Showing posts with label Cymdeithas yr Iaith. Show all posts
Showing posts with label Cymdeithas yr Iaith. Show all posts

24.9.25

60 MLYNEDD ERS HELYNT BREWER-SPINKS

Ddechrau Mehefin, 1965, rhoddwyd gorchymyn i weithwyr ffatri yn hen ysgol Tanygrisiau i beidio a siarad Cymraeg wrth eu gwaith! Roedd Sais o’r enw Brewer-Spinks newydd gyrraedd o Loegr i reoli’r ffatri ac yn awyddus i ddangos pwy oedd y bós. Ond pan wrthododd rhai o’i staff lofnodi cytundeb yn gaddo peidio a siarad eu mamiaith efo’u cydweithwyr, diswyddwyd nhw. 

Dyna ddechrau helynt arweiniodd at gyfarfodydd cyhoeddus tanllyd a phrotestiadau yn lleol, a galwadau cenedlaethol am drin y Gymraeg yn gyfartal.

Dywedir fod y cyfarfodydd yma ymysg y rhai cynharaf i Gymdeithas yr Iaith annerch y dorf, a’r bygythiad cyntaf i baentio arwyddion Saesneg.

Cefnogwyd y gweithwyr gan undebau llafur, yr aelod seneddol lleol, yr archdderwydd, a chymdeithasau hyd a lled Cymru a thu hwnt. Ond yn bwysicach efallai, cythruddwyd pobl Stiniog, a daeth cannoedd allan i brotestio’r anhegwch a’r sarhad digywilydd i’w hunaniaeth.

Mae lluniau arbennig o’r protestiadau wedi ymddangos ar dudalennau Blaenau ar Facebook, fel yr isod gan Gwyn Evans...

(Nid yw’r manylion hawlfraint yn amlwg, gadewch i Llafar Bro wybod os wyddoch y manylion). 

Ewch ar y we i chwilio a chael eich ysbrydoli: fod gweithredu heddychlon lleol -er gwaethaf tueddiad llywodraethau heddiw i geisio eu rhwystro- YN medru bod yn effeithiol ac yn holl-bwysig mewn unrhyw gymdeithas resymol.

Gwyddwn fod ein hawliau fel Cymry dal yn y fantol, yn enwedig os gaiff plaid o genedlaetholwyr Seisnig sy’n hynod o boblogaidd ar hyn o bryd eu hethol i’n Senedd ni yn etholiad 2026. 

Mae’n anghredadwy ein bod yn parhau i frwydro am gyfartaledd i’n hiaith, ond diolch i arloeswyr Tanygrisiau ym 1965 am eu safiad!
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025

Diolch i'r cyfaill di-enw a gysylltodd i dynnu sylw fod Geraint Jones wedi ysgrifennu pennod am hanes Helynt Brewer-Spinks yn ei lyfr Brwydr yr Iaith 1962-67.

Ewch i'r llyfrgell neu Siop Lyfrau'r Hen Bost i archebu copi. Mae'n werth ei gael. 


 

10.8.21

Diogelwn

A fyddai hi’n torri’ch calon chi petaech chi’n gwerthu’ch tŷ a’r perchnogion newydd yn ei ail-enwi’n 'Llan-Tropez' neu rywbeth tebyg?  Os y byddai, y newydd da yw bod modd osgoi'r hunllef honno bellach, a hynny trwy ymuno â chynllun DIOGELWN a gafodd ei lansio'n gynharach eleni gan Gymdeithas yr Iaith. 

Yn y bôn, felly, mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng y Gymdeithas (rwyf yn falch o fod yn aelod ohoni) a phobl Cymru, ac mae'n perthyn i'r traddodiad hir o hunangymorth sydd gan y Cymry Cymraeg.          

Mae yna ddwy ffordd o ymuno â'r cynllun.

Yn gyntaf, os ydych chi ar fin neu wrthi'n gwerthu'ch tŷ, bydd yn rhaid i chi gyfarwyddo cyfreithiwr beth bynnag wrth gwrs, a dim ond gofyn iddo lawrlwytho cymal safonol oddi ar wefan y Gymdeithas a'i roi yn y cytundeb gwerthu sydd rhaid.  Mae'r cymal hwnnw'n cynnwys cyfamodau (sef addewidion ffurfiol, ysgrifenedig) gan y prynwyr i beidio â newid yr enw Cymraeg ar eich tŷ, yn ogystal â chyfyngiad a fydd yn diogelu'r cyfamodau hynny (ar ôl iddo gael ei gofrestru gan y Gofrestrfa Tir).

Yn ail, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwerthu'ch tŷ ar hyn o bryd, gallwch roi'r un cyfamodau i'r Gymdeithas eich hunain (a'u diogelu nhw gyda chyfyngiad yn yr un modd).  Pwrpas hwn yw atal prynwyr neu gymyndderbynwyr rhag newid enw'r tŷ yn y dyfodol.  Er mwyn i chi allu cyflawni’r amcan hwn, mae'r Gymdeithas wedi darparu dogfen safonol hefyd y bydd eich cyfreithiwr chi’n gallu’i llawrlwytho oddi ar eu gwefan.

Dyma DDOLEN i'r dudalen berthnasol ble mae'r cymal a'r ddogfen ar gael yn rhad ac am ddim*.



Wrth gwrs, byddai'n ddelfrydol petai Senedd Cymru'n deddfu yn y maes hwn, ond faint o enwau Cymraeg ar dai a fydd yn cael eu colli am byth cyn i hynny ddigwydd?  Ydyn ni'n gallu fforddio aros?  Gogoniant y peth yw nad oes angen i ni aros o gwbl bellach: gallwn wneud hynny ar ein pennau’n hunain gan ymuno â DIOGELWN.

Efallai'ch bod chi'n meddwl tybed: sut fydd y Gymdeithas yn gwybod a yw unrhyw gyfamod enw wedi’i dorri?  Yr ateb yw bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae: dyna ran o'r bartneriaeth yr oeddwn yn sôn amdani gynnau fach.  Mae’r Gymdeithas yn bwriadu cyhoeddi rhestr ar eu gwefan maes o law: rhestr o dai y bydd yr enwau Cymraeg arnyn nhw wedi'u diogelu.  Os ydych chi’n sylwi ar gymydog sydd wrthi'n newid enw Cymraeg ar ei dŷ i un Saesneg, bydd modd i chi wirio'n syth trwy fwrw golwg sydyn ar y rhestr a yw e'n torri cyfamodau neu beidio.   Os hynny, bydd gan y gymuned leol fandad na allai fod yn gliriach na'n gryfach i roi pwysau ar y cymydog hwnnw i beidio â newid enw’i dŷ, neu i'w newid yn ôl.  Afraid dweud, gellid rhoi gwybod i'r Gymdeithas yn ogystal er mwyn iddi hi allu rhoi pwysau ar y person dan sylw a'i atgoffa o'i addewidion.     

O ran diddordeb, mae gan Flaenau Ffestiniog arwyddocâd arbennig yng nghyd-destun DIOGELWN.  'Neuadd Ddu’ oedd yr enw tŷ cyntaf a ddiogelwyd dan y cynllun, sef cyn-gartref i'r bardd a’r awdur, Sian Northey, ym Manod.  Yn wir, Sian wnaeth ysgogi popeth trwy gyhoeddi trydariad fis Mehefin y llynedd am ei phryderon hi ynglŷn â’r enw ar ei thŷ roedd hi ar fin ei werthu.  Oherwydd fy mod i’n gyfreithiwr sydd wedi arbenigo yn y maes trawsgludo tir ers dros 30 mlynedd, teimlais yn gryf fod dyletswydd arna i i geisio gwneud gwahaniaeth, yn enwedig o ystyried i fi weld ffordd o wireddu breuddwyd Sian, nid yn unig yn achos ei thŷ hi, ond hefyd pob tŷ arall yng Nghymru y mae enw Cymraeg arno.      


Felly, beth am ddiogelu'r enw Cymraeg ar eich tŷ chi?  Dim ond ymuno â DIOGELWN sydd rhaid!

Simon Chandler

---------------------------


*Nid yw Llafar Bro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2021


24.10.18

DŴR: Trwy Ddŵr a Thân

Ar ddiwedd y llynedd penderfynodd Elfed Wyn Jones, Trawsfynydd, wneud safiad er mwyn galw am ddatganoli darlledu i Gymru, drwy ymprydio am wythnos –efo dŵr yn unig fel cynhaliaeth- er mwyn ceisio tynnu sylw pobl at y mater yma y mae’n credu mor gryf ynddo.
----------
Os edrychwn yn ôl yn gyntaf ar hanes datganoli yng Nghymru, rydym yn gweld fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymwneud â’r mater ers blynyddoedd, drwy hybu fod angen ffynonellau eraill i’r Gymraeg gael ei darlledu arni. Mae’r Gymdeithas wedi bod yn brwydro ers sawl blwyddyn i newid y drefn.



Penderfynais fy mod am wneud y safiad hwn am sawl rheswm, y rheswm cyntaf oedd fy mod eisiau gweld y Gymraeg yn tyfu ar y cyfryngau drwy greu mwy o sianeli Cymraeg, gan gynnwys rhai i blant, ar sawl platfform; ond hefyd i gael rheolaeth dros ddarlledu i ddod i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i ni fel Cymry gael llais sy’n dwad o Gymru i gynrychioli a thrafod problemau bobl y wlad hon yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Rhaid sicrhau bod darlledu yn galluogi i bobl ddeall y broses wleidyddol, heb hynny mae pobl yn ansicr o’r system. Enghraifft o hynny yw bod yn agos i 50% o bobl Cymru yn dal i gredu fod ein Gofal Iechyd Gwladol yn nwylo San Steffan, heb wybod ei fod o’n fater sydd wedi’i ddatganoli’n llwyr. Mae’r gymysgwch hon yn anemocratiadd ac yn golygu diffyg atebolrwydd ein gwleidyddion.

Wedi amser o drafod gyda’r bobl agosaf ataf, penderfynais y baswn yn gwneud y safiad ar yr 20fed o Chwefror, ac yna gorffen y broses ar yr 27ain o Chwefror, cyn y cyfnod wyna. Dechreuais yr ympryd am 12:00 ar ddydd Mawrth. Nid oeddwn yn pryderu o gwbl gan fy mod mor benderfynol i wneud y weithred yma dros Gymru, i ni gael rheoli llais ein hunain. Trwy gydol yr wythnos mi ges lawer o ymwelwyr yn dod i’m cyfarfod a datgan eu cefnogaeth i’r weithred. Ces i’r pleser o weld fy ngweithred yn cael ei drafod ar Bawb a’i Farn, a gweld nifer o bobl dros Gymru yn datgan eu cefnogaeth imi, gan gynnwys artistiaid ac enwogion o Gymru, nifer o wleidyddion a phobl fel Alex Salmond, cyn arweinydd yr SNP.

Mi oeddwn yn teimlo’n wanllyd ar adegau, ond roedd y bobl annwyl oedd wedi dod i fy nghefnogi a chadw cwmpeini wedi codi’r baich yn anferthol. Mi roedd yr holl bobl a gefnogodd yr ymgyrch ac a ddaeth i’m gweld wedi dangos brwdfrydedd pobl dros Gymru a’r Iaith. Hefyd rhaid imi ddiolch yn fawr i Gymdeithas yr Iaith am adael imi fenthyg eu swyddfa yn Aberystwyth, ac i aelodau’r Gymdeithas oedd wedi gweithio’n galed drwy’r ymgyrch hon. Cefais wybod yng nghanol yr ympryd fod Plaid Cymru am roi cynnig gerbron y Cynulliad a fyddai’n cynnig ymchwilio i’r angen am ddatganoli darlledu i Gymru. Mi gododd hyn fy ysbryd yn anferthol.

Mi es lawr i’r Cynulliad ar fore dydd Mawrth yr 27ain gyda Heledd Gwenllian, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, oedd wedi bod yn hael iawn, ac wedi paratoi cawl i mi fwyta o flaen y Senedd.

Cyrhaeddais gyda nifer o bobl o flaen y Senedd oedd wedi dod i ddangos eu cefnogaeth ac mi ddaeth gwleidyddion hefyd i’m llongyfarch. Roedd hi’n rhyddhad mawr i orffen yr ympryd, ac roeddem i gyd yn edrych ymlaen at y dydd drannoeth, i’r cynnig gael ei gyflwyno.

Rhoddwyd y cynnig o flaen y Cynulliad ar yr 28ain o Chwefror gan Blaid Cymru. Yn fras, cynnig oedd hwn i ymchwilio i’r angen am ddatganoli darlledu i Gymru, dim byd chwyldroadol … ‘mond ymchwilio i’r angen.

Siom oedd gweld fod y Blaid Lafur ynghyd â Kirsty Williams a Dafydd Elis Thomas wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig, er i’r Blaid Geidwadol bleidleisio dros gynnig Plaid Cymru.

Er na lwyddodd yr ympryd hwn i newid unrhyw ddeddf yn sylweddol, mi rydw i’n falch ei fod wedi codi ymwybyddiaeth tuag at ddatganoli darlledu i’n Gwlad, er mwyn i ni gael tegwch i’n hiaith ac i’n democratiaeth.

Os ydych chi eisiau cefnogi’r ymgyrch mae croeso i chi wneud hynny drwy ysgrifennu llythyr tuag at eich Aelodau Cynulliad a Seneddol yn datgan eich cefnogaeth i’r syniad hwn. Hefyd mi fedrwch ymuno â’n rhestr o bobl sy’n gwrthod talu eu treth teledu, ac wrth gwrs ymuno gyda Chymdeithas yr Iaith i fod yn weithgar gyda’r mater hwn. Ymunwch gyda’r ymgyrch, i ni gael Cymru well a llais cryfach.

Diolch a Chofion.
Am fanylion pellach am yr ymgyrch ymwelwch â www.cymdeithas.cymru/datganolidarlledu
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.

Celf: Lleucu Gwenllian



Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn)