"A’i fel hyn ‘roedd hi?" Dyna mae 'T.W' yn holi yn yr erthygl hon o rifyn Ebrill 1988.
Dafydd Roberts yw’r awdur, COF CENEDL III yw’r gyfrol, a’r testun yw golwg arall ar fywyd ardaloedd y chwareli. “Gwerthoedd y capel oedd gwerthoedd y gymdeithas” yw un olwg ar yr ardaloedd hyn. Cymdeithas grefyddol, ddiwylliedig, magwrfa beirdd, pregethwyr, a llenorion oedd yn awchus am addysg. Crud radicaliaeth gyda phynciau mawr y dydd yn destun dadl a thrafodaeth yn y caban ganol dydd. Ardaloedd y dosbarthiadau nos a’r W.E.A, gyda dosbarth Tanygrisiau ymysg y cynharaf. Bywyd yn troi o gwmpas y capel a’i bethau ac o gofio yr adeiladwyd 27 ohonynt rhwng Talwaenydd a Cwmorthin yn unig, rhaid derbyn fod dylanwad crefydd yn drwm ar y fro.
Nid yw’r awdur yn gwadu hynny am foment. Ceisio y mae ail-gloriannu beth yn union a ddigwyddodd yn y gorffennol. Ac o gofio bod nifer o dafarnau yn y Blaenau – 52 meddai rhywun wrthyf fi – yna mi roedd y rheini mor niferus a’r capeli. Â’r awdur ymlaen i gyfaddef fod darpariaeth helaeth ag eang gan y capeli ar gyfer eu haelodau. Fel enghraifft yn Soar, Penygroes yn 1912 cafwyd dadl ar ddameg y mab afradlon a’r mab hynaf yn cario’r dydd gyda 49 pleidlais a dim ond 12 i’r Mab Afradlon. Yn wir mi roedd yna gyfarfodydd o bob math.
Ond erbyn 1920 daeth newid gyda sefydlu neuaddau YMCA yn y Blaenau a Llan a llawer llan arall. Cafodd y Neapolitan Opera Company groeso arbennig yma ar waethaf traddodiad y Gymanfa Ganu ac ymhen ychydig o flynyddoedd daeth y ffilmiau a’r sinemau. Ond bernir mai’r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gollodd anghydffurfiaeth rhai o’i gwerthoedd mwyaf hanfodol oedd un achos pam y collodd y capel ei ddylanwad. Bu cryn wrthgilio wedi’r rhyfel honno. Erbyn 1922 cwynai gohebydd Y Genedl fod gan y chwarelwyr ifanc fwy o ddiddordeb mewn pêl-droed, paffio, betio a darllen llyfrau diwerth na mewn gwir ddiwylliant. Erbyn 1925 cwynai Silyn Roberts bod y bwci yn medru byw yn fras yn y Blaenau.
Bu ymdrechion i droi’r llif yn ôl drwy dduo colofnau betio’r papurau yn y llyfrgell. Roedd meddwi’n broblem hefyd. Cyfeiria’r awdur at cyn lleiad o son am y dafarn mewn nofelau sy’n portreadu bywyd yr ardaloedd y chwareli a soniai am y ‘deryn nos’. Oedd na rai yn y Blaenau tybed? Ym Methesda (Arfon) byddant yn cario parseli o’r stesion ond gyda’r nos byddai ganddynt waith arall. Roedd y cotiau llaes a wisgant yn ddelfrydol i guddio poteli a jygiau a gariant o ddrysau cefn tafarnau i dai ddigon parchus.
Wrth derfynu dywed yr awdur:
“nid saint oedd chwarelwyr Gwynedd i gyd, ac nid yw yn deg nac yn gywir i haneswyr eu portreadu felly”.
Ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng de a gogledd yn hyn o beth. Mi fuasai’n ddiddorol cael gwybod os oes sail i sylwadau Dafydd Roberts am fywyd yn ardal y chwareli. Rwyn siwr y byddai’n falch iawn os y buasech yn ei oleuo.
Tueddu i or-ddweud braidd, dybiwn i. Ni fu eried 52 tafarn y Blaenau, ac yn sicr, doedd dim cymaint á hynny o fannau addaoli 'chwaith. Ond mae'r damcaniaeth i grefydd ddechrau cilio o'r fro wedi'r Rhyfel Mawr yn ffaith.
ReplyDelete(Cywiriad - 'addoli, nid addaoli!)
ReplyDelete