Ar hyn o bryd, mae’r Clwb yn profi anawsterau dybryd.
Profodd dymor llewyrchus ers ei sefydlu yn 1893 hyd at gyfnod y Rhyfel Byd
Cyntaf yn 1914, pryd y penderfynwyd ei gau, ac felly y bu hyd at chwe degau
cynnar y ganrif ddiwethaf. Bryd hynny,
roedd cyflogaeth dda yn yr ardal yn sgîl yr Atomfa yn Nhrawsfynydd, a
thrwy ymroddiad ac ymrwymiad y grŵp bychan oedd am weld ei ail-sefydlu,
llwyddwyd i’w ail-agor. Daeth tymor o ffyniant a llwyddiant i’r Clwb unwaith yn
rhagor. Ond ers cau’r Atomfa, profwyd lleihad cyson yn nifer yr aelodaeth ac
erbyn hyn, does ond 27 ar y rhestr aelodaeth.
Er y cychwyn cyntaf, mae’r Clwb wedi dibynnu ar
barodrwydd aelodau i dorchi llewys a gweithio’n wirfoddol i hybu llwyddiant.Ond
fel â’r blynyddoedd yn eu blaenau, mae’r nifer wedi mynd yn hŷn ac yn lleihau.
Mae’r lleihad yn nifer yr aelodaeth yn creu problemau
i’r pwyllgor - does dim modd dod â gwaed
newydd i mewn i gylch y swyddogion, ac yn y ddau Gyfarfod Blynyddol diwethaf,
dim ond un aelod ar wahân i’r swyddogion oedd yn bresennol. Wrth gwrs, mae hyn
yn ofid inni..
Mae cael cwrs golff yn y cylch o fudd i’r gymdogaeth,
ac mae’n wefreiddiol cael sylwadau’r golffwyr dieithr ar ôl gêm yn Llan - rhyfeddu ar yr olygfa sydd yn amgylchynu pob
twll wrth fynd rownd, ac fel mae’r cwrs wedi ei greu mewn amgylchfyd naturiol.
Mae’n tâl aelodaeth yn rhesymol dros ben. Mae’r Clwb
angen aelodau newydd, a’i hangen rŵan. Os daw’r dydd pryd y bydd yn
rhaid dod â Chlwb Golff Ffestiniog i ben, mae’n anodd rhagweld y gwelir dydd ei
agor fyth eto.
Glyn Hughes
[Ysgrifennydd]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon