15.3.16

Bwrw Golwg- John Thomas Dolgarregddu

Erthygl gan W. Arvon Roberts, am ffawd Cymro ifanc yn Rhyfel Cartref America.

Brwydr yr Anialwch oedd y frwydr gyntaf yn Ymgyrch Trostir Virginia rhwng y Cadfridog Ulysses S. Grant a’r Cadfridog Robert E. Lee a byddin y Conffederadiaid yn y Rhyfel Cartref yn America.  (Roedd taid Lee o ochr ei fam yn hanu o Gaernarfon gyda llaw).  Cychwynnodd y frwydr ar Fai y 3ydd neu’r 4ydd, 1864. 

Tacteg Grant oedd symud yn gyflym trwy goedwigoedd trwchus Anialwch Spotsylvania ond anfonodd Lee ddau gorfflu i geisio’i atal.

Ar fore’r 5ed o Fai cafwyd brwydro ffyrnig a barhaodd hyd dywyllwch y nos ond roedd y sefyllfa’n anodd ac yn ddryslyd wrth i’r ddwy ochr geisio symud yn y coedwigoedd. Daeth terfyn-dros-dro ar yr ymladd ar y 6ed o’r mis a drannoeth symudodd Grant i’r de-ddwyrain, gyda’r bwriad o adael yr Anialwch ond arweiniodd hynny at frwydr waedlyd Llysdy Sportsylvania.  Dioddefodd y ddwy ochr golledion aruthrol. Lladdwyd 18,400 o filwyr Grant, collodd Lee 11,400 ac anafwyd miloedd eraill.

Un o’r Cymry a ymladdai gyda 5ed Catrawd Gwirfoddolwyr Vermont ym Mrwydr yr Anialwch oedd John Thomas. Collodd ei fywyd ar Fai 5ed, 1864, pan ond yn ddwy ar bymtheng mlwydd oed. Roedd yn fab i Owen M. ac Elinor Thomas a ymfudodd o Dolgarregddu, Blaenau Ffestiniog, i Fairhaven, Vermont.  Methais â chael hyd i ragor o wybodaeth am y teulu hwn yn America gan dybio iddynt efallai ddychwelyd i Gymru.  Gwn fod Thomasiaid o Ddolgarregddu wedi eu claddu ym Mynwent Bethesda, Manod, a gall fod mai yr un teulu oeddynt:- Thomas M. Thomas, Dolgarregddu  (m. 14/7/1865 yn 57 oed) a’i wraig, Mary Griffiths, (m. 20/5/1892 yn 75 oed).

Hefyd o Ddolgarregddu William (m. 18/3/1909 yn 84 oed) ac Ann Thomas (m. 22/10/1902 yn 81 oed) a’u plant – John (m. 5/1/1857 yn 6 mlwydd oed) a mab arall o’r un enw (m. 16/3/1858 yn fis oed). Tybed a oes iddynt ddisgynyddion sy’n dal yn ardal Stiniog heddiw?

Cyfansoddwyd y penillion isod i John Thomas (y milwr ifanc a laddwyd) gan Y Parch David Price (Dewi Dinorwig, Newark, Ohio).  Brodor o Ddeiniolen, Arfon, oedd David Price ac, fel Owen ac Elinor Thomas, cafodd yntau hefyd brofedigaethau llym yn ystod ei fywyd trwy golli dwy ferch yn ifanc.

Marwolaeth Milwr
Pwy all ddeall iaith ochneidiau
Dwysion glywir yn ein gwlad?
Pwy all rifo’r heilltion ddagrau
Wlychant ruddiau llawer tad;
Arfau miniog rwygant galon
Mamau tynner, hawddgar wedd,
Wrth adgofio am eu meibion
Laddwyd gan angeuol gledd.

Yn eu mysg mi’ch gwelaf chwithau
Yn ofidus iawn yn awr,
Wedi colli’ch mab hawddgaraf
Draw ar faes y fyddin fawr;
Syrthio wnaeth yn archolledig
Gyda mil a llawer mwy;
Cludo banner buddugoliaeth
Fu’n farwolaeth iddynt hwy.

Aeth i’r fyddin yn wirfoddol
Llwyr ymroddodd dros ei wlad,
Pan mae’r ymdrech gelyniaethol
Yn y De am wneud ein brad;
Dryllio Sumter* gynt fu’n arwydd
Fod rhyw dywydd du yn dod;
Gwelodd yntau’r angenrheidrwydd
Ddwyn y cledd, fe haedda glod.

Rwyf yn gwybod i chwi gladdu
Annwyl blant oedd i chwi’n gu,
Mawr fu’ch galar dwys pryd hynny
Wrth eu dwyn i’r ddaear ddu;
Ond o holl gystuddiau’ch bywyd,
Ni bu brath mor ddwfn i’ch bron,
Fel y brath a’r clwyfau gafwyd
Pan fu farw’ch annwyl John.

Ond dymunwn i chwi gofio
Dan eich trallod trwm a’ch loes,
Na bu farw’n ddigymeriad,
Aflan, isel yn ei oes;
Fe fu farw’n anrhydeddus –
Marw’n filwr dewraf gaed,
Aberth fu ar allor rhyddid,
Dros gyfiawnder rhoed ei waed.

Gwaed ein milwyr dyr gadwynau
Caethion fyrdd yn chwilfriw man;
Gwaed ein milwyr rwyma’r Undeb
Yn dragwyddol heb wahan;
Gwnaed ein milwyr sy’n cysegru
Holl derfynau maith ein tir,
Yn breswylfa byth i ryddid,
Heddwch a dedwyddwch hir.

Er i’r cleddyf a’i trywanodd
Ef eich brathu dan eich bron,
Nad oes eli all eich gwella,
Tra bo’ch ar y ddaear hon;
Ond mae gobaith all gyfarfod,
Nid yw’r diwrnod ddim ymhell,
Llwyr iacheir eich cylwyfus deimlad
Yn y wlad a’r ardal well.
                       David Price, Newark, Ohio
                       (*Tref gaerog yn Ne Carolina)

-------------------------------------------------------


Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Ionawr 2016.

Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon