Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif. Y tro hwn, darn a ymddangosodd yn wreiddiol ugain mlynedd yn ôl, yn rhifyn Ionawr 1995.
Dathlu Canmlwyddiant Ysgol y Moelwyn 1895-1995
Agorodd Ysgol y Moelwyn ei drysau am y tro cyntaf ar 15 Ionawr 1895, ond nid o dan yr enw yna, na chwaith yn yr adeilad y mae hi ynddo fo heddiw. Yr enw gwreiddiol arni oedd Ysgol Ganolraddol Ffestiniog, neu’r Ffestiniog Intermediate School. Roedd y Llywodraethwyr wedi prynu tir yn 1894 ond doedd dim arian i adeiladu’r ysgol newydd ar y pryd. Dyna pam mai yn festri Capel Rhiw y cychwynodd pethau – 37 o ddisgyblion yng ngofal y Prifathro ifanc, Frank Paul Dodd, ac athrawes o’r enw Miss Dobell.
Roedd Capel Rhiw yn derbyn rhent o £15 y flwyddyn ar y festri ond aeth honno’n rhy fach yn fuan iawn a symudwyd y merched i gyd i festri Capel Garreg-ddu yng ngofal yr athrawes. Yn 1897 daeth pawb o dan yr un to unwaith eto, yn festri Capel Bowydd y tro yma.
Yn y cyfamser roedd y gwaith o godi arian yn mynd yn ei flaen. Roedd angen dros £7,000 i gyd a doedd y Llywodraeth yn Llundain ddim yn barod i gyfrannu ceiniog! Ond casglodd y chwarelwyr £650, swm sylweddol iawn ar y pryd, a daeth £100 oddi wrth Bwyllgor Lleol Eisteddfod Genedlaethol y Blaenau 1898. Agorwyd yr ysgol newydd ar 15 Ionawr, 1901, chwe mlynedd i’r diwrnod ar ôl dechrau yng nghapel Rhiw, ond gyda £1,646 o ddyled yn aros i’w chlirio. Roedd hi wedi’i hadeiladu ar gyfer 100 o ddisgyblion ond roedd hi’n rhy fach o’r diwrnod cyntaf!
Daeth hi’n fuan iawn i gael ei galw’n Ysgol Sir Ffestiniog (neu’r Cownti) ac yna’n Ysgol Ramadeg. Yn 1953, pan ddaeth A.O. Morris yn brifathro, cafodd y Cownti a’r Central eu huno ond bu’n rhaid aros tan 1969 cyn i’r ysgol gyfan ddod o dan yr un to.
Ddiwedd y ganrif ddiwetha’ ac yn ystod hanner cynta’r ganrif yma roedd pobol ’Stiniog yn enwog led-led Cymru am eu sêl dros addysg i’w plant, ac fe welwyd y plant hynny’n manteisio’n llawn ar y cyfle oedd yn cael ei gynnig iddyn nhw. Daeth llawer ohonyn nhw’n adnabyddus yn genedlaethol.
Yn y County School Magazine 1906, er enghraifft, mae rhestr o enillwyr gwobrau am y flwyddyn honno. Ar y rhestr mae enwau’r tri brawd o’r Manod – William Morris a ddaeth ymhen amser yn Brifardd ac yn Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, John Morris a wnaeth waith gwerthfawr yn casglu alawon gwerin Cymreig ac a ddaeth yn Arolygwr ar ysgolion Cymru, a Joseph Morris a roddodd oes o wasanaeth fel doctor i’w dref enedigol. Yno hefyd mae enwau John Jones Roberts, darlithydd ac ymgeisydd seneddol dros y Blaid Lafur a Kate W. Roberts, y ferch dalentog a fyddai’n wraig iddo ryw ddiwrnod a’r fenyw gyntaf i gael ei phenodi ar Gomisiwn Brenhinol yng Nghymru.
Ac yno hefyd mae enw cyn-ddisgybl go arbennig, sef Edwin A. Owen a enillodd barch mawr fel Athro Ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor. Roedd hwnnw’n amlwg yn gyfnod da.
Ymhen ychydig flynyddoedd, roedd Margaret Lloyd Jones, Quarry Bank, yn mynd i fod y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei chofrestru’n ddeintydd ac yn ein cyfnod ni, John Elfed Jones yn Gadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yn ystod y ’30au roedd yr Executive & Trustees Branch o Fanc y Midland ym Mangor yn lle prysur iawn; yn 1937 roedd pob un oedd yn gweithio yno yn gyn-ddisgybl Ysgol Sir Ffestiniog!
Mae’r Ysgol wedi cynhyrchu’i siar o ysgolheigion yn ogystal a llu o feirdd a llenorion – Peter Macaulay-Owen, O. M. Lloyd, James Walker, Huw Llywelyn Williams, O. Trevor Roberts (Llanowain), T. R. Jones, Gwyn Thomas, Bruce Griffiths, John Rowlands, Eigra Lewis Roberts, Geraint Wyn Jones, Twm Miall ... Mae’r rhestr yn un faith. A llwyddiannau ym myd busnes – Eddie Rea, R. Hefin Davies, Eifion ac Owen Glyn Williams, Meirion Roberts, Idris Price ... Arlunwyr a naturiaethwyr fel Gareth Parry a Ted Breeze Jones a Malcolm Humphreys (Mumph) cartwnydd presennol y Western Mail. A’r llu o actorion ac eraill sydd mor amlwg bellach ym myd y cyfryngau! – Grey Evans, Gwyn Vaughan, Arwel Griffiths, Iwan Roberts, Pauline Williams, Medwen Roberts, Dylan Williams, Garfield Lewis, Ynyr Williams, Huw Eurig .... Cyn ddisgybl hefyd ydi John Ellis Roberts, Prif Warden Parc Cenedlaethol Eryri, gŵr a enillodd lu o fedalau am ei ddewrder dros y blynyddoedd. Ac mae amryw byd o rai teilwng eraill y gellid eu henwi.
Mae llawer o newid wedi bod yn ystod y chwarter canrif diwethaf ac efallai nad ydi manteision addysg mor amlwg bellach yn y byd sydd ohoni, ond braf gweld cyfran dda o blant y cylch yn dal i raddio o’r colegau a’r prifysgolion flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Dalier ati a phob dymuniad da i Ysgol y Moelwyn yn ail ganrif yn ei hanes.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon