4.2.15

Stiniog a'r Rhyfel Mawr - y chwareli

Vivian Parry Williams yn parhau'r gyfres sy'n cofnodi canmlwyddiant y rhyfel mawr. Ymddangosodd y darn yma'n wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2015.

Roedd yr argyfwng yn achosi trafferthion mawr i’r chwareli, a’r oriau gweithio’n cael eu cwtogi ym mhob un ohonynt. Erbyn diwedd Awst 1914, yr oedd wythnos waith Chwarel yr Oakeley i lawr i dridiau. Oherwydd hyn, roedd rheolwyr y chwarel yn annog y gweithwyr ifainc i chwilio am waith arall, neu i ymuno â’r fyddin neu Frigâd yr Ambiwlans.

Fel y dywedodd gohebydd y Rhedegydd ar y pryd yn ei adroddiad ‘Effeithiau’r Rhyfel’, yn ieithwedd y dydd, fel ym mhob dyfyniad yng ngweddill yr ysgrifau hyn:

 '...Parodd hynny don o brudd-der mawr trwy yr ardal a’r cylch, gan fod hon yn un o brif chwarelau lle y gweithia o 700 i 800, ac ofnir mai dyna fydd hanes rhai eraill o’r chwarelau, a hynny yn fuan.'

Yn Chwarel Bwlch Slatars, lle'r oedd tua chant yn gweithio ar y pryd, roedd y rheolwr, Mr Bowton, wedi bod draw yn ceisio cysuro’i weithwyr. Roedd yn addo gwneud ei orau i’w cadw mewn gwaith am ddau fis, o leiaf, a daeth hynny â boddhad mawr iddynt.

Mewn cyfarfod o Fwrdd Undeb Ffestiniog ddiwedd Awst, dywedodd Cadwaladr Roberts fod rhagolygon am dlodi mawr yn ardaloedd Ffestiniog os byddai'r rhyfel yn parhau. Awgrymwyd y dylid anfon at berchenogion y chwareli i ofyn iddynt beidio gostwng y cyflog, ac i gadw'r gwaith i fynd cyn hired ag y gallent. Nodwyd yn ystod y cyfarfod for Cronfa Tywysog Cymru wedi ei sefydlu i gyfarfod ag anghenion a achoswyd oherwydd y rhyfel.

Cafwyd hanes yr argyfwng chwarelyddol yn Y Genedl Gymreig tua'r un adeg. Dyma ddywedir yng ngholofn 'Llith o Ffestiniog' y papur ar 1 Medi:

'Difrifol iawn oedd yr olwg ar heolydd y Blaenau ddiwedd yr wythnos ar finteioedd o weithwyr Chwarelau Oakeley, lle nad oedd ond gweithio tridiau yr wythnos ddiweddaf. Mae llu mawr eisoes wedi ymadael am y De a mannau eraill, gan dystio mai y cam cyntaf yw y goreu i geisio ffon bara eu teuluoedd lluosog...'

Yr oedd pryderon am y sefyllfa weith yn achosi poendod i’r trigolion, a nifer o deuluoedd, yn amlwg, wedi gadael yr ardal i ennill eu tamaid. Canlyniad hyn oedd nifer o dai gweigion yn y fro. Bu hysbyseb am rai wythnosau ar dudalennau’r Rhedegydd gyda’r teitl TAI AR OSOD yn datgan fod pedwar o dai ar gael ‘mewn lle iach, yn West End Terrace, Dolrhedyn, am rent hynod o isel yn ystod y Rhyfel.’

Arwydd o ewyllys da rhai o bobl Blaenau Ffestiniog tuag at ddioddefwyr y rhyfel oedd yr wybodaeth fod nifer o ferched yr ardal yn gwneud crysau ar gyfer clwyfedigion y rhyfel. Milwyr o wlad Belg oedd y clwyfedigion hynny. Roedd y gwaith o wneud y crysau dan ofal Miss Smart, o ardal Dorfil o’r dref. Tua’r un adeg fe sefydlwyd cangen o Women’s Voluntary Aid Detachment dan nawdd Cymdeithas y Groes Goch hefyd.

Daeth awgrym am farn rhai o weinidogion yr Efengyl lleol yn rhifyn 5 Medi 1914, cwta fis wedi cychwyn y brwydro. Roedd y Parch. John Hughes, Capel Jerusalem (A), y Blaenau, yn pregethu mewn capel yng Nghaernarfon pan ddywedodd o'r pulpud ei fod wedi bod yn erbyn y rhyfel yn Ne Affrica, ond roedd 'yn bendant dros hon' meddai. Cafwyd lleisiau nifer eraill o weinidogion ac offeiriaid yn dangos eu cefnogaeth i'r rhyfel dros y pedair blynedd o frwydro. Byddai pwysigion yr ardal hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddangos eu teyrngarwch i'w gwlad, Prydain, nid Cymru, ran amlaf, a'u brenin. Un o'r rhai hynny oedd rheolwr chwarel Rhosydd, yr ustus heddwch, Evan Jones. Cymaint ei frwdfrydedd dros y rhyfel, mentrodd ar gyfansoddi cerdd, yn Saesneg i ddarllenwyr Y Rhedegydd, 5 Medi 1914: Dan bennawd 'MR EVAN JONES, U.H. ymysg BEIRDD Y RHYFEL', dyma ddywed y gohebydd:

'Mae yspryd rhyfel, fel dwfr dilyw, yn codi dros bennau'r mynyddoedd. Clywsom fod bannau Chwarel Rhosydd yn llawn ohono, a bod y Goruchwyliwr rhadlon ei hun, yr hwn fuasai'n gwneyd General dan gamp, yn cael ei ysu ganddo. Enynnodd yspryd "Cadben Morgan" ynddo y dydd o'r blaen a throes i ganu:
    
    We, British soldiers, are going to fight
    For King and country with all our might,
    Shoulder to shoulder we will win our way,
    Loyal to duty night and day,
    Facing fire, we all will bravely stand
    Like true British soldiers in every land.
'

Ar ddiwedd y pennill, ychwanegwyd y canlynol:  'Iaith fain neu beidio, mae sŵn y rhyfel yn y pennill yma, a choelia' i byth na ddylai yr awdur gael ei wneyd yn Recruiting Sergeant am ei waith.'

Yn sicr, fe dalodd yr ymddangosiad o wladgarwch ar ei ganfed i Evan, fel y gwelwn yn nes ymlaen yn yr ysgrifau hyn.

(i'w barhau)
Celf gan Lleucu Gwenllian


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon