Difyr oedd darllen adroddiad am gael Bwrdd Iechyd Lleol i’r ardal ym mhapur newydd Y Dydd (Mehefin 16, 1876) a’r gohebydd o’r un farn â llawer un arall mai dŵr Llyn Manod oedd y gorau yng nghymdogaeth Ffestiniog.
Llun gyda diolch o wefan Cymdeithas Enweiriawl y Cambrian |
Dywed hefyd fod angen Bwrdd o’r fath cyn y gellid symud sawr afiach y tomennau (sbwriel), cabanau moch ac ysgarthion ffosydd heintus. Ychwanega y bydd hi’n ofynnol i’r aelod a benodwyd yn Demlwr Da, yn Rhyddfrydwr trwyadl ac yn meddu ar ddigon o annibyniaeth meddwl ac amgylchiadau i wneud ei ddyletswydd heb ofni gwg, yn ogystal a bod yn Gymro da o ran ei allu i siarad y ddwy iaith, yn ŵr cymwys i ymresymu ac i wrando ar reswm ar unrhyw fater.
Tybed pwy all ddweud wrthym pwy a gafodd y swydd?
-----------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon