10.9.18

Mae'r Llechi'n Disgleirio

I gyd-fynd efo'r thema DŴR yn rhifyn Medi eleni, dyma erthygl fonws ar y wefan yn unig. Mi ddaliodd Llafar Bro i fyny efo'r ddarlunwraig leol, Lleucu Gwenllian, a'i holi hi dros banad.


Diolch yn fawr i chdi am gyfrannu celf unigryw eto eleni ar gyfer thema rhifyn Medi, DŴR. Oedd o’n destun hawdd i’w ddarlunio? Sut es di ati i ddewis y cynllun?
Dwi wrth fy modd yn cyfrannu at fy mhapur bro! Roedd o’n anodd i setlo ar ddyluniad terfynol gan fod y thema mor agored, ond unwaith roeddwn i’n gwybod beth oeddwn i eisiau gwneud, roedd y broses yn llifo’n lot gwell. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i gynrychioli dŵr ‘Stiniog heb droi at  clichés glaw! Daeth darlun o frithyll i’m meddwl i o’r cychwyn – roedd fy hen daid, Emrys Evans, yn bysgotwr o fri ac fe wnaeth o ein dysgu ni i gawio plu pan oedden ni’n blant. Ac er nad ydw i erioed ‘di bod yn llawer o bysgotwraig, mae o’n rhywbeth dwi’n cysylltu efo bod adra, ac efo bod o gwmpas llynnoedd ac afonydd y fro.

Mae’r ddelwedd digidol gorffenedig yn gain a manwl iawn; be ydi’r dull ddefnyddis di i greu’r darn gwreiddiol?
Dull papercut wnes i ddefnyddio ar gyfer y darn - Dwi’n defnyddio scalpel feddygol i dori patrwm mewn papur.


Mae’n edrych yn waith cywrain ac anodd; ydi’r dull yn rhywbeth ti’n ddefnyddio’n aml? Be arall wyt ti wedi gynhyrchu?
Mae o’n ddull dwi’n hoff o ddefnyddio – mae’n gallu bod yn ffordd reit gyfyngedig o weithio gan fod rhaid ffeindio y balans perffaith rhwng manylder a hanieithrwydd (yr elfen abstract), ond dwi’n hoff o hyn gan ei fod o’n gorfodi fi i fod yn greadigol o fewn parameters reit gul. Dwi’n cael trafferth bod yn greadigol weithiau os oes gen i ormod o ryddid.

Yr unig beth ydi darn papercut mewn gwirionedd ydi cyfres o dyllau yn gweithio efo’i gilydd i gynrychioli rhywbeth arall. Does dim posib defnyddio cysgod na lliw, felly mae’n rhaid meddwl am sut i gynrychioli gwahanol textures a phwysau a lliwiau efo’r tyllau bach ‘ma. O berspectif ymarferol hefyd, mae angen meddwl sut fydd y darn yn aros efo’i gilydd – un toriad anghywir sydd angen ac mae’r darn i gyd yn disgyn yn dipiau.

Dwi’n hoff o weithio efo paent ac inc, a dwi wedi bod yn gweithio lot mwy efo photoshop yn ystod y flwyddyn ddwythaf. Dwi wrth fy modd yn creu printiau leino a screenprint hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth dwi eisiau canolbwyntio mwy arno yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae un arall o dy luniau di ar dudalen Gweplyfr/Facebook Llafar Bro, yn dangos cwt weindio inclên toman fawr yr Oclis- paent dyfrlliw wnes di ddefnyddio i wneud hwnnw ia? Ydi dyfrlliw yn gyfrwng ti’n ddefnyddio’n rheolaidd hefyd?
Yndi – paent dyfrlliw ydi fy hoff gyfrwng i ers i mi fod yn blentyn. Mae’n gyfrwng reit amlbwrpas ac yn ffordd lot mwy rhydd o weithio. Mae’n gyfrwng da i gofnodi pethau yn sydyn os dwi allan yn braslunio mewn caffi neu wrth fynd am dro, ond mae’n bosib mynd i fanylder ar ddarn mwy gorffenedig  hefyd. Mae’n gallu bod yn anodd i reoli sut mae’r paent yn gwaedu a’n llifo weithiau ond dwi’n meddwl fod rhywbeth neis am beidio a chael rheolaeth lwyr dros gyfrwng – mae’n golygu fod dim posib gwybod sut fydd darn terfynnol yn edrych tan ei fod o yna, wedi gorffen!

Mae llawer yn cyhuddo Bro ‘Stiniog o fod yn le llwyd, gwlyb a diflas, ac mae goleuni a lliw yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn hanfodol mewn celf, am wn i. Sut mae dy filltir sgwâr wedi dylanwadu ar dy waith?
Dwi’n meddwl fod pobol sy’n cyhuddo Blaenau o fod yn llwyd a diflas heb dreulio digon o amser yma! Mae’n ddigon hawdd peidio a sylwi ar pa mor dlws ydi bro Ffestiniog, ond dwi’n meddwl na un o’r pethau gorau am fod yn berson creadigol ydi ein bod ni’n tueddu i wneud ymdrech i sylwi ar fanylion bach. Efallai fod y tomeni a’r tywydd yn gallu ymddangos braidd yn ddiliw weithiau, ond mae’r llechi’n disgleirio yn yr haul wedi’r glaw, a dail y coed yn wyrdd mwy llachar a ffresh. A does 'mond angen i rywun fynd am dro i lawr i Gwm Bowydd tra mae clychau’r gog yn eu blodau, neu i fyny’r mynyddoedd tra fod y grug allan i weld môr o biws a glas. A dwi’n meddwl mai fy hoff olygfa i yn y byd ydi machlud dros y Moelwynion yn yr hydref. Mae cyhuddo’r fro o fod yn ddiliw yn anheg.

Mi fyswn i’n gallu sgwennu traethawd hir am sut mae fy milltir sgwar yn dylanwadu ar fy ngwaith. Y themâu sy’n tueddu i droi fyny yn fy ngwaith dro ar ôl tro ydi natur; hud a lledrith; a phobol. Dwi wedi bod yn lwcus iawn, gan fod fy nheulu wedi meithrin diddordeb mewn natur ynddai, ac wedi dysgu enwau’r planhigion a’r adar a’r anifeiliaid ac enwau lleoedd i mi. Dwi’n lwcus iawn hefyd fy mod i wedi tyfu fyny mewn ardal lle mae chwedlau o’n cwmpas ni ym mhobman, ac mae cryfder y gymdeithas wedi gwneud i mi gymryd diddordeb ym mywydau pob dydd pobl.

Gan ein bod yn rhoi pwyslais ar ddŵr yn Llafar Bro y mis yma, pa mor bwysig ydi dŵr yn dy gelf?
Dwi’n meddwl ei fod o’n rhywbeth dwi’n ei gymryd yn ganiataol yn hytrach na’n rhywbeth dwi wedi meddwl yn ddwys amdano, gan fy mod i’n rhoi mwy o bwyslais ar grefft a manylder nag ar waith conceptual fel rheol.

Wedi meddwl am y peth, mae’n sicr yn cael effaith anuniongyrchol – pan dwi dan bwysau neu angen amser i feddwl, dwi’n tueddu i fynd i eistedd at afon neu lyn, neu at y môr pan dwi’n gallu. Mae ‘na rywbeth am sŵn bwrlwm afon neu donnau’n torri sy’n rhoi tawelwch meddwl i fi, ac o lonyddwch fel ‘na mae syniadau’n tueddu i ddod. 

Oes gen’ ti gomisiynau eraill ar y gweill, ‘ta wyt ti’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar be sydd o dy flaen yn y Brifysgol wrth i ti gychwyn ar dy flwyddyn olaf yng Nghaerdydd?
Mae gen i lond llaw o gomisiynau ar y gweill ar y funud, sy’n gyffrous ofnadwy! Dwi’n lwcus iawn fod pobl wedi cymryd diddordeb yn fy ngwaith i yn ddiweddar, ac mae’r cwrs yn y brifysgol yn fodlon bod yn hyblyg i adael i mi weithio ar y rhain fel rhan o’r drydedd flwyddyn. Mae gen i siop Etsy i werthu printiau, ond mae hwnnw wedi bod ar wyliau gen i ers pedwar mis gan fod bywyd wedi bod yn reit brysur yn ddiweddar! Dwi’n gobeithio ail-agor hwnnw’n fuan, a dwi’n gobeithio cyd-weithio efo artistiaid eraill ar gwpl o brosiectau, felly dwi’n edrych ymlaen at y flwyddyn sy’n dod!

Be wyt ti’n obeithio’i wneud ar ôl graddio?
Dwi’n ama ‘na gofyn hyn ‘di’r ffordd cyflyma’ o wneud i fyfyriwr grïo - dwi ddim yn hollol siwr eto! Mi fyswn i’n hoffi gweithio fel darlunwraig freelance, ond mae’n cymryd dipyn o amser ar ôl graddio i wneud enw i chi’ch hun, felly mae’n siwr y bydd hi’n chydig o flynyddoedd cyn fyddai’n gallu gwneud hynny’n llawn amser. Mi fyswn i wrth fy modd yn gweithio mewn stiwdio animeiddio ar y gwaith pre-production a visual development, yn datblygu'r straeon a’r cymeriadau, neu mi fyswn i wrth fy modd yn gweithio fel dylunydd ffasiwn neu decstiliau. Mi fyddai’n reit hapus beth bynnag wna’i mewn gwirionedd, os oes ‘na bensel yn fy llaw!

Diolch, a phob lwc efo dy astudiaethau ac i’r dyfodol.
Lleucu ydi deilydd ysgoloriaeth Rawson gan Gyngor Tref Ffestiniog eleni, a gobeithiwn fedru rhannu ychydig o’i hanes ar ôl iddi fod i Batagonia. 

Gallwch weld mwy o'i gwaith ar Instagram: @lleucu_illustration.

Printiau ar gael ar Etsy




1 comment:

  1. Diolch iti am yr uchod Lleucu. Dy dalent yn disgleirio trwy'r geiriau. Dal ati i fod yn destun balchder dy deulu annwyl.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon