24.5.25

Y Gymdeithas Hanes -Apêl Heddwch

Daeth Iona Price, Tanygrisiau atom ym mis Mawrth i roi sgwrs hynod ddiddorol ar Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24

Aeth dros gan mlynedd heibio ers i ferched Cymru greu’r ymdrech arwrol hon i ddileu rhyfel, a hyn yn dilyn galanastra'r Rhyfel Mawr pan laddwyd cymaint o fechgyn ifainc Cymru yn ffosydd Ffrainc a Gwlad Belg.

Yn 1923, gydag erchyllterau’r Rhyfel Mawr wedi ysbrydoli cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro o’r fath, trefnodd merched Cymru ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen dros heddwch byd. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb goffa drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn galw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’ – i America ymuno, ag arwain Cynghrair y Cenhedloedd newydd – drwy apelio at ferched America ‘o gartref i gartref’.

Crëwyd Llyfr Coffa hyfryd mewn lledr a memrwn ac arno lythrennau aur. Fe’i cynhyrchwyd gan Wasg Gregynog, y chwiorydd Gwendoline Davies a Margaret Davies Hefyd, saernïwyd cist dderw fawr. 

Roedd yn cynnwys yr holl lofnodion i’w gyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, a’i gadw yn yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington. Roedd ymgyrch Deiseb Heddwch Merched 1923 yn ymdrech ryfeddol ac yn cynnwys bron pob cartref yng Nghymru, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chymorth trefnwyr sir a chymuned y ‘Gynghrair’. Nododd y wasg yn Efrog Newydd fod y ddeiseb derfynol a gyflwynwyd i ferched America yn fwy na 7 milltir o hyd!

Bu gwragedd yn America wrthi'n brysur yn gwneud trefniadau i roi cyhoeddusrwydd i'r ddirprwyaeth. Prawf o ddoethineb dewis Annie Hughes Griffiths, Cadeirydd Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, yn dal Cofeb Heddwch Menywod Cymru, i arwain y ddirprwyaeth oedd y derbyniad a gafodd ei hanerchiad i'r dorf: anerchiad a draddododd sawl gwaith i wahanol gymdeithasau yn ystod y daith, oherwydd nid Efrog Newydd oedd yr unig gyrchfan, gan y trefnwyd i'r gwragedd deithio wedyn i Washington, ac i'r Tŷ Gwyn, i gyfarfod â'r Arlywydd Coolidge. 

Dylid pwysleisio mai prif bwrpas y daith a'r ddeiseb oedd cysylltu menywod Cymru â menywod America. Naws anffurfiol oedd i'r cyfarfod gyda’r Arlywydd, ac yr oedd y trefnwyr yn awyddus i bwysleisio mai digwyddiad anwleidyddol ac amhleidiol ydoedd.

Teithiodd y ddirprwyaeth o Gymru i America ym mis Mawrth 1924 a chafodd gefnogaeth sefydliadau merched America oedd yn cynnwys rhagor na 20 miliwn o bobl.

Un o’r eitemau mwyaf a drysorir yn Archifau’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yw Deiseb Heddwch y Merched, ochr yn ochr â chasgliadau gan Gynghrair y Cenhedloedd. 

Trosglwyddodd Iona y cyfarfod i Gareth Jones, Cadeirydd y Gymdeithas oedd wedi bod wrthi yn gwneud ei ymchwil ei hun i’r gefnogaeth a gafodd y Ddeiseb yn y Blaenau a’r Llan.

‘… es i chwilio ar y wefan am enwau a rhyfeddu at yr enwau a ddaeth i’r golwg ac fe heliais dipyn at ei gilydd. Roedd nifer fawr o enwau o’r Blaenau ac yn eu plith nifer o wragedd oedd yn dilyn yr arfer o ddefnyddio enwau eu gwŷr ac felly yn anodd eu hadnabod! 

Ond ceid enwau megis Miss Hughes, Yr Erw yn y Sgwâr; mam Merêd sef Charlotte Evans, Bryn Mair, Tanygrisiau; S. Lloyd, mam y Parch O.M.Lloyd a Catarina Paganuzzi (pawb yn cofio’r siop hufen iâ'r teulu ar y Stryd Fawr); Miss Brymer, Darbod, sef Siop Brymer lle mae’r Eglwys Gatholig rŵan, ac yn byw gyda hi oedd Ann Beale; Laura Davies, Siop y Gloch ac yn ddiddorol ei gŵr hi oedd yn hebrwng hogiau ifanc yr ardal i fynd i ryfel  - tybed beth oedd ef yn ei feddwl fod ei wraig wedi arwyddo'r ddeiseb hon?! Daeth dau enw o deulu Vaughan, Plas Tanymanod a hefyd Lady Newborough oedd yn byw yng nghartref y teulu ym Mryn Llywelyn.

Roedd nifer fawr o’r merched yn famau oedd wedi colli plant yn y Rhyfel Mawr ac yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i heddwch oedd wedi costio’n ddrud iawn i’r merched hyn.
Ym Mhantllwyd, Llan roedd Jini Owen yn byw a fu unwaith yn canlyn Hedd Wyn ac fe arwyddodd hithau'r ddeiseb.’

Noson arall i’w chofio yng nghalendr y Gymdeithas a diolch i Iona am ei hymchwil trylwyr.
Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

Nid dim ond ymchwilio i'r hanes wnaeth Iona, ond roedd hi'n allweddol yn yr ymgyrch i ddod a'r ddeiseb yn ôl i Gymru. Diolch Iona (Gol.)

 

Y Llais

Efallai fod ganddo ni gystadleuaeth canu hynod boblogaidd yma'n Nghymru yn barod, ond mae rhyddfraint The Voice yn fyd enwog! 

Dechreuodd yn yr Iseldiroedd yn 2010 fel syniad a fyddai'n herio'r cyfresi hynod boblogaidd American Idol a'r X Factor a bellach mae yna fersiwn Gymraeg, Y LLAIS, ar ein sgriniau teledu ni'n wythnosol. I'r sawl sydd ddim yn gyfarwydd a fformat Y Llais – mae pob un o'r cantorion yn camu ar y llwyfan i ganu o flaen y gynulleidfa, tra bod y beirniaid (a elwir ar y rhaglen yn 'Hyfforddwyr') yn eistedd mewn cadeiriau enfawr coch, gyda'u cefnau i'r llwyfan. Galluogir hyn mai ar sail llais yn unig y maent yn profi'r perfformiad. Os yw'r llais yn plesio, yna maent yn gwasgu botwm ac mae'r gadair fawr goch yn troi i wynebu'r perfformiwr.

Mae trigolion yr ardal hon wedi bod yn ymwybodol erioed o'r rhan hollbwysig y mae ardal 'Stiniog wedi chwarae yn nhapestri y byd cerddorol yng Nghymru, ond bellach, gallwch ychwanegu enw nid un, ond DWY gantores ifanc arall, wrth iddynt hedfan drwy'r clyweliad cyntaf ac ymlaen i'r rhan nesaf.

(h.) Y Llais

Hanna Seirian oedd y gyntaf i wneud ei marc ar yr hyfforddwyr, gyda'i pherfformiad hudol hi o'r glasur a ysgrifennwyd gan Mei Emrys, Tri Mis a Diwrnod. Roedd hi'n amlwg fod yr hyfforddwyr yn cytuno gyda'r farn leol yma, wrth i'r pedwar ohonynt bwyso eu botymau i deimlo mwy o wefr y perfformiad hwn. 

Yn hwyrach ymlaen yn yr un bennod, fe brofwyd yr un wefr eto, wrth i Abi Jade Lewis, sy'n wreiddiol o Blaenau, ond bellach wedi ymgartrefu ar ochr arall y Crimea, yn Llanrwst hudo pawb gyda'r fersiwn bendigedig hi o'r gân draddodiadol, Ar Lan y Môr gan arwain at 4 troad arall yn y cadeiriau coch enwog.

Er mawr ymdrech gan y brodor o 'Stiniog, methodd Yws Gwynedd (un o'r hyfforddwyr) a denu'r un o'r ddwy i'w dîm, gyda Bronwen Lewis sicrhau lleisiau'r ddwy fel rhan o'i thîm hi.    

Cafodd y ddwy eu cadw ar wahân ar gyfer yr Ailalwadau, ble roedd yn rhaid i'r hyfforddwyr dorri tîm o 8 lawr i ddim ond 3. Roedd y ddau dîm o 4 yn perfformio yr un gân, gan obeithio fod eu fersiwn nhw yn plesio Bronwen a'i chyfaill, Steffan Rhys Hughes. 

Bu i Hanna ganu fersiwn gwych o Euphoria, cân ac enillodd cystadleuaeth yr Eurovision i Loreen a Sweden yn 2012, tra bod Abi yn taclo cân sy'n dipyn fwy poblogaidd yn agosach i adref, sef Anfonaf Angel o waith Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn. Er y perfformiadau gwych, yn anffodus, ni fu llwyddiant i'r ddwy a daeth eu taith ar Y Llais i ben.

Mae yna le i longyfarch Yws fodd bynnag, wedi iddo gael ei enwi yn Seren y Sîn yng Ngwobrau'r Selar yn Aberystwyth yn ddiweddar. Prif enillydd y noson oedd y gantores ifanc, Buddug, sydd yn rhyddhau deunydd ar label recordio Yws, sef Recordiau Cosh
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

 

Senedd Stiniog -Caeau Chwarae a'r Berllan

Aeth yr heuldro heibio, felly bellach mae mwy o oleuni na thywyllwch yn ein dyddiau o’r diwedd! Amser felly i ninnau dynnu’n pennau o’r pridd a (gobeithio) mwynhau’r heulwen.  Penderfynwyd yng Nghyfarfod Mwynderau, y byddai oriau agor haf y Parc rhwng 8 y.b – 10 y.h, ac yn parhau hyd Calan Gaeaf ble fydd yr oriau’n newid yn ôl i 8 y.b – 5 y.h. O hyn ymlaen dyma fydd oriau’r Parc bob blwyddyn.  Yn y gorffennol, bu’r oriau’n newid gyda’r clociau, ond er nadu dryswch, penderfynwyd aros gyda’r oriau hyn o hyd. Byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i gael rhoi arwyddion parhaol wrth giatiau’r Parc er gwybodaeth i’r cyhoedd.  

Mae pethau’n mynd ymlaen yn dda gyda’r prosiect MUGA [Ardal Chwarae Aml-Ddefnydd] yn y Parc hefyd a disgwylir i’r gwaith gychwyn yn fuan.  Mae’n debygol y bydd ychydig o fân anawsterau i’r cyhoedd, ond tydi’r Cyngor ddim yn rhagweld y bydd rhaid cau’r Parc am unrhyw gyfnod yn ystod y gwaith. Yn anffodus, mae’r caffi wedi cau ar hyn o bryd, ond mae gwaith uwchraddio adeilad Y Pafiliwn yn mynd ymlaen yno.

Deallwyd o adroddiad y Swyddog Caeau Chwarae eu bod mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac ar agor i’r plantos. Yr unig waith yw tocio coed wrth gae chwarae Tanygrisiau a doedd dim i’w adrodd gan y Swyddog Cerdded Llwybrau ‘chwaith, felly does dim esgus rhag mynd i grwydro yn yr awyr iach!  

Darllenais ganlyniad arolwg yn ddiweddar ble dywedwyd mai dim ond un o bob deg o weithwyr llawn amser oedd yn neilltuo 10 munud y dydd i eistedd allan ym myd natur.  Arolwg Brydeinig ydoedd ond go brin fod hyn yn wir i weithwyr ardal mor brydferth a hon gobeithio.  

Y Berllan -llun o dudalen FB y Cyngor

Yn dilyn trafodaeth ac archwiliad mae'r Berllan, ym Mhant-yr-ynn wedi ail-agor i’r cyhoedd.  Os nad ydych wedi bod yno eto, mae’n werth ei weld, yn enwedig ar noson braf.  Mae’n le heddychlon iawn, a does unman gwell i weld yr haul yn machlud heibio’r Moelwynion ar fin nos.  Gorau byd os oes pwt o awel, i gadw’r gwybaid bach i ffwrdd!

Cafwyd wybod gan y Cyng. Elfed Wyn ab Elwyn (Rhiw a Bowydd) fod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i osod bin baw cŵn yn Ninas, Rhiw, dim ond i’r Cyngor Tref gytuno i gyfrannu at y costau o’i wagio.  Cytunodd y Cyngor i wneud hyn.  Os ewch am dro at droed inclên y Doman Fawr, fe welwch fod bagiau baw cŵn yn hongian o frigau’r coed fel addurniadau Nadolig!  Afiach, pam fod pobol yn gwneud hyn ‘dwch?  Ta waeth, y gobaith ydi bydd hyn yn darfod pan fydd y bin yn ei le.

Y prif bethau i’w hadrodd o’r Cyfarfod Arferol oedd bod y Cyngor wedi cytuno i dderbyn cyfrifoldeb dros Diffibrilwr ger Caffi Llyn, Tanygrisiau. Daw hyn a nifer y diffibrilwyr yn yr ardal mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt i chwech.

Derbyniwyd adroddiad, ‘Diweddariad yr Heddlu’.  Daeth Dion a Delia o’r Heddlu draw atom i egluro’r sefyllfa diweddaraf yn yr ardal.  Dywedwyd fod 90 o achosion troseddol wedi bod yn yr ardal ers y Nadolig.

Bwriedir y Cyngor ddiolch i’r RSPCA am ei gwasanaeth milfeddygol, rhad ac am ddim i’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal ac am ei hannog i barhau gyda’r gwaith.

Mae pethau cyffrous ar y gweill a gobeithio y gallwn rhoi fwy o fanylion i chi dros y misoedd nesaf. 
Diolch am ddarllen, eich geiriau caredig a’ch ffyddlondeb i’r golofn.

Hwyl am y tro.
DMJ
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

 

12.5.25

Dechrau Wrth Ein Traed

Daeth cyfres arall o nosweithiau Caban i ben ar nos Wener olaf mis Mawrth. Mae rhai yn ofergoelus am y rhif 13, ond roedd hon -ein trydedd noson ar ddeg ers dechrau’r gyfres yn Ionawr 2023- yn achlysur arbennig eto.

Y tro hwn, Ffion Dafis, y cyflwynydd, actores ac awdur oedd yn rhoi sgwrs, ac Osian Morris oedd yn canu. Ffion sydd biau’r bennawd uchod, wrth iddi son am ba mor bwysig ydi cynnal digwyddiadau lleol yn ogystal â chyfrannu at yr ymgyrch genedlaethol dros annibyniaeth. 

Soniodd am ei hoffter o Stiniog, am iddi dreulio rhan o’i phlentyndod yn Nolwyddelan, ac mi gawsom ni gip ar ei thrydydd llyfr a darn yn manylu ar ei thaith yn ôl i’r gogledd o’r brifddinas, “mae’r tir yn mynd dan groen rhywun...” meddai a’r penderfyniad yn hawdd yn y diwedd i symud i ardal wyntog ‘y fegin fawr’ yn Islawrdref Dolgellau -hyfryd iawn. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r llyfr!

Wrth gyflwyno Osian, disgrifiodd Hefin ein cadeirydd fo fel canwr-gyfansoddwr efo tinc o’r blues, ac heb os mi gawsom ni wledd o’i sgiliau gitâr, a chaneuon gwerin eu naws. Caneuon gwerinol, amgylcheddol, o’r pridd rhywsut, a’r geiriau yn portreu cynefin y canwr, sy’n ennill ei fara ‘menyn fel saer maen a waliwr cerrig, a’r caneuon yn frith o son am fryniau ei fro, a’r adar, blodau a chymeriadau cefn gwlad. 

Ewch i chwilio am ei albwm ‘O’r Ceubren’ ar y gwasanaethau ffrydio, mae’n haeddu mwy o sylw ar y cyfryngau Cymraeg yn sicr.

Mae criw YesCymru Bro Ffestiniog rwan yn trefnu’r gyfres nesa’ ac yn edrych ymlaen yn arw i gael croesawu Bryn Fôn yn ein noson gynta’ yn yr hydref: mae’r manylion i’w cadarnhau ond rhowch nos Wener olaf bob mis yn eich dyddiadur rwan! Gadewch i ni wybod hefyd os oes rhywun penodol yr hoffech weld yn dod i Stiniog i’n diddanu.

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

Lluniau- Gai Toms, Hefin Wyn Jones. Geiriau- PW

Ôl-rifynnau Llafar Bro

Siomedig oedd deall fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu dod a’u harfer o rwymo papurau bro y sir i ben, er eu bod yn parhau i gefnogi trwy brynu’r papurau yn fisol.

Mae casgliad cyflawn o Llafar Bro yn Llyfrgell y Blaenau, ers y rhifyn cyntaf yn Hydref 1975. Ers y dechrau mae Cyngor Gwynedd wedi talu am eu rhwymo, fesul blwyddyn, mewn clawr caled coch, ond yn dilyn cyfnod hir o lymder a chyllidebau’n gostwng o flwyddyn i flwyddyn, rhaid oedd dirwyn y traddodiad i ben gyda chyfrol 2021.

Oherwydd hyn, mae pwyllgor Llafar Bro wedi penderfynu mynd ati i rwymo’r rhifynnau ein hunain, ac ar y 14eg o Fawrth, cyflwynodd ein cadeirydd Rhydian Morgan, ac un o’n panel golygyddion Cadi Dafydd, gyfrolau 2022, 2023, a 2024 i ofal staff y llyfrgell, Jillian Williams a Rachel Martin.


Mi fydd pob* rhifyn -o Hydref 1975 hyd Rhagfyr 2024- ar gael felly, i’w darllen a’u mwynhau a’u harchwilio hyd tragwyddoldeb -neu o leiaf tra bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn parhau i agor eu drysau! Gyda’ch cefnogaeth chi, ddarllenwyr annwyl Llafar Bro, bydd y pwyllgor yn trafod o flwyddyn i flwyddyn a ddyliwn ni barhau i dalu am rwymo’r rhifynnau. Beth ydych chi’n feddwl?

*Yr eithriadau wrth gwrs ydi’r rhifynnau digidol a gyhoeddwyd yn ystod Gofid Covid, ond mae’r rhain i gyd ar gael ar wefan Bro360, diolch i gydweithrediad cwmni Golwg. Mae dolen i’r dudalen berthnasol ar wefan Llafar Bro hefyd.

Ewch draw i’r llyfrgell am sbec felly, i bori trwy bron i hanner canrif o’ch hoff bapur bro; mi gewch groeso cynnes bob tro gan y staff hawddgar.

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

Llun a geiriau gan PW