Bachgen o Bentre Berw, Sir Fôn oedd Richard Lewis. Symudodd i ardal Stiniog cyn y Rhyfel Byd Cyntaf i weithio fel Rheolwr ‘Merlin Slabs’ yn Chwarel y Graig Ddu. Priododd Jane Ann Lewis (o Gwm Penmachno) a sefydlwyd eu cartref priodasol yn Glan y Wern, Manod, ac wedi hynny, yn 90 Heol Manod.
Cyn
symud i Stiniog, roedd eisioes wedi bwrw ei brentisiaeth fel saer maen cerrig
beddi ym Mangor. Penderfynodd adael y
chwarel a sefydlu busnes cerrig beddi yn ystod blynyddoedd y Rhyfel 1914/18. Sefydlodd weithdy yn y Manod, yn adeilad Tafarn Glan Gors gynt.
Yn y
blynyddoedd yma ’roedd y chwareli yn cyflogi miloedd o bobl a phoblogaeth ardal
y Blaenau ar ei huchaf. Amser tynn iawn
oedd hi ar deuluoedd y Blaenau - y mwyafrif helaeth yn byw ar gyflogau isel y
chwarel ac angen prynu carreg fedd i’w hanwyliaid. Sylweddolodd Richard Lewis bod yn rhaid
cynnig ffordd haws o dalu dyledion.
Trefnodd iddynt dalu’n fisol - i gydfynd efo‘tâl mawr’ y chwarel.
O ganlyniad, cymerwyd rhai misoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd i glirio
biliau!!
Yn y
tridegau, cafodd ei ethol ar y Cyngor Tref (Ward Manod). Roedd ardal y Manod yn agos iawn at ei
galon. Cynrychiolodd Ward
Manod/Conglywal ar Gyngor Dinesig Ffestiniog am gryn ugain mlynedd. Bu’n ‘Faer y Dre’ am gyfnod o ddwy flynedd,
ac mi frwydrodd yn galed i gael ‘Ysgol’ ac ‘Aelwyd’ yn y Manod. Manteisiodd llawer o fudiadau eraill ar ei
gydweithrediad a’i brofiad.
Ar
ddiwedd yr ail Rhyfel Byd, dychwelodd Gwilym, y mab, i’r busnes. Fe’i rhedodd yn
llwyddiannus hyd at ei ymddeoliad yn 1985. Bu farw Richard Lewis yn Nhachwedd
1948, yn 71 mlwydd oed, ac fel yma mae erthygl ‘Y Rhedegydd’ yn
cyfeirio at ei angladd:
‘Dydd
Llun, bu angladd Richard Lewis. Yr oedd
yn un o’r angladdau mwyaf a pharchusaf a welwyd yn ardal y Manod, ac Eglwys
Tyddyn Gwyn, lle y cynhaliwyd gwasanaeth byr, yn orlawn, a llawer o’r tu allan
yn methu cael mynediad i fewn.’
Heddiw,
bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r busnes yn parhau. Fe’i ail-sefydlwyd
yn Hen Gapel Glandwr, Ffordd Glanypwll
gan ei ŵyr - Richard Thomas.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon