29.5.17

O San Steffan i’r byd Serameg

Byd y cartwnydd 'Mumph'.

Ar Stad Bryn Coed oedd fy nghartref cyntaf yn Llan, ond wedi ychydig fisoedd (efallai blwyddyn neu ddwy) fe symudon ni i’r tai cyngor a gafodd eu hadeiladu ar hen safle Capel Engedi, y tri tŷ sy’n cysylltu Belle Vue a Heol yr Orsaf.

Er maint bychan y pentref, mawr oedd yr ardal. O Afon Cynfal i Lyn Sleid a Chwarel Bwlch, doedd na ddim modfedd sgwâr heb ei droedio neu’i harchwilio gan fy ffrindiau a minnau wrth i ni chwarae a hel drygau. Mae fy nghof yn llawn helyntion ac anturiaethau, un o’r prif lefydd i chwarae oedd tas wair Pyrs y Ffarmwr, er roedd hi’n llawer mwy na thas wair i ni’r plant. Yn wir, fe allai fod yn unrhyw beth boed yn babell syrcas, tŷ bwgan neu gampfa - ein dychymyg oedd yr unig rwystr! Ond lwc owt os byddai Pyrs yn eich dal chi yno! Roedd llond ceg o gerydd ganddo yn sicr o wneud i ni feddwl ddwywaith am werth mynd yn ôl yno tro nesaf. Ond yn ôl yno bydden ni’n mynd.

Pentref llawn bwrlwm oedd Llan fy mhlentyndod yn y chwedegau a’r saithdegau. Llawer o siopau, banc, dau dŷ tafarn a gorsaf heddlu. Ond i mi, roedd cyfoeth Llan yn ei chymeriadau, a thra mod i’n cofio gwneud defnydd o’r siopau, y Neuadd a chae pêl-droed Coed Brain, tydi’r atgofion ddim yn dod yn fyw heb gofio’r pobl - Sam Llefrith, Glyn Papur a Mable Post i enwi dim ond rhai. Heb sôn am Mrs Jones Siop Gig, fyddai’n gwerthu’r bacwn cartref gorau yn y byd! Dyma wir oedd byw mewn cymdeithas glós Gymraeg.

Yn Gaerdydd efo’r Western Mail oedd fy swydd lawn amser gyntaf. Erbyn hyn roeddwn i’n cynhyrchu cartŵns i’r Independent ac ambell i gyhoeddiad arall fel cartŵnydd llawrydd; ond cynnigwyd y swydd i mi gan olygydd y Western Mail ac fe welais i gyfle, i ddysgu mwy am sut oedd papur newydd dyddiol yn gweithio. Dros y pymtheg mlynedd nesaf, roedd fy nghartŵns yn ymddangos bron yn ddyddiol ar dudalennau’r Western Mail. A dyma ddechrau’r daith wnaeth agor llawer o ddrysau i mi ac rhoi cyfle i mi weithio mewn adeiladau fel Canary Wharf ac yn Millbank, sef swyddfeydd y BBC yn Llundain.

Ges i’r fraint o gyfarfod a llawer o wleidyddion enwog - os mae braint ydi’r gair? Doedd hi ddim yn ddigwyddiad anarferol i dderbyn galwad ffôn gan rhyw wleidydd yn gofyn os byddai’n bosib prynu’r cartŵn oedd wedi ymddangos yn y papur y bore hwnnw. Yn wir, cysylltodd un gwleidydd enwog ac uchel o fewn San Steffan â mi, i ofyn yr union beth. O fewn rhai dyddiau cyrhaeddodd y siec yn y post i dalu am y cartŵn gwreiddiol. Ymhen 'chydig wythnosau, fe gyrhaeddodd siec arall, am union yr un swm, gan union yr un gwleidydd, am union yr un cartŵn. Talu dwy waith? Ew, mae rhaid bod y gwleidyddion yma’n ariannol?!

Ond, er cymaint y golygai fy swydd i mi fod yno i lampŵnio ac weithiau pechu’r gwleidyddion; ‘Mae na fistar ar bob Mistar Mostyn’. A tydi byd y cartŵnydd yn ddim gwahanol! Mistar y cartŵnydd ydi’r golygydd, ac ar adegau, gofynnwyd i mi dynnu ambell i gartŵn ar bynciau nad oeddwn i bob tro yn cytuno â nhw neu efallai yn anghydweld â nhw. O ganlyniad i hyn, fe benderfynais ddod o hyd i ffordd o gyhoeddi cartŵns fy hun, heb orfod gofyn, na gwrando ar unrhyw olygydd.

Fe sefydlais Mugbys, sef cwmni sy’n cynhyrchu mygiau Saesneg ar destunnau Cymreig.  Mae ganddo ni hefyd gasgliad Cymraeg ei hiaith sy’n dwyn y teitl ‘Mygbis’. Dros y blynyddoedd, dwi wedi tyfu i werthfawrogi 'Nghymreictod. Mae cwmni Mugbys yn fy ngalluogi i gynhyrchu cartŵns a digrifluniau sydd yn dathlu ein gwlad a’i phobl yn hytrach na hybu agenda Prydeinig sydd, yn llawer rhy aml, yn tanseilio traddodiadau a diwylliant Cymraeg a Chymreig.

Ar adegau, fyddai’n ystyried yr agenda Brydeinig wrth edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a gwylio’r newyddion ar y teledu. Yn aml, fyddai’n gweld, neu ddarllen rhywbeth sydd yn gwadu bodolaeth yr iaith, neu yn tanseilio’r ffordd Gymreig o fyw. Dyma’r amser fyddai’n meddwl yn ôl i’m dyddiau fel plentyn yn tyfu yn Llan. Y gymdeithas fyrlymus, y cymeriadau onest a gweithgar.

I arall-eirio’r hen ddywediad- ‘Mae posib tynnu’r bachgen allan o Llan ond does dim posib tynnu Llan allan o’r bachgen

[Am fwy o wybodaeth, ac i weld yr holl gynnyrch, ewch i www.mugbys.gift neu gallwch ddilyn ar Facebook a Twitter]
--------------------------------------------

Erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon