Rhan o golofn rhifyn Mehefin 2012
Gardd Gymunedol Bro Ffestiniog
Yn dilyn llwyddiant arbennig Y Gymdeithas Randiroedd ar
ei safle yng Nglanypwll, mae’r Dref Werdd yn awyddus i roi tân arni a chychwyn
gwaith ar ddatblygu’r tir sydd rhwng y safle a Rheilffordd Ffestiniog, a’i droi
yn ardd gymunedol. Mae ychydig o waith
eisoes wedi bod ar y prosiect yma, ond er mwyn sicrhau bod y gymuned lawn yn
cael rhoi mewnbwn i unrhyw ddatblygiad, rydym yn awyddus i ymgynghori â chi,
bobl y Fro, a derbyn eich syniadau chi ar y math o gyfleusterau yr hoffech
adeiladu yma i weddu efo’r bwriad o greu gardd gymunedol fydd yn agored i bawb.
Ers i beiriant
tyllu grafu’r arwyneb ar y safle'r llynedd, mae’r pwll gafodd ei greu wedi bod yn gyforiog o benbyliaid, ac mae sglefrwyr pwll yn chwipio ar draws y dŵr. Mae’n amlwg bod potensial yma i ddenu natur a
bywyd gwyllt yn ôl i’r ardal, ac i greu amgylchedd arbennig i bobl Bro Ffestiniog.
Felly, beth hoffech chi weld yno?
Canfas wag yr ardal wyllt. Llun -PW |
Rydym yn chwilio am syniadau ac arweiniad y cyhoedd ar y
math o bethau yr hoffech chi weld yn mynd i’r ardd. Er mwyn bwrw ymlaen efo’r gwaith cynllunio ac adeiladu,
rydym yn awyddus i dderbyn sylwadau’r cyhoedd erbyn diwedd mis Mehefin. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dref
Werdd ar [01766] 832214.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon