Rhan o golofn 'TROEDIO’N ÔL' gan John Norman, yn rhifyn Mai 2012
Mae’r
dasg o godi gardd ar ochr mynydd wedi bod yn sialens hapus. Ni chefais fawr o
gyfle fel plentyn yn Traws i ddysgu sgiliau garddio. Ni chofiaf lawer o flodau
na gerddi lliwgar yn y pentref. Ond heddiw, gwelaf flodau yn y gerddi bach o
flaen rhai o’r tai. Weithiau, byddai darn o dir yn y cefn yn darparu llysiau at
fwrdd y teulu. Yn aml, byddai lliw ym mynwent Pencefn a edrychai dros dai y Stesion
ac ym mynwent yr Eglwys, ar bwys y Sgwâr, a edrychai dros y llyn. Ond wrth
feddwl, roedd un neu ddau o lefydd ffrwythlon, lliwgar ym mhentre’r cerrig
llwydion. Byddai’r carnifal a’i orymdaith bob haf yn llawn o flodau.
Cofiaf i
stryd Pengarreg , bron ar ganol y pentref, arddangos blodau yn ei gerddi bach
ffrynt a thu hwnt i’r llwybr cefn. Cofiaf erddi mawr a’u pridd tywyll yn llawn
o lysiau lliwgar. Rhwng Pengarreg a Frongaled, cofiaf erddi o flaen y tai
Cyngor, a’r Geninhen Pedr yn rhyfela â’r Dant y Llew afreolus. Ar yr ochr arall
i’r ffordd, cadwai Moss Gwynfryn (White Lion) ddarn o dir rhwng y Capel
Wesla ac Efail Twm Gof. Roedd y llysiau a’r ffrwythau yn yr ardd yma yn llawn lliw.
Roedd gerddi braf yng ngwaelod y llan hefyd, yn y
Gwyndy, er enghraifft, a dynion tebyg i dad Percy Hughes yn tyfu llysiau
amrywiol mewn rhesi taclus unionsyth. Wrth gerdded i fyny’r stryd , nepell o’r
ysgol, roedd gardd y gweinidog Annibynwyr,
Môn Hughes - yn daclus a lliwgar, a gardd Tŷ Capel y Methodistiaid yn
uwch i fyny yn cadw at yr un safon. Safai’r Rheithordy mewn gerddi ac roedd
coed croesawgar tu cefn i’r Eglwys. Ond ni chofiaf weld y person yno yn llewys
ei grys! Byddai perllan Glasfryn - gardd y ‘Jarretts’ - yn cynnig ei hun i’r
hogiau’r pentref i ddwyn afalau. Gan ei bod ynghannol y pentref, rhaid oedd bod
yn gyfrwys. Roedd ar gyfer yr Highgate, lle byddai Thomas y Plisman yn
cadw llygad barcud arni. Byddai Elfed ‘P.C.,’ ei fab, yn un o’r gang oedd yn
ymwneud â’r dwyn afalau - a’i bresenoldeb yn ychwanegu ryw elfen anturus i’r
peth.
Nid oedd
y tai y trigais ynddynt yn y Stesion efo gardd mwy na iard fechan i’r cwt glo
a’r tŷ bach.Yn ystod ei yrfa gynnar ar y ‘lein’ yn yr Amwythig, roedd fy nhad
wedi ennill gwobr am gynllunio gardd ar blatfform stesion Horsehay - a
chredai o’r herwydd fod ganddo ddawn arbennig. Llwyddodd i gael darn o dir fel
gardd deuluol ar ochr y lein ger Stesion Newydd Traws. Ond nid fy nhad gafodd y
dasg o dynnu’r cerrig mawr o’r clai yma. Yn hytrach, fy mrawd a minnau fyddai’n
chwysu a thorri cefnau i gael ychydig o datws gwael o’r anialwch oedd wrth
draed y trenau.
Ond
daeth un gardd yn y Stesion â hwyl a lliw i’m plentydod. Roeddwn yn gyfaill i
Raymond Cartwright. Arferwn chwarae gydag ef , a chofiaf yn dda orfod cadw
cwmni iddo yn ei gartref yn Station Road pan oedd yn gaeth i’r tŷ gyda’r clwyf
clustiau ‘mastoid.’ Nid oedd hyn yn broblem gennyf gan fod ei fam yn
gogyddes benigamp - a’i lobsgows yn demtasiwn i unrhyw fachgen ar ei brifiant.
Roedd mynd i fyny’r staer ffrynt a thrwodd i lawr y staer gefn yn gwneud y tŷ’n
lle hynod i chwarae’n egniol ynddo - a hynny heb orfod mynd allan i’r tywydd.
Wedi i Raymond wella, roedd gennym le dirgel a lliwgar i chwarae ynddo - gardd
ei nain - a guddiai ar waelod Station Road, heibio Cae’r Delyn a thua garej Ned
Fôn a Chapel Sinc. Byddem yn chwarae a rhedeg yno ymysg yr ieir a bwyta pŷs,
ffa, gwsberis a mwyar duon.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon