11.3.16

Llyfr Taith Nem- Celwydd Golau


Pennod arall o atgofion dechrau’r ganrif ddwytha' gan Nem Roberts, Rhydysarn.

Y mae gan pob ardal ei phen celwyddwr

Yn ystod fy aml deithiau, cwrddais a llawer cymeriad o bob math. Rhyfedd fel mae’r Bod Mawr wedi creu pawb a phob peth yn wahanol. Fel rheol cymeriad anturiaethus sydd yn cymeryd y cam mawr o adael gwlad, ond fe aiff rhai oherwydd ofn. Eraill yn mynd oherwydd rhyw rodres, ac i mi, dyma’r cymeriad mwyaf annifyr i fod yn ei gwmni ydyw’r cymeriad rhodresgar.

Un tro tra yn croesi o Southampton i Efrog Newydd ar un o’r llongau mwyaf, syrthiais i sgwrs a rhyw wr. Yr wyf fi yn siaradwr go lew, ond ni ches gyfle i gael gair i mewn gyda’r brawd yma. Yr oedd, meddai ef, wedi bod yn beldroediwr mawr, yn wir y mwyaf welodd y byd erioed. Gwelais yn fuan fod ei ddychymyg yn fwy na’i ffeithiau, a’r celwyddau yn amlach eu rhif na’i wirioneddau, ond nid oedd gennyf ddewis ond gwrando.Yr oedd yn chwarae gyda rhyw dîm, ac os oedd unrhyw gic gosb, efo oedd i’w chymeryd gan fod ei gic mor erchyll.

Un diwrnod, meddai ef, yr oeddynt yn chware yn erbyn tîm o dref gyfagos, ac yn ystod y gêm, baglwyd un o flaenwyr ei dîm, a rhoddwyd gic gosb rhyw ugain llath oddiwrth y gôl. Fel arfer, efe gymerodd y gic gosb. Yr oedd yn gic mor enbyd, fel na chafodd y golgeidwad gyfle i godi ei freichiau a tharawyd ef yn ei ben gan y bêl. Disgynodd y golgeidwad drwy’r rhwyd tu ôl i’r gôl, a chymaint oedd nerth y gic, fel aeth y bêl i fyny yn uwch ac uwch, ac o’r golwg yn y cymylau, a chan nad oedd pêl arall ar gael, rhaid oedd darfod y gêm ar unwaith.

Meddyliais fod y stori yn darfod yn y fan yna, ond ymlaen â‘r storiwr. Dwy flynedd wedi hynny, meddai, yr oedd ar daith ac yn edrych ar Raeadrau y Niagara, wrth ben y trobwll mawr. Tra yn edrych ar ogoniant yr olygfa, yn sydyn, dyna beldroed yn disgyn o’r awyr ar ei ben ac yna yn disgyn i drobwll. Er cymaint y perygl, tynodd ei gôt i ffwrdd a phlymiodd i eigion y trobwll dychrynllyd.

Rhaeadrau Niagara. Defnyddir trwy Drwydded Dogfen Rhydd GNU, o wefan Wicipedia

Yr oedd yn nofiwr heb ei ail, a chafodd afael yn y beldroed, a nofiodd yn gryf at y lan. Nid oedd obaith iddo ddod o’r dwfr ond mewn un lle bychan, ac fel y digwyddodd hi, yr oedd arth enfawr yn sefyll yn y fan honno. Cyrhaeddodd y lan, a dyna’r arth yn cerdded yn araf i’w gyfeiriad. Rhoddodd y beldroed yn ei law chwith, ac yna, yn sydyn, gwthiodd ei fraich dda i lawr gorn gwddf yr arth.

Tagodd yr anifail, a syrthiodd i’r trobwll, le y llyncwyd ef i’r eigion. Dringodd y cyfaill y graig serth yng nghanol cymeradwyaeth torf fawr oedd wedi ymgasglu. Coelio neu beidio, y bêl honno oedd yr un aeth ar goll ac ôl y gic erchyll ddwy flynedd yn flaenorol!

Bu’r beldroed, meddai ef, yn mynd o amgylch y byd am amser maith, a chroniclwyd yr hanes ymhob rhan o’r byd. Hwyrach fy mod yn un gwirion yn gwrando ar y brawd, ond yn reit siwr yr oedd ef yn wirionach yn dweud y fath stori.
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon