25.3.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -'bwledi yn clecian uwch ein pennau..'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Chwefror 1916
Roedd nifer o lythyrau'r milwyr yn dal i gael eu cyhoeddi gan Y Rhedegydd, ynghyd â lluniau a cherddi lu. Daeth cerdd faith arall gan Glyn Myfyr ddiwedd Ionawr dan y testun 'Cyfarch y Plant Sy'n 'Mhell'. Defnyddiai'r Myfyr lawer o enwau lleoedd yn y gerdd 14 pennill, fel petai i godi mwy o hiraeth ar y milwyr o'r fro oedd yn gwasanaethu gyda'r fyddin Brydeinig.

Ar 5 Chwefror 1916 daeth y newyddion trist am filwr ifanc o Gellilydan, Evan Davies, Llwyn Eifion, yn cael ei ladd yn y brwydro, y cyntaf o'r pentref hwnnw i farw ar faes y gad.

Yr wythnos ddilynol derbyniodd y papur lythyr gan y Preifat Alun Mabon Jones o 'rywle yn Ffrainc', oedd y darlunio sefyllfa'r milwyr yn y ffosydd ar y pryd. Cynhwysir y cyfan eto yn ieithwedd y cyfnod, fel pob dyfyniad yn y gyfres o erthyglau:
...Chwith gorfod troi yn ôl o'r Trenches ambell noson, a bwlch yn y rheng, a chymrawd wedi rhoi ei fywyd yn aberth dros ei wlad. Er hyn oll, rhaid ymwroli ac ail-afael yn y dryll a'r bidog, a bod ar y mur yn gwylio, gan gofio yn aml am y rhai sydd gartref yn gweddïo ar ein rhan. Ni chaniateir i ni ddweyd ond ychydig o'r hanes. Dyddorol iawn fyddai gennyf roi hanes y daith o'r dechreu hyd yma, ond mae dwylaw trwm a llygad craff y 'Censor' yn chwilio ac yn chwalu ein llythyrau, ac yn ein cau i derfynau cyfyng iawn...Da gennyf am ymdrechion diflino Pwyllgor y Red Cross yn Ffestiniog. Maent yn gwneyd mwy o wasanaeth nag a dybient drwy anfon anrhegion i gysuro ein milwyr. Ni wyddoch chwi yna faint mae caredigrwydd cyfeillion yn ei effeithio arnom ni yma. Nid oes dim yn sirioli yspryd y bechgyn, ar ôl cael eu rhyddhau o'r Trenches, ar ôl bod yno am ddyddiau, na gweled y Mail yn ein disgwyl oddiyno. Ac O! y rhedeg a'r holi fydd, gan edrych am barsel neu lythyr. Y drwg yn aml ydyw y bydd y parsel yn rhy fawr, a'n hamser ninau yn fyr cyn gorfod troi yn ôl am y Trenches...
Disgrifiadol iawn oedd llythyr tebyg a anfonwyd gan y Sapper R. Humphreys, ac a gyhoeddwyd ym mhapur Cymraeg wythnosol yr Unol Dalaethau, Y Drych. Dan bennawd 'Gyda'r Sappers yn Ffrainc. Llythyr dyddorol gan un o'r Mwynwyr', nid oedd hwn am ddatgelu enw'r lle yr oedd ynddo, ond '...y mae yn ddigon hysbys i chwi; ni chaf ei enwi, ond gwnewch o allan.'

Rhoddodd ddarlun o'r gwaith paratoi oedd yn ei wneud, megis torri dugouts a llenwi bagiau â thywod, i wneud tŷ ohonynt, tŷ gyda digon o le i 36 gysgu ynddo. Yna disgrifir y fangre yr oeddynt ynddo, gan gyffelybu’r lle â'r 'Hen Wlad oddeutu Ffestiniog'.

Roedd yn gweld Tŷ Nant y Beddau yn ei ddarlun, a'r dirwedd oddiyno yn debyg iawn i'r mawndir dros y Migneint i gyfeiriad Llechwedd Ddeiliog. Wedi breuddwydio am ychydig am ei hen gynefin gartref, daw realiti'r sefyllfa ato'n sydyn, wrth ddisgrifio bywyd yn y ffosydd.
'Dyma ddechreu gofidiau; dŵr a chlai at hanner ein gliniau, ac felly y byddwn am tua milldir a hanner, wrth gael un troed yn rhydd y mae y llall yn glynu yn y clai a'r bwledi yn clecian uwch ein pennau...'
Anfonodd y Preifat David Morris lythyr, a cherdd o werthfawrogiad i Jennie Hughes, Ysgrifennydd Cymdeithas y Groes Goch yn Nhrawsfynydd, i ddiolch am garedigrwydd yr aelodau tuag at y milwyr.

I ferched glew Trawsfynydd
Rhof ddiolchgarwch llwyr
Am gofio am ein meibion
Sy'n ymladd fore a hwyr;
Ni raid i'n ddioddef anwyd
O'n traed na'n cefnau mwy
Tra bo calonnau cynnes
Yn curo yn y plwy'.

Parhewch i ddal eich 'baner'
I fyny tua'r nen,
Os coch y 'nawr, daw amser
'R'aiff yn eich dwylaw'n wen,
Mae'ch aberth ar yr allor
Yn siŵr o droi ryw awr
Yn 'fuddugoliaeth' fythol
Yn hanes Prydain Fawr.

---------------------------------------------------
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon