27.3.16

Trem yn ôl -Plas Tanymanod

Mae llawer o hen dai a phlasdai Bro Ffestiniog wedi diflannu bellach. Dyma bennod o'r gyfres Trem yn ôl: erthyglau o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', yn trafod un ohonynt

TANYMANOD
Disgrifwyd hen blasdy Tanymanod gan y ddiweddar Mrs K. Jones-Roberts (Tai hanesyddol Blaenau Ffestiniog a’r Cylch. Cyf. 3; tud. 263-274) fel yr unig dŷ sy’n sefyll yn y Blaenau heddiw sydd o ddiddordeb hanesyddol. Bellach ‘ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy’. Fe’i tynnwyd i lawr, ac adeiladwyd tai del yn y llecyn a elwir yn awr yn Maes y Plas.

Safodd yr hen dŷ am dair canrif. Trigai’r Fychaniaid yno yn niwedd yr ail-ganrif-ar-bymtheg – hen deulu Corsygedol, Rhug a Hengwrt. Bu John Vaughan, yr olaf i fyw yno, farw yn ddibriod yn Ebrill 1961. Gwnaeth ef ei orau i gadw’r hen dŷ’n raenus, ond ar ôl ei farw aeth yr hen adeilad ar ei waethaf, yn hanner murddyn. Prynwyd y tŷ cyn hir, yn Hydref 1971, gan Gyngor Ffestiniog a dechreuwyd ei chwalu y flwyddyn ddilynol.

Llun Gareth T Jones, tua 1970
Mae yn Archifau Amgueddfa Werin Cymru lythyr a ysgrifennwyd ym Medi 1959 gan John Vaughan Ysw., i’r  Curadur y pryd hynny, Dr. Iorwerth Peate. Ynddo ceisia olrhain hanes ei hen gartref. Mae’r llythyr, nid yn unig yn ddiddorol ond fe deifl olau ar agweddau yn hanes y teulu. Dyma yn ddiau yw’r ddogfen olaf a ysgrifennwyd ynglŷn â’r tŷ gan un o aelodau olaf hen deulu arbennig iawn. A dyma fras gyfieithiad ohono:

Tanymanod Hall,
Blaenau Ffestiniog.
Annwyl Dr. Peate,
Er pan lwyddais i gael yr hen le hwn wedi ei gofrestru fel lle o ddiddordeb hanesyddol ym Mai 1954, bûm yn ymdrechu droeon i gael gafael ar ddyddiad ei adeiladu.
Roedd yr arbenigwyr a ddaeth o Gaerdydd, i bwrpas ei gofrestru, mewn cryn ddryswch ynglŷn â’r adeiladwaith. Rwyf fi o’r farn ei fod, yn wreiddiol, yn un o’r ‘Tai Hirion’, at yr hwn yr adeiladwyd yn ddiweddarach, le croes. Yr awgrym o ddyddiad a roddais i i’r arbenigwyr oedd 1696. Wrth ymadael, eu geiriau oedd, ‘Gall fod yn hŷn nag y tybiwch chwi’ ....
Yr oedd yn wreiddiol yn dŷ fferm, a gwn i’m hendaid ei amaethu. Ar un talcen yr oedd ar un adeg olwyn ddŵr i’r corddwr.
Mor hardd oedd ei sumerydd o dderw du, ac un o’r enghreifftiau godidocaf o’r hen simdde fawr ... yr enghraifft orau a welais i .... Mae talcen y simdde fawr a’r sumerydd cloi yn debyg i’r rhai sydd yn Hafod Ysbyty.
Y mae carreg fedd ym mur un o’r ystafelloedd byw ac arni’r geiriau,
Underneath lieth the body of William
Vaughan of Tanymanod who died on the
third day of June 1763 in the 96th
year of his age ...

Also Anne Vaughan their daughter and
wife of William Richard. She was
buried July 1st 1815 aged 42 years.’
Daethpwyd â’r garreg hon o fynwent Eglwys Ffestiniog pan yn symud yr adeilad ymhellach yn ôl na’i safle wreiddiol...
Eto wedi’i hoelio yn nistyn traws y simdde fawr ceir rhimyn o dderw du a’r geiriau canlynol wedi’u cerfio arno: ‘John Vaughan, Tanymanod 1777.’
Daeth y rhimyn derw du oddi ar gefn sêt y teulu yn Eglwys Ffestiniog. Nid oes angen ychwanegu i ddarganfod y llechi beri bod yn rhaid adeiladu tai, ac i hynny gymryd y tir amaethyddol a berthynai i’r stad; ac yn ddiweddarach i’r Cyngor drwy roi gorchymyn o orfodaeth i ni i werthu tir i adeiladu beth sydd wedi troi allan yn anghenfil o ystad o dai, sydd bellach yn boenus o agos at Danymanod. Dyna pam y gwnaf bopeth yn fy ngallu i sirchau parhâd yr hen dŷ.
Carwn ddweud i’ch enw gael ei roddi i mi gan Mr John Cowper Powys sy’n byw gerllaw.
Yr eiddoch yn ddiffuant,
John Vaughan.

--------------------------------------


Tecwyn Vaughan Jones oedd yr awdur. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1980, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Chwefror 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.

2 comments:

  1. Vivian Parry Williams30/3/16 19:56

    Erthygl ddifyr iawn, diolch i Tecwyn, ac i Pôl am ei hadfer o'r gist atgofion. Dyma pam y mae'r wefan hon mor hanfodol inni.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon