18.5.17

Stiniog a'r Rhyfel Mawr- colledion

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Difyr oedd darllen hanes William Jones, Bryntryweryn, Trawsfynydd, ar ei ymweliad â gwersyll milwriol Litherland, lle roedd rhai o fechgyn y pentref yn cael eu hyfforddi cyn gadael am y ffrynt. Un o’r newydd-ddyfodiaid yno oedd y bardd adnabyddus, Hedd Wyn, ac roedd William yn awyddus iawn i’w gyfarfod. Ymhen dim, fe’i harweinwyd o amgylch y gwersyll, a chael ei anfon i Hut Hedd Wyn, a chael croeso mawr gan y bardd.

Roedd y gŵr ifanc yn amlwg wedi setlo’i mewn y dda yno. Cymaint felly, fel y cyfansoddodd englyn am Wersyll Litherland i William Jones. Cyhoeddodd Y Rhedegydd yr hanes, a’r englyn ar y 3ydd o Fawrth 1917.
Gwel wastad Hutiau’n glwstwr, a bechgyn
Bochgoch yn llawn dwndwr;
Ag o’i wedd fe ddwed pob gŵr –
Dyma aelwyd y milwr.
Yn rhifyn 6 Mawrth 1917 o'r Herald, datgelwyd i'r Captain Evan Jones, erbyn hyn, Plas Cwmorthin,
gyfrannu £5 tuag at gronfa i gael cofgolofn i golledion y rhyfel o'r cylch. Ychydig wyddai Evan Jones ar y pryd y nifer uchel o enwau dynion o'r fro fyddai'n cael ei harysgrifio ar y gofeb arfaethedig honno. Os oedd dinasyddion y fro mor barod i gynnig eu gwasanaeth er budd 'eu gwlad', nid felly yr ymateb i'r alwad am roddion ar gyfer codi cofeb i golledigion y rhyfel. Ond, rhaid oedd ystyried y sefyllfa economaidd  yn yr ardal ar y pryd, gyda chymaint o ddynion allan o waith, neu wedi ymuno â'r fyddin. Fel y dywed gohebydd y North Wales Chronicle yn ei golofn 'Y Golofn Gymreig: O'r Moelwyn i'r Betws', 23 Mawrth:
Sibrydir mae pur araf ar y cyfan y daw rhoddion i law ar gyfer cofeb dewrion Ffestiniog. Dymunol fuasai gweled mwy o fywyd yn y mater. Mae ein bechgyn wedi aberthu popeth er ein mwyn ni, a'r lleiaf peth a allwn ninnau wneud yw ceisio bwrw ein ceiniogau prin i'r drysorfa er cael cofeb deilwng ohonynt ymhob ystyr. Hyderwn y penderfyna pawb wneud ei oreu yn y dyfodol.
Cyhoeddodd Y Rhedegydd dri llythyr hirfaith a anfonwyd gan filwyr o’r ardal oedd yn gwasnaethu gyda’r fyddin ar 17 Chwefror 1917. Byddai llythyrau o’r fath yn cael eu trosglwyddo gan deuluoedd y milwyr, ac ar brydiau’n llenwi mwy nag un dudalen o’r papur. Roedd ceisio cynnwys yr holl lythyrau, lluniau ac erthyglau yn ymwneud â’r milwyr yn sicr o fod yn anodd i’r golygyddion. Oherwydd prinder papur yn gyffredinol, roedd y papurau newyddion wedi gorfod lleihau nifer y tudalennau am gyfnod yn ystod y rhyfel. Nid yn unig y cynhwysai’r Rhedegydd erthyglau wythnosol am ddatblygiadau’r brwydro, roedd hefyd  dudalen reolaidd gyda naws leol arni, dan bennawd ‘Ein Milwyr’.

Yn ychwanegol, gwelid newyddion lleol yr ardaloedd eraill oedd yn nalgylch y papur, ynghyd â nifer o eitemau eraill. Yng ngholofn ‘Ein Milwyr’, cafwyd hanes y colledigion, a’r milwyr o’r fro a anafwyd, ynghyd â lluniau y rhai a laddwyd, ac eraill oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Croesawyd milwyr oedd adref ar leave o’r fyddin, a chafwyd geiriau dwys gan y golygydd yn aml, megis rhain, yn rhifyn 24 Mawrth 1917:
‘Boed cysgod y Nefoedd dros eu bywydau gwerthfawr wedi yr elent yn ôl i’r drin ofnadwy.’
Cyhoeddodd Y Rhedegydd restr o enwau’r milwyr o’r ardal a gollodd eu bywydau yn y rhyfel, y Roll of Honour yn y Saesneg, gyda dros drigain  o enwau arni hyd at yr adeg honno. Gwelwyd rhestrau eraill gyda llawer mwy o enwau’r colledigion hynny dros y misoedd dilynol.

Pedwar brawd y teulu Smart o'r Blaenau fu'n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr. Ted, Arthur, Wil Norman ac Archie (taid Elwyn Willliams, Stryd Dorfil)  Diolch i Elwyn am y llun.
Fel un a fu'n recriwtio chwarelwyr i ymuno â chatrawd o fwynwyr i dwnelu dan ffosydd yr Almaenwyr, byddai'r Cadben Evan Jones yn sicr o gymeradwyo'r ffaith fod cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Cenedlaethol wedi bod o amgylch y fro tua'r adeg hon i ddosbarthu taflenni i annog pobl i gynnig eu gwasanaeth er budd y wladwriaeth. Meddai'r North Wales Chronicle ar 23 Mawrth
'Dywedir nad oes ond ychydig iawn yn gwrthod rhoddi eu henwau fel yn barod i wneud rhyw wasanaeth neu gilydd i'r wlad yn nydd ei chyfyngder.'
Ysgrifenodd Lifftenant-Gyrnol C.H.Darbyshire, Penmaenmawr, lythyr i'r un rhifyn o'r papur, gyda'r newyddion fod recriwtio chwarelwyr ar gyfer y Quarry Battalion yn mynd ymlaen yn dda iawn. Yr oedd yn bersonol yn hawlio'r fraint honedig o recriwtio dros ddau gant o'i gyd-chwarelwyr, a'u hanfon i Ffrainc. Ychwanegodd fod angen mwy o chwarelwyr i ymuno â'r fataliwn honno.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon