Bydd y Ganolfan newydd yn agor gyda hyn, meddan nhw, a hynny flwyddyn a mwy ers i Ysbyty Tywyn weld agor ward 16-gwely ac adran pelydr-X newydd sbon.
Ond peidiwch â phoeni!
Yn ôl swyddogion y Betsi, ac ambell un arall yn lleol, mae pethau gwych ychwanegol yn ein haros ninnau hefyd – sef llu o ystafelloedd ymgynghori a fydd yn wag ac yn segur am y rhan helaethaf o bob wythnos, a rhes o swyddfeydd ar y llawr cyntaf yn hawlio’r olygfa wych dros Gwmbowydd; golygfa a fwriadwyd gan y cynllunydd gwreiddiol, Clough Williams Ellis, ar gyfer cleifion yn gwella o’u hanafiadau a’u salwch.
Ydi, mae’r blaenoriaethau wedi newid llawer ers i’r Betsi ddod i rym!
Ers 2009, pan ddaeth y Betsi i rym, mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi gadael i ddarllenwyr Llafar Bro wybod, o fis i fis, am bob cam o’r frwydr yn erbyn cynlluniau’r Bwrdd Iechyd. Cawsoch glywed am ein cyfarfodydd nid yn unig efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ond hefyd y Cyngor Iechyd Cymunedol, Aelodau Cynulliad yng Nghaerdydd, Comisiynydd yr Henoed yng Nghymru, a sawl unigolyn arall.
Fel y medrwch ddychmygu, mae’r ohebiaeth a fu dros y blynyddoedd yn doreithiog iawn erbyn heddiw a gyda hyn bydd cyfle i bwy bynnag sy’n dymuno, bori’n ddigidol drwy’r cyfan yn archifdai a llyfrgelloedd y sir.
Yn y cyfamser, diolch eto i’r niferoedd ohonoch sydd wedi cefnogi’r ymgyrch dros y blynyddoedd ac sy’n parhau i wneud hynny hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd.
GVJ
------------------------------------
Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon