Rhan o golofn RHOD Y RHIGYMWR, gan Iwan Morgan, a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2015.
Ymysg y llyfrgell o lyfrau sydd ar silffoedd stydi Tŷ’n Ffridd acw, deuthum ar draws cyfrol fechan ddifyr y diwrnod o’r blaen - Y FLWYDDYN YNG NGHYMRU (detholiad a wnaed dan nawdd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg a Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru - 1943).
Un o’r beirdd y dyfynnir o’i waith yn y gyfrol ydy’r ysgolhaig disglair, John Lloyd-Jones, Dulyn (1885-1956). Cofir amdano’n bennaf fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru. Un o Ddolwyddelan ydoedd. Daeth yn ddarlithydd maes o law mewn Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Dulyn.
Ym Mhrifwyl Rhydaman (1922), cipiodd Lloyd-Jones y gadair am ei awdl ‘Y Gaeaf.’
Canmolwyd hi gan y tri beirniaid - John Morris-Jones, J.T. Job a J.J.Williams, a nododd ei bod yn ‘gyfanwaith glân ac urddasol.’
Adrodd hanes dau gariad a wna, sef Geraint ac Enid. Rhennir hi’n dri chaniad - ‘Gaeaf yr Oed’, ‘Gaeaf yr Ôd’ a ‘Gaeaf yr Oes'. Cyfarfu’r ddau gariad yng nghanol oerni’r gaeaf, a noda Geraint fel y bu’n danfon ei anwylyd i’w chartref yn ‘Hafodunnos.’ Torrodd iechyd Enid yn yr ail ganiad, a bu’n rhaid i Geraint ei danfon i Davos, yn Y Swistir i geisio cael adferiad. Oherwydd ei hiraeth am Gymru, dychwela Enid a’i chariad i’r hen gartref, a daw’r awdl i ben gyda’i marwolaeth hi a’i alar yntau.
Rhyw wynfyd ofer i ni fu Davos,
A dug alarnad o gôl ei hirnos.
Adref dôi Enid i’r Hafodunnos
A’i thirion diroedd, - eithr nid i aros! -
Darfu hud o drefi’r rhos, - a’r miri
A’i frau fawrhydi fu oer farwydos.
Awdl ramantaidd ydy hi, ond un gywrain ddigon gan gynganeddwr medrus o ysgolhaig. Rhamantaidd felly ydy’r eirfa a’i chywair, ond mae’r tair cadwyn o englynion a geir ynddi (12 ymhob caniad), yn dangos cryn feistrolaeth.
Mae’n agor fel yma:
Mynd a dod yw rhod a rhan - yr einioes
Am ryw ennyd fechan;
Aros dro wna’r oes druan
A lle’r llu fydd llawr y llan..... (1)
Gwên a gormes, gwin a gwermod - yw’r oes
Orau un ei chyfnod;
Chwiliwch hi, haul a chawod,
Munudau Duw’n mynd a dod. (12)
Ewch i chwilio am yr awdl yn Siop yr Hen Bost - ‘Awdlau Cadeiriol Detholedig y Ganrif Hon’ (1900-25) - golygydd Eurys Rowlands (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol 1959).
Pob hwyl!
I.M.
[celf gan Lleucu Gwenllian]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon