3.6.17

Ffarwelio a Diolch

Wedi nifer o flynyddoedd ar y safle yng nghanol y dref, daeth diwedd ar wasanaeth Swyddfa’r Post. Yn ffodus, ni fydd y post yn diflannu’n gyfangwbl, fel y gwnaeth banciau’r ardal yn ddiweddar, oherwydd i siop Eurospar, ger y Parc gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth. Llawer o ddiolch i Gwynn Jones, y postfeistr a’i staff am eu gwasanaeth cwrtais a chymwynasgar dros y blynyddoedd.

Dechreuoedd Gwynn fel postmon 43 blynedd yn ôl, ac wedi 4 blynedd o droedio’r strydoedd, penderfynodd fynd 'tu ôl i’r cownter’ yng nghangen Swyddfa’r Post yn Llanrwst. Yn 1978, wedi chwe mis yn Llanrwst, daeth y cyfle i ddod i weithio i gangen y Blaenau, dan ofal y postfeistr ar y pryd, y diweddar Gwynfor Francis. Y clercod eraill ar y pryd oedd Wil, Llys Morfa, Megan Powell a Margaret Einion. Eraill a fu’n gweithio ar gownter y post hefyd oedd Keith Owen a Megan Jones. Yn ddiweddarach ymunodd Gillian â’r gwasanaeth, a da yw cael dweud y bydd hi yn cario ‘mlaen gyda’i dyletswyddau yn y post newydd.  22 mlynedd yn ôl, penderfynodd Gwynn a’i briod, Margaret gymryd y cyfrifoldeb o’i rhedeg. Bellach, penderfynodd y ddau ei bod yn amser ymddeol, a chael treulio mwy o amser gyda’r teulu.

Dymuna Gwynn a Margaret ddiolch i bawb am ei cefnogaeth dros y blynyddoedd. Dymunwn ninnau, fel ardalwyr ddiolch eto i’r ddau ohonoch am eich gwasanaeth gwerthfawr drosom. Dyma gyfle i ni ddweud diolch am y gwasanaeth ‘Dosbarth Cyntaf’ a dymuno ymddeoliad hapus, haeddiannol, a hir oes i’r ddau ohonoch! Ar yr un pryd, dymunwn lwyddiant i’r Swyddfa Bost ar ei safle newydd.
 

* * * * *

Ar ôl 26 mlynedd yn gwasanaethu fel fferyllydd yn siop D. Powys-Davies, fe ymddeolodd Andrew Martin. Graddiodd fel fferyllydd yng Nghaerlŷr. Roedd ei swydd gyntaf yn Banbury, cyn symud i Birmingham am bedair blynedd.  Yna treuliodd chwe mlynedd ym Mangor, cyn dod i'r Blaenau yn 1991.

Llun- Dafydd Roberts
Hoffai ddiolch i holl staff y fferyllfa am eu gwaith caled a chydwybodol dros y blynyddoedd. Diolch hefyd i staff y Feddygfa ac i Bryn Blodau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth. Yn bwysicach na dim, diolch o galon i holl gwsmeriaid y Blaenau a'r cylch am eu ffyddlondeb. Dymuna’n ogystal bob llwyddiant a hapusrwydd yma yn y Blaenau i Steffan John a Gwenno, rheolwyr newydd y fferyllfa.



* * * * *
Wedi blynyddoedd maith yn cadw siop ‘Cambrian Boot’ (Siop Esi gynt), mae Mrs Beryl Jones wedi penderfynu ymddeol. Fe gychwynnodd helpu allan yn y siop efo ‘Anti Esi’ pan yn 12 oed, cyn dechrau’n llawn amser yno pan adawodd yr ysgol yn 15 oed.

Llun o dudalen FB Siop Esi
Ar wahân i gyfnod o 10 mlynedd pan symudodd hi a’i gŵr i fyw i Awstralia (ble roedd ei chwaer yn byw), mae hi wedi bod ynghlwm â’r siop. Er, yn ddiddorol iawn, tra’n byw ym mhen arall y byd, be feddyliwch chi oedd gwaith Beryl? Gweithio mewn siop ‘sgidia wrth gwrs!

Pan ddychwelodd y teulu i Gymru yn 1985, penderfynodd Esi ei bod hi’n bryd ymddeol ac felly fe gymrodd Beryl drosodd.

Hoffai Beryl ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r busnes dros y blynyddoedd  gan ddweud  “Mae wedi bod yn fwynhad ac yn bleser cael rhedeg busnes yn y Blaenau.” Ond y newydd da ydi y bydd y busnes yn parhau yn y teulu gyda’i merch-yng-nghyfraith, Delyth Jones Evans yn cymryd drosodd.


-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2017


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon