Erthygl arall o'r archif; y tro hwn o rifyn Gorffennaf 1979. (Lluniwyd o ysgrif Ifor Jones, ‘Hunangofiant Creigiwr’, Y Caban, 1958)
Nodwedd arbennig bywyd chwarel flynyddoedd yn ôl oedd agosatrwydd y gymdeithas; brawdgarwch a orlifodd i fywyd y dref gan achosi cychwyn torreth o fân gymdeithasau oriau hamdden. Ffrwyth brawdgarwch y chwareli, ochr yn ochr ag angen am seibiant a lluniaeth ganol dydd yn y gwaith, oedd y tai bwyta; ac un o’r achlysuron mwyaf diddorol oedd dewis y swyddogion i redeg y caban yn rheolaidd.
Roedd hi’n arferiad ar un tro i enwi chwe pherson, gan bleidleisio i’w tynnu i lawr i ddau. Yna dewisid yr un. Y swyddogion o fewn y tai bwyta oedd y llywydd, yr ysgrifennydd, trysorydd, amserydd a phlismon. Diddorol yw nodi yma fod yr arferiad o godi ‘plismon’ i gadw trefn a disgyblaeth yn dal i fynd, oherwydd dyma deitl y swyddog yng Nghôr y Moelwyn sy’n gyfrifol am osod y côr ar lwyfan.
Gwaith yr ‘amserydd’ yn y ty bwyta fyddai rhoi tair cnoc ar y bwrdd gyda morthwyl wedi ei wneud o ddarn o goes rhaw i rybuddio am amser smocio.
Gwaith cyntaf y ‘llywydd’ ar ôl “agor y tŷ” fyddai gofyn i’r ysgrifennydd a oedd rhywbeth i’w gyhoeddi. Byddai hefyd yn croesawu dieithriaid, rhai yn symud o un rhan o’r chwarel i’r llall, gan geisio ei orau i’w gwneud yn gartrefol – ond hefyd yn eu hatgoffa i dalu am eu te cyn ymadael.
Ei gyfrifoldeb nesaf oedd gofyn a oedd gan rhywun rywbeth “ar ei feddwl” ac weithiau byddai dadleuon gwych neu hwyl diniwed, ond miniog. Roedd ambell ddadl yn parhau am bythefnos neu dair wythnos.
Bob Nadolig byddai eisteddfod yn y tai bwyta – rhain hefyd yn parhau am dair wythnos. Byddai dwy brif gystadleuaeth – unrhyw alaw dan 40 oed; a thros 40 oed. Byddai pawb yn cael ei fyddaru gan guriadau potiau jam ar y byrddau – tipyn o swn o gofio bod tua 80 o ddynion yn ambell gaban.
Byddai llawer o driciau direidus yn cael eu chwarae o dro i dro.
Roedd y rhai a arferai weithio tan ddaear, tua mil o droedfeddi dan yr wyneb, yn gorfod cerdded sbel i fyny ac i lawr grisiau rhwng agor a chaban.
Wedi cyrraedd yr agor rhaid oedd cael “pum munud llygad” – cyfle i’r llygaid ddod i arfer â’r tywyllwch wedi golau dydd.
Faint o gyn chwarelwyr ymhlith ein darllenwyr sy’n barod i anfon atgofion o hwyl a naws y tai bwyta, neu am y dadleuon a’r eisteddfodau gynt? Ewch ati i chwilio’r cof ac anfonwch atom.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon