

Ond, er gwaethaf rhyw ddiferion fel hyn, ar y Sadwrn, dydd olaf yr Eisteddfod, llawenychodd Dyfed yn orfoleddus a chyhoeddi-
‘Bu’r wyl heb umbarelo’.

E.E.
-----------------------------------

Addasiad yw'r uchod o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998, i nodi canrif ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Blaenau.

* Mae'r goron bellach yn ôl yn y Blaenau, ac efo'r gadair, wedi treulio'r haf yn arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn Siop Antur Stiniog.

Llun- Alwyn Jones

1 comment:

Diolch am eich negeseuon