16.3.14

Pigwr -gwir bris trydan

Colofn y Pigwr o rifyn Mawrth 2014

Yn dilyn y stormydd gwaetha' a gafwyd ers cyn cof yn ddiweddar, cydymdeimlwn yn fawr â'r sawl a ddioddefodd niwed, yn gorfforol, neu i eiddo.  Er na chafwyd niweidiau mawr yma, na llifogydd fel a gafwyd mewn ambell ardal arall dros Brydain, bu i'r gwynt achosi i rai golli cyflenwad trydan am rai oriau. I'w gymharu ag ardaloedd Harlech, Bermo ac Aberystwyth, buom yn ffodus iawn, diolch i drefn. Roedd rhannau helaeth o'r lleoedd hyn heb drydan am ddyddiau, a hynny'n achosi trafferthion a phryderon i ddinasyddion. Er i weithwyr y cwmnïau trydan weithio'n galed iawn, am oriau maith, dan amgylchiadau anodd iawn, gorfod aros am dridiau a mwy bu raid i nifer o bobl Harlech a'r cylch.

A pham meddech chi oedd sefyllfa felly'n codi? Oedd, mi roedd y tywydd yn eithriadol, ac yn creu problemau ledled y wlad, ond yn yr unfed-ganrif -ar hugain siawns nad yw adnoddau modern yr oes yn ddigonol i ddatrys unrhyw anhawster.

Mi dd'wedai wrthych chi pwy sydd ar fai am y fath sefyllfa - NI!  Ia, ni ddaru ganiatáu i'r llywodraeth Dorïaid breifateiddio diwydiannau hanfodol yn y 1980au, gan gynnwys y diwydiant trydan hynod effeithiol oedd yn bodoli'r cyfnod hwnnw. Chodwyd yr un bys gennym, wrth i Thatcher a'i chriw anfoesol ddwyn un o drysorau'r genedl ar y pryd, y Grid Cenedlaethol a'r cwmnïau dosbarthu trydan fel Manweb, o felys goffadwriaeth. 'Preifateiddio' oedd y gair trendi ar y pryd, a chyfranddalwyr yn baglu ar draws ei gilydd i ddod yn rhan o'r gêm gyfalafol, hunanol. Roedd cystadleuaeth yn beth iach iawn, yn ôl Thatcher a'i dilynwyr, a byddai prisiau trydan yn gostwng yn dilyn gwerthu'r trysor hwn yn 'sglyfaeth i gyfalafwyr y farchnad stoc.

Erbyn heddiw, cwmnïau o America, Ffrainc, Japan, yr Almaen a gwledydd tramor eraill sy'n berchen ar Bwerdai Prydain i gyd, a hynny er mwyn elw. Mae nifer y staff wedi'i dorri i'r asgwrn, a phwysau cynyddol ar yr ychydig sy'n weddill. Nid gwasanaeth yw'r diwydiant trydan bellach, ond peiriant gwneud elw i berchenogion a chyfranddalwyr. Mae prisiau trydan wedi  codi'n aruthrol yn rheolaidd dros y blynyddoedd.

Dim ond dechrau mae'r problemau ynni yn y wlad hon, - mae gwaeth i ddod. O! am gael gweld yr oes aur honno'n dychwelyd, pan oedd geiriau fel power cut yn rhywbeth dieithr iawn. Pan oedd tîm o weithwyr lleol ar alw pob awr o'r dydd a'r nos; pan oedd depo ym mhob tre, fel un Dolgarregddu yma yn y Blaenau, dan ofal y peiriannydd campus Dafydd 'Rhen Bost. Dim ond galwad yno i gwyno am fethiant yn y cyflenwad, a byddai'r fforman gweithgar, y diweddar annwyl John Owen a'i griw cydwybodol ar gael i ddatrys y broblem ymhen dim.

Erbyn hyn, mae'r depos lleol wedi diflannu, a niferoedd gweithlu'r cwmnïau trydan wedi ei haneru. Felly, does dim gobaith inni ddisgwyl yr un gwasanaeth dan yr amgylchiadau. Hynny yw, nes y daw newid meddylfryd, a chenedlaetholi'r diwydiannau hanfodol yn ôl dan reolaeth y werin.
                    Pigwr

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon