25.5.17

Rhod y Rhigymwr -llyfryn bach cyfrinachol

Cefais nifer o lyfrau difyr yn ddiweddar gan Beryl Williams, Bryn Brisgyll, Llan Ffestiniog. Mae Beryl ar fin mudo i Harlech, ac yn awyddus i gael gwared ag ambell lyfr. Ymysg y rhai a roddodd i mi, mae teipysgrif a gyhoeddwyd gan R. J. Williams, Fronheulog, Gellilydan – ‘Atgofion, Cymeriadau a Dywediadau Diddorol’ – a welodd olau dydd ryw ddeugain mlynedd yn ôl.

O fewn dalennau’r deipysgrif, ceir hanesion hynod ddiddorol am ben uchaf Cwm Prysor ac ardal y Traws gan fwyaf. Ond mae yma hefyd lawer o rigymau ac englynion fel y rhain:

I’r Craswr gan Hedd Wyn

Nid anghlod yw gwneud englyn – er croeso
I’r craswr penfelyn,
Drwy y wlad, wel dyma’r dyn
I droi’r yd ar yr odyn.

Hwyrach y gŵyr rhywun pwy oedd y ‘craswr penfelyn’ oedd yn y Traws dros ganrif yn ôl. Gyrwch air!

Chwilio am Wraig  (awdur anhysbys)

Am wraig mae Wil yn chwilio - o rai blin
Tair o’r blaen fu ganddo!
Un annwyl, ffoniwch heno –
Tre Tair Iâr – rhif ‘tri-tri-o!’

Englyn ysgafn digon smala gydag enw ‘gwneud’ y dre’n addas i un oedd wedi cael tair gwraig eisoes.

Dyddiadur gan Bob Owen, Croesor

Awn iddo yn feunyddiol – i osod
Hanesion personol;
Llyfryn bach cyfrinachol
Ddaw i ni â ddoe yn ôl.

Mae’r englyn yma’n rhedeg yn hollol rwydd ac yn ddisgrifiad tan gamp o ddyddiadur.


Cwmorthin gan Ioan Brothen

Isel bant yng nghesail byd – yw y cwm
Ac oer le anhyfryd,
A chroenllom graig ddychrynllyd
Guddia haul rhagddo o hyd.

Dwn i ddim faint o ddarllenwyr ‘Llafar’ fyddai’n cytuno â’r disgrifiad cignoeth yma!

Cwmorthin -"oer le anhyfryd"?    Llun Paul W
Dynes Dew gan ‘J.R.’

Yn ei braw uwchben ei bron - a rhegi
Nes rhwygo’r bais neilon,
Lowri felltithiodd gloron
A staes ‘rôl ennill tair stôn.

Mae enw ‘J.R.’ dan nifer o englynion yn y gyfrol. Tybed a ŵyr rhywun pwy ydoedd?

Dyma flas yn unig. Bydd rhagor yn ymddangos o bryd i’w gilydd siŵr o fod.
---------------------------------------------


Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

2 comments:

  1. Fy Wncl Bob, gŵr Anti Mary chwaer fy nhaid yw R J Roberts (nid R J Williams, fel y dywedir yn yr erthygl uchod.)
    Mae'r llyfryn hwn gennyf i, ac mi ydw i wedi sgwennu amdano yn Barddas (gan gynnwys rhai o'r englynion uchod), ac yn Llafar Gwlad hefyd. Diolch.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Dewi. Mi yrra'i dy sylwadau ymlaen at Iwan.

      Delete

Diolch am eich negeseuon