--------------
Braf yw gweld Sgotwrs ’Stiniog yn Llafar Bro unwaith eto; bu Emrys Evans yn ysgrifennu dan y pennawd hwn am dros ddeng mlynedd ar hugain. Dros y cyfnod hwnnw byddai yn adrodd hanesion difyr am ei helyntion wrth bysgota llynnoedd y Cambrian ac yn aml iawn, yn cynnwys patrwm am sut i greu y gwahanol blu a brofodd yn llwyddiannus iddo ef ac i eraill.
Yr oedd Emrys yn un o selogion yr Archifdy yn Nolgellau a daeth yn ffrind i’r Archifydd, Einion Thomas, oedd hefyd yn dipyn o bysgotwr. Cymerai Einion ddiddordeb yn y patrymau yr oedd Emrys yn sôn wrtho amdanynt a gwyddai am ei golofn yn Llafar Bro. Dywedodd Einion wrth Emrys y dylid cael casgliad o’r plu, oedd yn arbennig i Stiniog, yn yr Archifdy ac fe’i perswadiodd ef i wneud copi o bob pluen ynghyd â thipyn o hanes pob un.
Aeth Emrys ati yn ofalus wedyn i baratoi 133 o blu gwahanol ’Stiniog ar gyfer yr archifdy. Gweithiodd yn ofalus ar bob pluen, gan ail a thrydydd wneud rhai ohonynt nes eu bod yn plesio ac yn y diwedd, cyflwynwyd ffeil o’r plu a’r disgrifiadau i’r Archifdy.

Ond, er tristwch garw iddo, cafwyd yr ateb mai rhy blwyfol ei naws fyddai llyfr o’r fath ac nad oedd marchnad eang ar ei gyfer ac felly, “Diolch, ond Dim Diolch” oedd yr ymateb.
Un o’r rhai y dangosodd Emrys y ffeil iddo oedd y pysgotwr a’r llenor Geraint Vaughan Jones. Gwerthfawrogodd ef yn syth pa mor werthfawr ydoedd casgliad o’r fath a theimlai yn bendant y dylid ymholi ymhellach ynglŷn a’r posibilrwydd o’i gyhoeddi. Gyda chefnogaeth pwyllgorau Llafar Bro a Chymdeithas Enweiriawl y Cambrian gwnaeth gais (a fu’n llwyddiannus) am grant gan gronfa Cymunedau’n Gyntaf i gael cyhoeddi’r gyfrol. Manteisiodd ar ei gysylltiadau gyda’r gweisg a chafodd y byddai Gwasg Gomer yn barod i fentro efo llyfr o’r fath.
Yr oedd Emrys wedi dotio yn lân pan glywodd am hyn ac edrychai ymlaen yn arw iawn i weithio gyda Geraint ar ddatblygu’r ffeil i fod yn llyfr. Ond ’doedd hynny ddim i fod... Wythnos yn ddiweddarach, bu farw Emrys.
Union flwyddyn ar ôl hynny, cafwyd noson gofiadwy iawn i lansio Plu ’Stiniog. Ei phris oedd £10 a bu’r fenter yn llwyddiant buan iawn.
Cafwyd cryn hysbysrwydd i’r gyfrol gan y cyfryngau, ac fe ddaeth i sylw cwmni cyhoeddi o Fachynlleth sy’n arbenigo mewn llyfrau am bysgota a hela, sef Coch y Bonddu. Roedd y cwmni hwnnw wedi sylweddoli’n syth y byddai diddordeb yn y gyfrol yn llawer ehangach na chylch ’Stiniog yn unig -na Chymru chwaith o ran hynny- a gofynnwyd am yr hawl i’w chyfieithu dan yr enw ‘Plu Stiniog: Trout Flies for North Wales’. Profodd hon hefyd yn boblogaidd iawn ac wedyn aed ati i’w chyhoeddi mewn rhwymiad lledr arbennig yn rhan o’r Flyfisher's Classic Library, a’i phris yn £100.
Bydd teulu Emrys yn ddyledus am byth i Geraint am sicrhau gwireddu breuddwyd Emrys; byddai wedi bod wrth ei fodd.
--------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
Celf: Lleucu Gwenllian
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn)