28.10.21

Crwydro -Cwmorthin

Erthygl arall yn ein cyfres am lwybrau Bro Ffestiniog, gan Edwina Fletcher

Er fy mod wedi fy ngeni a'm magu yma, doeddwn erioed, tan ychydig o wythnosau yn ôl, wedi bod yng Nghwmorthin. Dwi'n clywed nifer ohonoch yn dal eich gwynt ac eraill yn ochnedio, ond, gan fy mod wedi bod yn gweithio llawn amsar am jyst i hanner can mlynedd ac wedi cymryd ymddeoliad buan diwedd flwyddyn diwetha, doedd y modd na'r amsar wedi bod gen i tan flwyddyn yma i neud gymaint a fedrwn o grwydro ardal hardd fy mebyd.

Felly, ar ddiwrnod braf ddiwedd Mehefin, aeth Mags Williams a finna i fyny am y Cwm a chael amsar i edrych o'n cwmpas. Wedi "dringo'r" llwybr heibio’r tomennydd, aethom dros y bont fach ac i fyny at y teras - rhai wedi eu dymchwel yn gyfan gwbwl ond crawiau rhai erall yn dal yn sefyll. Diddorol iawn oedd gweld fel oedd y tai wedi eu hadeiliadu ar dir uchel uwchben y llyn, ond hefyd yn agored i dywydd garw o bob cyfeiriad.  Bechod gweld eu cyflwr ond da oedd darllen bod ymgais wedi ei wneud, a chlod i bawb oedd wedi bod yn gyfrifol, i achub un corn ar y tŷ pen. 

I lawr wedyn yn ôl ar y llwybyr i'r chwith o'r llyn a'i ddilyn nes daethom at adfeilion Capel y Gorlan. Dim ond tair wal sydd ar ôl, ond mae siap y ffenestri i'w gweld yn glir. Deall bod cynllun y capel tu chwith, h.y. bod y pulpud yn y tu blaen gyda'r gynulleidfa yn wynebu’r drysau wrth i chi fynd i fewn (fel Capel Bethel, Tanygrisiau dwi'n credu?).   


Roeddan wedi mynd a phicnic efo ni ac wedi aros â'n cefnau at y capel o dan ddwy goeden. Roedd yn dawel iawn yno nes ddoth yna ychydig o wynt i fyny'r cwm a sibrwd yn y cangennau a'r dail yn rhoi ysbryd gwahanol i'r distarwydd. 

Aethom wedyn at Blas Cwmorthin. Roedd hwn mewn ychydig gwell cyflwr na'r teras ac mewn man tawel a chysgodol yn mhen pella'r llyn - oedd hi felly dros ganrif a hannar yn ôl dwn i ddim.
Yn ôl i'r llwybr ac at Dai Conglog - adfeilion llwyr ond modd i weld sefyllfa y chwarelwyr pan ddim wrth eu gwaith. 

 

Gwnaethom benderfynu peidio mynd i fyny at Rhosydd - hwnnw at ddiwrnod arall wyrach - ac felly troi ar ein sodlau ac yn ôl ac i ochor arall y llyn at Dŷ Cwmorthin. Mae hwn wedi cael ei 'neud i fyny ac wedi ei baentio yn wyn. Siebiant am ychydig wrth ymyl y llyn yn fan honno i fwynhau'r lleoliad.
Doedd dim llawer iawn o bobol yn y cwm y diwrnod hwnnw, ond roedd plant ysgol lleol yn mynd i fyny o'n blaenau. Aethont ymlaen am Rhosydd ac roeddant yn dod i lawr yn eu holau fel roeddan ni yn dod at y man parcio. Dangos eu bod nhw yn llawn mwy egni na ni!

Wedi deud hynna, os mae rwan oedd y tro cynta i mi weld Cwmorthin, fydd o ddim y tro diwetha - o bell ffordd!  
- - - - - - 

Lluniau gan yr awdur.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021



24.10.21

Crwydro -Moel Penamnen

Erthygl yn ein cyfres am lwybrau Bro Ffestiniog, gan Erwynj

 

Mae’n debyg petai rhywun yn gofyn i berson enwi mynyddoedd ‘Stiniog, byddai’r rhan fwyaf yn enwi y Moelwynion a’r ddau Fanod, ond mae i ddalgylch ein tref sawl copa swyddogol arall, gan gynnwys copaon Ysgafell Wen, Moel Druman, Yr Allt Fawr, Moel Penamnen a Chraig Ddu. 

Moel Penamnen. Llun- Erwynj

Yn wir mae 12 copa swyddogol ‘Nuttall’ -mynyddoedd dros 2000 droedfedd- o fewn ffiniau’r plwyf; roedd 13 cyn i’r Garn Lwyd, copa gogleddol y Moelwyn Mawr cael ei ddileu [Hir Oes i’r Moelwyn Mawr], yn ddi-seremoni rai blynyddoedd yn ôl, gan ei bod yn rhy fyr i gyrraedd statws mynydd swyddogol, a chofiwch dwi’n siwr y stŵr a greodd hynny ar y cyfryngau, wrth i bobl feddwl mai prif gopa Moelwyn Mawr cafodd ei ddileu!  

Mae’n bosib cerdded y copaon yma i gyd mewn diwrnod, drwy gwbwlhau taith heriol ‘Pedol Ffestiniog’: taith o ychydig dros 21 milltir o hyd, a dringfa o dros 6000 troedfedd!

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, cafwyd digonedd o amser i grwydro’r Moelwynion a’r Manod (hyd syrffed bron a bod!) ac hefyd cyfle i gyrraedd ambell gopa llai adnabyddus ein ardal.

Un o’r copaon yma ydi Moel Penamnen, ychydig i’r gogledd dref Y Blaenau, a digon anghysbell ei naws, gyda’r tir corsiog a’r llethrau serth ddim yn wahoddiad parod a charedig i’w dringo, ond yn ystod tywydd sych, mae’n un o’r teithiau cerdded hyfryta gall rhywun ei chyflawni o fewn ein plwyf, gyda’r daith yn cynnig ychydig o amrywiaeth, megis adfeilion chwarelyddol, rhostiroedd agored, ac ambell i lyn ar y ffordd.

Daeth hon yn ddipyn o ffefryn i mi yn ystod y cyfnod clo, rhaid cyfadde, felly dyma rannu un o’r llwybrau byddaf yn ei gerdded i’w esgyn.

I gychwyn y daith, ewch fyny o faes parcio Diffwys i gyfeiriad Trefeini, ag i fyny llwybr 104 sy’n arwain i fyny’r hen Dŷ Pwdin, trwy waelodion chwarel Maenofferen, heibio i adfail ‘Quarry Banc’ i dop inclên rhif 2 Rhiwbach. Oddi yma, anelwch eto ar i fyny, ag at beipiau a chafnau dŵr, a dilynwch hwy at hen dramffordd ('Ffordd Haearn') Rhiwbach.

Mae’r cerdded yn dipyn haws am sbel go lew, wrth ddilyn y dramffordd, heibio i lynoedd Bowydd, at hen chwarel Cwt y Bugail.

Dilynwch y ffordd drwy’r chwarel, i fyny’r domen ac ymlaen heibio’r hen dwll, dros y tir corsiog at ffens, a gwelir llwybr bras yn arwain dros y rhostir, tua’r chwith, ple gwelwch Foel Penamnen yn eich gwahodd yn y pellter. Mae’r cerdded yn weddol rwydd a chymhedrol i fyny’r ysgwydd, wedi dringo Foel Fras, am tua milltir a hanner, hyd cyrraedd y copa. Mae sgwar concrid OS yn marcio’r copa.
Oddiyma ceir golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri, o’r Arenig, drosodd i’r Rhinogydd, Aber y Ddwyryd, y Moelwynion, yna drosodd i’r Wyddfa a’i chriw, y Glyderau, a’r Carneddau.

Llun- Erwynj

I fynd lawr, ewch tua’r gogledd am ychydig, a dilyn ffens sy’n eich arwain at gefn Llyn Barlwyd Bach, yna cerddwch hyd ochrau dwyreiniol Llynoedd Barlwyd, tuag at argae Barlwyd Mawr.

Pe dymunir, i hirhau y daith, yn hytrach nag anelu at yr argae, gallwch barhau i ddilyn y ffens at gopa Moel Farlwyd, sydd wedi ei farcio â phentwr cerrig. I fynd lawr, ewch ‘mlaen gyda’r ffens, ag yna, yn lle ei ddilyn i lawr at gyfeiriad y Crimea anelwch i lawr yr ochr glaswelltog serth, yn ôl i gyfeiriad argae Llyn Barlwyd Mawr.

Mae trac y gellid ei dilyn yr holl ffordd lawr, tuag at chwarel Llechwedd, sy’n ymuno â llwybr cyhoeddus (wedi ei farcio) ychydig cyn cyrraedd peilonau ‘Zip World’, sy’n arwain heibio Llyn Fflags, a chefn pwerdy Maenofferen, cyn ail-ymuno â llwybr 104, yn ôl i lawr i’r dref. Rhaid pwysleisio, er bod llwybrau llawer mwy amlwg i’w dilyn lawr i’r dref drwy Llechwedd, rhaid cofio bod y chwarel ar dir preifat, ac yn dal yn weithredol, felly rhwng y sawl a’i gydwybod os mynnir ceisio short cut i lawr i’r dref!

Felly dyna chi, syniad am daith gerdded amgenach na’r copaon amlwg i chi ei drio o fewn cyffiniau’r dref!

Mae hon yn daith cymhedrol, ple mae angen esgidiau cerdded, a dillad addas, heb anghofio map, ac ychydig o synnwyr cyffredin!

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021



20.10.21

Llys Dorfil- ysgrifbin

Darganfwyd y stylus haearn hwn yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil, dri chwarter medr yn is na lefel bresennol y tir. 



Mae'r lleoliad y cafodd ei ddarganfod yn awgrymu ei fod yn hynafol iawn.  Efallai ei fod wedi dod o’r gaer Rufeinig, Tomen y Mur gerllaw, sydd yn dyddio o’r ganrif gyntaf.

Enghraifft o dabledi cŵyr ar y chwith, a thudalen gyntaf ewyllys Rufeinig Trawsfynydd ar y dde:


Roedd tabledi pren yn cael eu gorchuddio â chŵyr gwenyn, lle roedd negeseuon yn cael eu hysgrifennu gyda stylus.

Yr ewyllys Rufeinig uchod yw’r unig un o’i fath ym Mhrydain, ac fe’i darganfuwyd mewn mawnog ar dir Bodyfuddau, ger Trawsfynydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gweision fferm a’i ffeindiodd, wrth iddynt ladd mawn i wneud tanwydd ar y tir, tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o Domen y Mur.  Roedd o wedi cael ei ysgrifennu gyda stylus ar dabled cŵyr. 


Mary a Bill Jones

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021.

Mwy o newyddion o'r cloddio yn rhifyn Hydref sydd ar gael rwan.

.

Ar Hydref 7fed 2021, bu Aled Hughes, Radio Cymru yn safle Llys Dorfil efo Mary a Bill, a Dafydd Roberts, ac mae'r darn a ddarlledwyd ar gael am flwyddyn ar wefan Sounds y BBC.

 



13.10.21

Cofio Eglwys fy Magwraeth

Mae llawer ohonom wedi bod yn tyrchu drwy gypyrddau, droriau a bocsys yn ystod y cyfnodau clo yn gwneud gorchwyl oedd ar yr agenda ers llawer dydd ond yr awydd na’r amser yn caniatau, sef sortio a thacluso.

Tasg ddifyr pan mae llun, rhaglen neu adroddiad mewn papur newydd yn agor y drysau ar atgofion melys.  Fe dreuliais orig yn ddiweddar yn sortio lluniau, a deuthum ar draws un o bobol ifanc Eglwys Bethania, Blaenau Ffestiniog – mam eglwys yr Annibynwyr yn y dre’ a’r eglwys lle’m magwyd.

Charles Jones a’i wraig ymroddgar, Eluned Ellis Jones oedd y gweinidog yn ystod 50au y ganrif ddwytha.  Byddai llawer o weithgareddau yn ystod yr wythnos megis y gobeithlu ble byddai’r hogiau yn dysgu alto emynau y Gymanfa.  ‘Roedd seiat a chwrdd gweddi ynghyd â Chymdeithas Lenyddol ac eisteddfod Nadolig gyda Noswyl ar noson ola’r flwyddyn.   

 

Rhes gefn - Hefin Griffiths, Gwen Jones (Fuches Wen), Medwyn Parry
Yn eistedd - Idwal Hughes (Gelli), Sian Arwel a Beti (ei chwaer)
Rhes flaen - Sulwen Williams a George Davies

Cynhyrchwyd tair drama fer ar gyfer noson y Gymdeithas Lenyddol.  “Rhwng Te a Swper” oedd enw ein drama ni a rhaid cyfaddef nad wyf yn cofio’r awdur!  

Byddai ymarfer wythnosol yn ystod y gaeaf ac ar ôl chwerthin a chael hwyl, pinacl yr ymarfer oedd cael bwyta sgod a sglods yn y festri.  Y ddynas fusneslyd o drws nesa oeddwn i, tra’r oedd Beti yn gymeriad crand mewn côt ffwr fy mam.  Mae hanner y criw wedi’n gadael erbyn hyn ond y bachgen sy’n eistedd wrth draed y ddynes grand yw George, cefnder Bil Davies; Caerdydd erbyn hyn.

Unwaith oeddym wedi’n derbyn yn aelodau, roedd disgwyl inni gymryd rhan mewn gwahanol agweddau o fywyd yr eglwys ac wrth edrych drwy raglenni’r Gymdeithas yn ystod yr un cyfnod, sylweddolais pam fod y rhaglenni hynny wedi’i cadw – roedd fy enw i yno yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas ac yn llywyddu noson dan ofal y bobol ifanc.  Cyfleoedd pwysig iawn yn magu hyder a phrofiadau o beth yw eglwys a sut mae yn gweithio. 

 


D’oes dim ond atgofion o’r eglwys ar ôl ac mae’r capel wedi’i ddymchwel hefyd ond mae gennyf sgets o’r tu fewn ddyluniwyd gan Falcon Hildred ar gyfer dathliad 150 mlynedd yr achos.  Ni fydd y sgets, y llun na’r rhaglenni yn mynd i’w hailgylchu ar hyn o bryd!


Sian Arwel Davies

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021


11.10.21

Stolpia- saethu a chwympo

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Fel y crybwyllwyd o’r blaen gennyf, roedd yr 1960au yn gyfnod cyffrous mewn llawer ystyr ymhell ac agos, ac un o’r pethau a gofiaf parthed Chwarel Llechwedd a dynnodd gryn sylw pan oeddwn yno, oedd saethu craig uwchlaw’r Bôn gyda siels o wn mawr,  yn hytrach na’r ffordd arferol o dyllu’r graig ag ebillion a’i thanio gyda ffrwydron. 

Os cofiaf yn iawn, drychfeddwl Capten ‘Sandy’ Livingstone-Learmonth, Tanyrallt, Tremadog, oedd hyn, neu fel y’i gelwid gan rai o’r hen chwarelwyr - ‘Capten Lionmouth’. Roedd yn briod a Cecily, merch John Ernest Greaves, ac yn gyfranddaliwr yn y chwarel. 

Beth bynnag, aflwyddiant a fu i bob pwrpas, dim ond malurio ychydig o’r brig a’r graig a wnaeth y siels, ac felly, troi at y ffordd arferol i ddatgymalu’r graig a wnaed wedi’r cwbl.

Un peth am ymweliadau yr hen Gapten, byddai’n reit hael efo’i sigarets, ac roedd llawer ohonom yn ysmygu y pryd hynny, a’r mwyafrif ohonom wedi gorffen ein paced ffags erbyn tua dau o’r gloch y prynhawn, os nad cynt.

Fel rheol, byddai ei ddau gi yn ei ddilyn yn ffyddlon ogylch y chwarel, sef un daeargi bach ac un labrador du. Beth bynnag, un diwrnod pan ar un o’i ymweliadau achlysurol daeth i mewn i'r ‘ffitin siop’ gyda’r cŵn a chan bod cryn dipyn o fân beiriannau wedi eu gadael yno ar gyfer eu trwsio, roedd hi’n ddigon cyfyng i droedio mewn sawl lle yno. Wel, fel yr oedd yr hen labarador du yn ei ddilyn heibio’r injian fach a oedd wedi ei gadael uwchlaw’r pit syrthiodd y creadur i lawr i'w waelod. Nid oedd fawr gwaeth ar ôl ei godwm, ond gan fod hen oel ac irad yn ei waelod, yn ogystal ag ar y waliau, roedd cryn olwg ar yr hen gi, gan fod ei goesau a’i gefn wedi ei orchuddio ag oel budr. Estynnais ychydig o hen garpiau oddi ar y fainc, a cheisio sychu’r irad oddi ar ei gefn, ac fel ei werthfawrogiad am fy mharodrwydd i lanhau côt y ci, rhoddwyd dwy sigaret imi gan yr hen Gapten- un i ysmygu yn ei gwmni ef ag Emrys ac imi roi’r llall ar ochr fy nghlust. Credaf mai’r tro olaf imi weld yr hen Gapten oedd ar set ffilmio ‘Macbeth’ gan Roman Polanski yn 1970.

A sôn am gwympo, y mae gennyf gof ohonof innau yn cael coblyn o godwm tra’n rhedeg i lawr Llwybr Gwaith, Chwarel Llechwedd ryw dro ar amser mynd adref, sef ychydig ar ôl caniad a ‘chael ein gollwng’ am 4 o’r gloch. 

 

Hen lun yn dangos y Llwybr Gwaith, ar y dde

Os cofiaf yn iawn, roedd hi’n ddiwrnod braf ac yr oeddwn am geisio cyrraedd adref i fy nghartref yn Rhiwbryfdir, llyncu fy nhe a mynd i bysgota i Gwm Orthin, neu Gwm Corsiog. Beth bynnag, tua hanner ffordd i lawr y llwybr bachais flaen fy esgid ar un o’r cerrig a fyddai wedi eu gosod ar eu cyllyll arno a dyma brofi hedlam go hegar a glanio yn glemp ar fy mag a’r tun bwyd a oedd ynddo. 

Gallwch fentro bod y tun bwyd, sef tun oxo sgwâr, a oedd yn boblogaidd y pryd hynny, wedi ei wasgu a phlygu yn ddi-siap. Wrth ryw lwc, nid oeddwn wedi cael anaf ddrwg, ond digon araf deg oedd y troedio i lawr at y ffordd fawr wedyn.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021