Mae Cwmni Y Dref Werdd wedi llwyddo i sicrhau cyllid oddiwrth Cronfa'r Loteri Fawr i weithredu rhaglen o weithgareddau amrywiol fydd yn helpu i wella amgylchedd yr ardal, datblygu sgiliau rhai o’i thrigolion a chynnig cymorth ymarferol i nifer sylweddol o’i phobl i leihau eu costau ynni a gwastraffu llai o fwyd.
‘Rydym yn chwilio am unigolion fyddai a diddordeb yn y swyddi iso:
Rheolydd Prosiect, cyflog £26,000 + cyfraniad pensiwn cyflogwr. Wythnos waith 37 awr. Y person hwn fydd yn gyfrifol am redeg y cynllun o ddydd i ddydd ac yn atebol i fwrdd y cwmni. Cynigir cytundeb 3 blynedd.
2 x Swyddog Prosiect, cyflog £20,000 y flwyddyn +cyfraniad pensiwn cyflogwr. Wythnos waith 37 awr. Bydd y ddau berson yma yn gyfrifol am brosiectau penodol o fewn y cynllun ac yn atebol i’r Rheolydd Prosiect. Cynigir cytundeb 3 blynedd.
Swyddog Cyswllt a Gweinyddol (rhan amser) cyflog £8,900 +cyfraniad pensiwn am wythnos waith 23 awr. Bydd y person hwn yn gyfrifol am y gweinyddiaeth a chadw cyswllt gyda’r gymuned trwy ddulliau y cyfryngau newydd a rhai mwy traddodiadol.
Lleolir y swyddi ym Mlaenau Ffestiniog. Disgwylir derbyn copi o CV yr ymgeisydd ynghŷd â llythyr yn esbonio pam mae diddordeb yn y swydd.
Am fwy o fanylion a swydd ddisgrifiad llawn cysylltwch â – Dafydd Wyn Jones,
dafyddwynjones [at] hotmail.co.uk
Dyddiad Cau ar gyfer ymgeisio Gwener 27 o Chwefror 5pm Cyfweliadau i’w cynnal Gwener 6 o Fawrth.
Plannu yn y parc, Mehefin 2010. Llun Gwydion ap Wynn |
Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddwyd cymorth i lawer o deuluoedd i leihau eu biliau tanwydd trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Bu'n gweithio gyda'r clwb rygbi hefyd i sicrhau arbedion sylweddol ar ei ddefnydd o ynni. Hefyd, fe wnaeth y prosiect helpu i ddarparu 22 o randiroedd i bobl leol gael tyfu eu llysiau eu hunain, yn ogystal â chydlynu ymdrechion i wella ansawdd afonydd lleol, ac i reoli lledaeniad y llwyn ymledol Rhododendron ponticum. A llawer mwy, fel gwella'r parc lleol, rhedeg clwb natur, a gofalu am golofn fisol ar faterion amgylcheddol yn LLAFAR BRO.
Rhandiroedd Bro Ffestiniog. Llun PW |
Mae llawer o bobl yn Ffestiniog yn wynebu ergyd ddwbl o ran biliau gwresogi, gan fod llawer o'r tai wedi'u hadeiladu o gerrig ac felly nid oes cavity yn y waliau y gellir ei inswleiddio. Mewn rhai ardaloedd, fel Tanygrisiau, nid oes modd cyflenwad nwy trwy bibelli, felly rhaid dibynnu ar ddulliau gwresogi drutach.
Cadeirydd y prosiect yw Rory Francis. Mae’n dweud: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Loteri Fawr am eu cefnogaeth. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i holl aelodau ein bwrdd prosiect a chyn-staff y prosiect, sydd wedi gweithio'n galed iawn i lunio cais mor gryf, ac yn enwedig i’n hysgrifennydd cwmni Dafydd Wyn Jones. Rydym wedi siarad â gwahanol grwpiau o fewn y dref a’r tu hwnt ac wedi casglu ugeiniau o enwau pobl sy'n awyddus i gael cymorth i leihau eu biliau ynni er mwyn dangos yr angen ar gyfer y prosiect.
"Erbyn hyn mae gennym dair blynedd prysur o'n blaenau a fe fydd yna gyfle mawr i wirfoddolwyr gymryd rhan yn ogystal â staff cyflogedig. Os hoffech chi gymryd rhan y prosiect, rhowch ganiad i fi ar 01766 830328."
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon