9.8.19

Enwau lleoedd yn Chwarel Llechwedd (2)

Ail bennod cyfres Steffan ab Owain, o'r archif

Y tro diwethaf cawsoch ychydig o hanes yr hen Dŷ Crwn a Phlas Waenydd gennyf.  Wel, y tro yma rwyf am son ychydig am leoedd gerllaw’r plas a rhan islaw’r chwarel.

Yn gyntaf oll, os edrychwch i fyny tuag at y plas mi welwch Geunant y Llechwedd ar y dde iddo.  Mae’r ceunant yn werth i’w weld ar ôl glaw trwm a phan mae’r dŵr yn bwrlymu ac yn trochioni ar ei ffordd i lawr i’w waelod. 

A gyda llaw, nid ceunant naturiol mohono o gwbwl, ond un wedi ei wneud gan ddyn!  Ie, torrwyd a
rhychwyd y ddaear nes gwneud ceunant gweddol ddwfn yno, a gosodwyd cerrig fflags ynddo wedyn a walio’r ochrau’n daclus.  Yn ei ran uchaf tyllwyd twnel neu lefel drwy fynydd Y Cribau er mwyn gwyrdroi’r Afon Barlwyd ryw hanner milltir i fyny, ac felly ei rhwystro i fynd i gyfeiriad y gwaith a chreu difrod ar adegau o lifogydd.  Yn ddiau, golygodd hynny gryn dipyn o gynllunio a llafur, onid do?  Pa bryd y gwnaed y gwaith hwn, tybed?

Y Cribau o Blas Waenydd. Llun- Paul W

Rwan, ceir cyfeiriad at un o’r hen lefelydd uwchlaw’r plas, a llawer peth arall ynglyn a Chwarel Llechwedd o ran hynny, yn hen ddyddiaduron y diweddar Mr Daniel Williams.  Gŵr o Ddolwyddelan ydoedd a bu’n gweithio yn y chwarel am lawer blwyddyn ac yn cadw dyddiaduron diddorol tra bu yno.  Mae’n bosib bod rhai ohonoch yn cofio rhannau o’i ddyddiaduron yn ymddangos o dro i dro yng ngholofn Y Fainc Sglodion gan J.W. Jones erstalwm o dan yr enw ‘Dyddiadur Hen Chwarelwr’.  Wel, yn ei ddyddiadur am Chwefror 4, 1897 dywed hyn:
"Clywed bod cerrig yn dyfod i’r golwg yn Lefel Tai Frest".  
Wrth gwrs, enw ar yr hen dai sy’n adfeilion uwchlaw Plas Waenydd yw Tai’r Frest, ynte?  Ynddynt y preswylia nifer o drigolion Talwaenydd yn y dyddiau gynt.

A throi ein golygon ar y ceunant unwaith yn rhagor, daw i’m cof y pwll a fyddai yn ei waelod erstalwm ac a elwid yn Llyn Gro.  Weithiau, ar ôl llif mawr ceid clamp o firthyll ynddo, hwnnw wedi ei gario i lawr yr afon a’r ceunant, wrth gwrs.  Drwy ddilyn yr afon o’r pwll gwelir hi’n diflannu o dan dwnel bach am ysbaid ac yna yn ailymddangos uwchlaw lle o’r enw Pant yr Afon.  Disgrifir y rhan yma o’r fro gan Dr. Robert Roberts (Isallt) yn ei gerdd ‘Chwarelau Blaenau Ffestiniog Ddoe a Heddiw’ fel hyn:
‘Cae Drain a Bryn Tirion, Tai’r Frest, Pant yr Afon,
A’r Cribau’n adfeilion (i’n dynion fu’n do).
Tŷ Crwn a’i un simdda, sydd hefyd yn chwalfa,
A’r Plas ar ei seiliau’n preswylio’...  
-----



Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 1988, mewn cyfres o'r enw 'Llên Gwerin'.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon