19.3.16

Senedd Stiniog

Pytiau o’r Cyngor Tref. 
Addasiad o'r golofn newyddion a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2016.

Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn nifer o glybiau, mudiadau, a gweithgareddau diwylliannol a hamdden yn ein cymuned. Gyda hynny mewn golwg, bu galw ar y Cyngor Tref i gydnabod ac i ddathlu’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr drwy sefydlu gwobrau ‘Gwirfoddolwr y flwyddyn’.

Nid yn unig fydd hyn yn dweud diolch, ond yn gyfle hefyd i hybu gwirfoddoli, gan annog eraill i wirfoddoli yn y gymuned. Fe eiliwyd y cynigiad a bydd yr Is-bwyllgor Adnoddau yn trafod ymhellach.

Cafwyd cais arall i’r Cyngor Tref ddylunio holiadur er mwyn canfod barn trigolion yr ardal ar ddyfodol y rheilffordd o’r Blaenau i Drawsfynydd. Gan fod y cynnig yn gofyn i’r Cyngor Tref drefnu bod pob un annedd o fewn ffiniau’r Cyngor yn derbyn holiadur fe benderfynodd y Cyngor ohirio gwneud penderfyniad a’i drafod ymhellach mewn Is-bwyllgor.

Cafwyd diweddariad gan y Clerc ar y gwaith o greu gwefan i'r cyngor a chafwyd gwybod bod rhai Cynghorwyr yn hwyr yn rhoi paragraff syml amdanynt! Penderfynodd y Cyngor y dylai colofnau Senedd Stiniog ymddangos ar y wefan a phenderfynwyd hefyd i wneud ymholiad i ofyn am yr hawl i ddefnyddio gwybodaeth o’r llyfr ‘Senedd Stiniog’, sydd yn olrhain hanes yr Hen Gyngor Dinesig.

Yn dilyn cais am gymorth ariannol gan Cyngor ar Bopeth (Gwynedd a Môn) tuag at eu costau o ddarparu cyngor annibynnol am ddim i bawb ar hawliau a phroblemau, penderfynodd y Cyngor i gyfrannu £200 at y gwasanaeth.

Cafwyd cyfarfod arbennig o’r Cyngor Tref er mwyn trafod a gosod y braesept ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, sef 2016/17. Oherwydd cynnydd sylweddol yng nghyfrifoldebau’r Cyngor, sef biniau halen, cyfrifoldeb am gadw’r celfi yng nghanol y dref o fis Ebrill 2016 ymlaen a’r cyfraniad llai mae’n ei dderbyn gan Gyngor Gwynedd am y llwybrau cerdded - sydd bron iawn yn 100 milltir - fe benderfynodd y Cyngor i godi’r dreth 50c yr wythnos i bob tŷ ym mand D.
Bedwyr Gwilym

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon