23.4.18

Pwy enillodd gwpan Sioe Geffylau 1898?

Erthygl gan Dewi Prysor.

Yn y lluniau isod mae cwpan arian hardd a roddwyd fel gwobr i’r ‘Best Tradesman’s Turn Out’ (y masnachwr oedd wedi gwneud yr ymdrech orau i addurno ei geffyl a throl, mae’n debyg) yn Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog 1898.

Mi welwch o’r orgraff sydd arni ei bod wedi ei chyflwyno gan William Parry, Ocsiwnîar o Flaenau Ffestiniog. Tydi hi ddim yn glir os mai cyflwyno’r gwpan i’r enillydd, fel noddwr a gŵr amlwg o’r ardal, wnaeth Mr Parry, neu os mai fo a gomisiynodd y gwpan, talu amdani, yn ogystal â’i chyflwyno fel gwobr.

Mae’r gwpan yn tua troedfedd o daldra, a ffrind i fy nhad o Wyddelwern ydi ei pherchennog erbyn hyn, wedi iddo’i phrynu hi mewn siop antiques yn Wrecsam yn ddiweddar. Mae o’n awyddus i wybod mwy am hanes y gwpan, y sioe geffylau, William Parry ac, yn bwysicach, ac os yn bosib, pwy oedd yr ennillydd? O ran hynny, mae’r perchennog yn awyddus i ddod o hyd i deulu’r ennillydd yn y gobaith y byddai ganddyn nhw ddiddordeb ynddi.


Dwi’n falch o dderbyn cais fy nhad i helpu’r ymchwiliad trwy rannu’r lluniau â darllenwyr Llafar Bro. Yn ogystal â bod o gymorth i’r perchennog aduno’r gwpan â disgynyddion ei hennillydd, mi fydd y darn bach o hanes yma yn siwr o ennyn diddordeb llawer o drigolion a haneswyr y fro.

Felly, os oes rhywun sy’n darllen y geiriau hyn yn cofio eu taid neu hen daid yn ennill, neu yn sôn am ‘ei dad’ neu ‘ei daid’ (neu berthynas arall) yn ennill y gwpan hardd yma, cysylltwch efo fi, neu efo golygyddion/gohebyddion Llafar Bro.

Da hefyd fyddai cael ymateb gan haneswyr y fro ynghylch y bonwr William Parry a Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog.

Dwn im os oes cofnodion i’w cael gan rywun. Mae’n bosib iawn bod rhai i’w cael yn hen bapurau newydd yr ardal, ac mae’n debyg mai yr Archifdy fydd y stop nesa i gael gafael arnyn nhw, oni bai fod gan rywun y wybodaeth wrth law.

Ond i ddechrau, dyma wthio’r cwch i’r dŵr trwy drosglwyddo’r hanesyn i ddarllenwyr ffyddlon Llafar Bro. Mi ddechreuith o drafodaeth, o leiaf. Felly, gan ddiolch i fy nhad, Ned Hendra, a’i ffrind o Wyddelwern am y lluniau, edrychaf ymlaen am ymateb ar dudalennau papur bro gorau Cymru.

Dewi Prysor
----------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.



1 comment:

  1. Daeth yr ateb isod gan John Arthur Jones o fewn dyddiau i gyhoeddi'r pwt uchod yn Llafar. Diolch iddo.

    "Enillydd y gwpan sioe geffylau oedd Griffith Jones (Eglwyswen), masnachwr llefrith yn Blaenau. Mi gei di weld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cambrian News and Merionethshire Standard, 3rd June 1898)."

    Yn ôl John Arthur Jones, mae y cofnod yn dangos cyfeiriad pawb arall lleol a enillodd wobrau, felly mae'n credu fod Griffith Jones yn byw yn Eglwyswen yn hytrach na Stinog. Yr unig Eglwyswen y medraf gael hyd iddo ydi hwnnw sydd ger Aberteifi - lle pell ar y diawl i ddod i werthu llefrith! Tybed oes yna Eglwyswen agosach i Stiniog - fferm yn un o'r plwyfi cyfagos, falla?

    Diolch eto i John Arthur Jones.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon