15.6.17

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -Brwydr Gaza

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Daeth y newyddion drwg drwy'r wasg o golledion mawr ymysg milwyr o 'Stiniog, yn ystod brwydr Gaza, yn y Dwyrain Canol ar yr 20fed o Ebrill 1916. Enwir y saith milwr a laddwyd yn adroddiad y North Wales Chronicle:
Sarjiant Richard Davies, Bron Barlwyd;
Is-Gorporal J.E.Lloyd, watchmaker, Stryd Fawr;
Preifat R.Ellis, Bryn Twrog, Glanypwll;
Preifat H.O.Parry, Bryn Awel, Tanygrisiau;
Preifat John Thomas, 120 Ffordd Manod;
Preifat David Ellis, 96 Stryd Fawr; a
Preifat Bob Powell, Dwyryd House. 
Yn ychwanegol i'r uchod, yr oedd 19 arall o'r fro hon wedi eu clwyfo, ac mae'n debygol mai dyma'r nifer uchaf o golledion a ddaeth gerbron milwyr o'r dref hon mewn un frwydr yn unrhyw ran o'r Rhyfel Mawr.

Yr oedd y newyddion drwg o golledion ar y ffrynt yn cyrraedd tudalennau'r wasg yn wythnosol, ac yn wir, yn cynyddu fel yr elai'r rhyfel ymlaen. Un o'r milwyr lleol a gollodd ei fywyd ar ddechrau mis Mai oedd Hugh Granville Williams, a gwympodd yn Ffrainc ar yr 8fed o Ebrill. Lluniodd y bardd Bryfdir gerdd er cof amdano:


Ymrestru wnaeth heb gyfrif
Y gwaith yn ormod tasg,
A chafodd fedd mewn dalar oer
Dan wenau loer y Pasg;
Ei gyfoed yn Ffestiniog
A ganant lawer cainc
O glod i'r bachgen, gwrol fryd
Sydd heddiw'n fud yn Ffrainc.


Trist iawn oedd darllen hanes rhieni milwr o’r ardal yn derbyn llythyrau gan eu mab, rhai dyddiau wedi iddynt dderbyn y newyddion drwg ei fod wedi ei ladd yn y brwydro. Mae geiriau’r Preifat Bob Powell, Dwyryd House yn y llythyrau Saesneg i’w fam a’i dad yn ddirdynnol. Ac yntau wedi ceisio cysuro’i rieni ei fod yn hollol saff, ac yn ffyddiog y byddai’n goroesi’r rhyfel, roedd y newyddion drwg o’i golli wedi cyrraedd o flaen y llythyrau hynny.

"Rhaid oedd imi gadw’r llythyr, i aros i’r mail fynd" meddai, gan gyfeirio at Jack Griffith, Ffordd Cwmbowydd, ei bartner cwsg, chwedl yntau. Cyfeiriodd hefyd at "Meirion, Library, yn y dug-out nesaf ataf. Mae’n hynod boblogaidd, ac yn ddoniol, a gelwir ef ‘Yr Hen Berson'."

Gyda’i ffydd yn ei Dduw yn dal yn gadarn, roedd yn hyderus iawn gyda’i eiriau dilynol:
"Mae newyddion da am y rhyfel wedi dod yn ddiweddar, ac yn rhoi ysbrydoliaeth inni wrth glywed hynny. Fedrai ddim disgrifio’r teimlad pa mor falch oeddwn o ddeall eich bod yn hyderus y caf fy achub. Ni fum yn amau hynny erioed, ac wedi rhoddi fy hun i ofal Duw ers tro, a byddaf yn gweddïo’n aml  Gorchuddia ‘mhen di-amddiffyn/ Gyda chysgod Dy adain."

Dyddiad y llythyr hwnnw oedd yr 2ail o Fawrth, 1917. Ymhen pythefnos, roedd wedi anfon llythyr arall, ei olaf i’w deulu, dyddiedig 16 o Fawrth. Roedd cynnwys hwnnw hefyd yn llawn gobaith a hyder am gael dod trwy’r brwydro’n saff. Cynhwysir isod y rhan olaf o lythyr Bob Powell i’w rieni yn y Blaenau.

"Nid oes angen ichi boeni fy mod mewn unrhyw beryg’, oherwydd ein bod ugeiniau o filltiroedd o unrhyw frwydro. Mae’r Almaenwyr a’r Twrcïaid yn encilio. Mae hyn yn arwydd da fod diwedd y rhyfel yn agos."

Ychydig wyddai Bob ar y pryd mai diwedd ei fywyd ef oedd yn nesáu, ac nid diwedd y rhyfel. Ac wedi diolch am roddion a dderbyniwyd ganddo, a chofion at ei nain ac eraill, gorffennodd ei lythyr megis "Hoping you are keeping well and happy same as myself, Tons of love, Bob."

Bu farw y Preifat Bob Powell, Dwyryd House o anafiadau a dderbyniodd ar faes y gad yn Gaza, ar 28 Mawrth 1917.
------------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Pabi gan Lleucu Gwenllian


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon