3.3.16

Bwrw Golwg- Un a gafodd goleg!

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl am Edwin Owen (1887 - 1973), gwyddonydd o Stiniog, gan Wyn Penri Jones.

Fel un o fabis y pumdegau, drigain mlynedd yn ddiweddarach mae’r cyfryngau’n parhau i edliw pa mor dda yw hi arnom ni - y baby boomers bondigrybwyll.  O ystyried caledi ac erchylltra hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, does dim dadl bod amodau byw rhai fel fi a’m cyfoedion yn dipyn gwahanol erbyn heddiw.

Doedd Stiniog y 50au a’r 60au ddim yn eithriad i’r math hwnnw o edliw, gyda’r hynafgwyr yn ystrydebu, hyd at syrffed weithiau, ac yn holi’n rhethregol am eu cyfoedion - “Lle byddai hwn neu hon erbyn hyn petai wedi cael colej?”.  Cymysgedd oedd yma o rannu caledi eu cyfnod hwy a’r dull Stiniogaidd cynnil, caredig, o gymell ac o gefnogi ein cenhedlaeth ni. 

Yma ‘dw i am godi cwr y llen ar un o hogia Stiniog a gafodd ‘golej’ a hynny yn nechrau’r ugeinfed ganrif; cyfnod sydd wedi ei groniclo yn hynaws gan un o’i gyfoedion, sef T H Parry-Williams. 
Mis Hydref eleni traddodwyd darlith yn y Llyfrgell Genedlaethol dan y pennawd:  ‘Copenhagen a Chymru’, darlith wedi’i seilio ar un o gewri ffiseg mwyaf yr ugeinfed ganrif, sef Niels Bohr. Y darlithwyr oedd Dr Rowland Wynne a’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts.  Wrth hyrwyddo’r digwyddiad pwysleisiodd y Llyfrgell enwogrwydd  Bohr ‘am ei waith arloesol fel un o sylfaenwyr mecaneg cwantwm a roddodd arweiniad ac ysbrydoliaeth i genedlaethau o ffisegwyr, a ddaeth wedyn, lawer ohonynt, yn fyd enwog.’ 

Canolbwynt y ddarlith oedd y berthynas rhwng Bohr a gwyddonwyr o Gymru.  Roedd un, sef William Ewart Williams (1894 – 1966), yn enedigol  o Rostryfan a’r llall, Edwin Augustine Owen, yn hogyn o Stiniog. 

Edwin Owen- ar y chwith yn y rhes gefn. Mwy o fanylion isod.

Bu Edwin Owen yn gyfaill i Bohr o’r amser y bu’r ddau yn ymchwilwyr yn labordy Cavendish, Caergrawnt (1911/12) ac mae’n debyg bod y berthynas wedi goroesi hyd farwolaeth Bohr yn 1962, fel y tystia nifer o lythyrau rhwng y ddau, sydd i’w canfod heddiw yn archif Bohr yn Copenhagen. Nodir yn un o’r rheini bod Bohr wedi treulio ychydig ddyddiau o wyliau gydag Edwin Owen yng ngogledd Cymru.  Dichon, felly, iddo ymweld â Stiniog!

Yn sicr, mae arbenigedd academaidd a gwaith treiddgar y ddau ddarlithydd uchod yn gymwynas hynod werthfawr i Gymru a’r iaith Gymraeg.    Gan fod Rowland yn ffrind da i mi, fe fanteisiais ar y cyfle i’w holi ymhellach, a thrwyddo fo, Gareth Roberts am Edwin Owen.   Mae’r ddau wedi bod yn hael wrth rannu eu ffynonellau gyda mi, yn ogystal â chytuno i’w rhannu yma. Ymysg eraill, maent yn cynnwys erthygl yn Y Traethodydd a  sgwrs radio ‘Y dyn a’i dylwyth’  recordiwyd yn 1946, lle mae Edwin Owen yn adrodd rhywfaint o hanes ei fywyd a’i yrfa. Mae copi caled o’r sgwrs yn archifdy Prifysgol Bangor.

Roedd Edwin Owen yn fab i John ac Ellen Owen. Dyma sut yr adroddodd beth o’i hanes yn y sgwrs radio rywdro:
‘Chwarelwr oedd fy nhad, yn ddarllenwr mawr, ac yn medru meistroli’r hyn a ddarllenai. Nid ysgrifennodd nemor ddim oddigerth dau draethawd buddugol mewn cystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol – un yn Eisteddfod Blaenau Ffestiniog yn 1898 ar y pwnc, “Chwarelau, Mwyngloddiau a Llaw-weithfeydd Sir Feirionydd, yn cynnwys awgrymiadau gyda golwg ar eu datblygiad”, a’r llall yn Eisteddfod Caernarfon yn 1906 ar “Chwarelyddiaeth". Cefais fy nerbyn yn gyflawn aelod yng nghapel y Garregddu … Symudasom i gapel Maenofferen pan adeiladwyd y capel hwnnw, am ei fod yn agosach i’m cartref na’r Garregddu.’
O’m cof i o leoliad y ddau gapel, prin yw’r pellter rhyngddynt, ond o ystyried amlder y mynychu bryd hynny – dipyn o hen sdép mae’n amlwg!  

Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog lle disgleiriodd yn y celfyddydau. Yna, yn 1905, enillodd le ym Mhrifysgol Bangor i astudio Mathemateg a Ffiseg a graddio gydag anrhydedd yno yn 1909.  O ganlyniad, dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i dreulio dwy flynedd (1910-12) fel myfyriwr ymchwil yn labordy enwog Cavendish, Caergrawnt, a dyna lle y bu iddo gyfarfod gyda Niels Bohr.  Yno bu’n gwneud gwaith pwysig ar Ymbelydredd o dan lygad barcud yr athro ffiseg J. J. Thompson, darganfyddwr yr electron ac enillydd Gwobr Nobel mewn ffiseg yn 1906 am waith ar gludiad trydan mewn nwyon.   

Yn dilyn hynny, aeth y gŵr o Stiniog i weithio i adran Fesureg y National Physical Laboratory. Parhaodd ei ymchwil i Belydr X a ffiseg atomig pan ymunodd â choleg Prifysgol Llundain, cyn ei benodi yn 1926 i gadair Ffiseg ei hen goleg ym Mangor. Yno, sefydlodd adnoddau ymchwil oedd yn adnabyddus yn fyd-eang a dyfarnwyd iddo ystod eang o urddau a gwobrau rhyngwladol yn ei faes.  

Yn 1915, priododd Edwin Owen â Julia May Vallance a ganed iddynt un mab. Yn ogystal â derbyn cydnabyddiaeth rhyngwladol am ei waith, bu hefyd yn weithgar yn ei gymuned leol ym Mangor; roedd yn gadeirydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru o 1946 hyd 1956; yn llywodraethwr Ysgol Ramadeg Bangor ac ysgol breifat Rydal ym Mae Colwyn.  Fe’i hurddwyd gan yr orsedd.  Nodir ei ddiddordebau fel golff (gorfodol i ddyn o’i safle ef, fe dybiwn!) a physgota, y diddordeb hwnnw wedi’i feithrin, siŵr o fod, yn ystod ei fagwraeth yn Stiniog.

Dros yr wythnosau diwethaf, wedi holi ambell i gydnabod lleol, ac o gofio i Edwin Owen farw ond ychydig dros ddeugain mlynedd yn ôl, mae’n od nad wyf wedi taro ar rywun â chof clir amdano. Od hefyd na chlywais i sôn amdano tra’n tyfu i fyny yn Stiniog, er cael clywed digon am Einstein ac eraill. A doedd enw Bohr ddim yn gwbl ddieithr imi chwaith yn y blynyddoedd hynny. Ac, yn rhyfedd iawn, dim gair amdano chwaith yn Y Gwyddoniadur!

Rhyfedd hefyd, nad oedd Edwin Owen yn destun trafod i hynafgwyr Stiniog ym mhump a chwedegau’r ganrif diwethaf.   Beth allai’r rheswm fod, tybed? Oedd natur gwaith Edwin Owen yn ei ddyddiau cynnar yn Cavendish yn rhywbeth estron i’r hynafgwyr hynny? Neu a oedd gorfodaeth arno, oherwydd natur ei waith, i gadw’i ben o dan y pared? Oes yna agwedd ddiddorol, tybed, i’w ymfudo i Fangor yn 1926?

Neu, o gofio bod Edwin Owen wedi’i fagu yn sŵn diwygiad 1904-05, tybed oedd rhywfaint o wrthdaro bryd hynny rhwng y Stiniog ôl-ddiwygiad a gwyddoniaeth yr oes?
..............................

[Gol. (GVJ) – Dyma lun (uchod) o'r criw cyntaf o’r Ysgol Sir i raddio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor (1907 dwi’n tybio). O’r pump yn y rhes gefn, Edwin Owen yw’r 1af ar y chwith a John Morris (brawd Dr Joseph Morris a’r Archdderwydd William Morris) sydd ar ben arall y rhes. Mrs John Jones-Roberts yw’r ail ferch o’r chwith yn y canol. Bu i ddau o’r criw, sef Richard Jones (agosaf at Edwin Owen) a John Roberts (canol y rhes flaen) gael eu lladd yn y Rhyfel Mawr.]

--------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon