10.5.16

Mil Harddach Wyt -gwarchod planhigion ifanc

Yn yr ardd.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.


Yn yr Ardd Lysiau
Os ydych wedi plannu tatws cynnar bydd angen cadw golwg os bydd y gwlydd yn torri allan o’r pridd ac os bydd yn debyg i ni gael rhew bydd angen eu priddo neu roi papur neu ‘fleece’ drostynt.

Cofiwch ei bod yn  well rhoi rhyw fath o gylch weiar neu rhywbeth tebyg dros y rhesi rhag i beth bynnag y byddwch yn ei ddefnyddio i warchod y tatws gyffwrdd yn y dail neu maent yn debygol o gael eu llosgi gan y rhew.

Ffa, pys, a mwy

Gellir plannu ffa dringo tuag at ddiwedd y mis a chadw golwg ar y tywydd a’u gorchuddio os bydd rhew yn debygol.

Pys sydd wedi cael eu hau y mis diwethaf – bydd yn rhaid rhoi ffyn wrthynt yn awr.  Brigau coed cyll yw'r gorau.  Mae rhai yn defnyddio rhwyd hefyd.  Rhwymo ffa hefyd fel y maent yn tyfu, ac er mwyn cael dilyniant o lysiau: hauwch eto, pethau megis letys, rhyddugl, betys a maip.

Bydd planhigion tomatos yn tyfu'n gryf yn awr a bydd angen rhoi llinyn i gansen i’w dal a hefyd torri yr ochr dyfiant (side shoots) yn rheolaidd.  Bwydo hefyd bob wythnos.

Mae hefyd yn adeg i blannu ciwcymerau o dan wydr; mae rhain yn hoffi lleithder ac felly yn werth chwistrellu dŵr dros y dail yn aml.

Yn yr Ardd Flodau

Os fuoch chi'n bwydo planhigion gyda bwyd sydd yn uchel mewn nitrogen,  ac os oes gennych blanhigion megis planhigion tŷ sydd ar fin blodeuo mae angen newid y bwyd yn awr i un sydd yn uchel mewn potash (e.e. phostrogen).  Beth mae hwn yn mynd i’w wneud yw cryfhau’r goes a rhoi lliw da i’r blodyn.

Blodau'r gwanwyn
Mae'n dal yn rhy fuan i roi planhigion blynyddol allan yn y borderi tan ddiwedd y mis neu ddechrau Mehefin.  Gofalwch eich bod yn eu dyfrio a rhoi ychydig o fwyd iddynt tra maent yn y blychau.

Beth sydd rhaid cofio am blanhigion wedi eu plannu mewn compost di-bridd, yw bod y bwyd sydd yn y compost wedi ei ddefnyddio gan y planhigion ar ôl rhyw fis, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn eu bwydo wrth ddyfrio.
 
Gellir hau hadau megis ‘larkspur, calendula a godetia’ yn awr yn lle y meant am flodeuo a’u teneuo yn nes ymlaen.

Fe ellir rhoi basgedi crog allan yn ystod y dydd a’u rhoi mewn cysgod dros nos tan ddiwedd y mis.

Bydd angen gwneud hyn hefo’r holl blanhigion blynyddol er mwyn eu caledu yn iawn cyn eu plannu allan.


------------------------------------------
Lluniau -Paul W.

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.

Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.


8.5.16

Peldroed. 1968 - 1971


Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams (Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones). 

1968-69
Dechreuodd tymor 1968-69 gyda'r newydd fod y clwb yn glir o ddyled a bod ychydig o gannoedd yn y banc ganddynt.  Bu gwelliant mawr yng nghyflwr y cae chwarae hefyd.

Tommy Lane oedd y rheolwr eto ar y cychwyn. Dyma dymor ymddangosiad cyntaf Peter Rowlands, un o Lerpwl, a ddaeth yn rheolwr llwyddianus dros ben yn ddiweddarach.  Unwaith eto, roedd gan Blaenau 41 o chwaraewyr wedi gwneud un neu fwy ymddangosiad, ac yr oeddynt yn cynnwys Heywood, Aspinall a Tate, gynt o Bwllheli.  Y brodyr John a Bobby Clarke a chwaraeodd amlaf yngyd ag Aspinall, Gallagher,  Stoddart ag Ellis Humphreys.

Bu cryn gyfnewidiadau yny tîm, ac fe ddychwelodd David Todd ar ôl ei gyfnod yn Awstralia, ond nid oedd ei hen gyd-flaenwyr, McNamara, Birch, Turner a Quinn ar gael, gyda'r canlyniad mai dim ond dwy gôl gafodd Todd yn ei 21 gêm gyda Stiniog y tro hwn. Gwelwyd Gerry Pierce yn gorffen fel ceidwad gôl, a Joe Devine yn cymryd ei le.

Yr oedd gan y Blaenau driawd o ymosodwyr anturus yn Chris Gallagher, Bob Clarke a John Clarke, a rhyngddynt hwy a Terry Burgin y bêl i'r rhwyd 98 o weithiau.  Sgoriodd y tîm gyfanrif o 127 dros y tymor ac roedd arwyddion bod tîm cryf ar fin ymddangos yn lliwiau y Blaenau.

Daeth y tîm yn ail yn y Gynghrair a chyrhaeddwyd rownd gyn-derfynol Cwpan y Gogledd a ffeinal Cwpan Cookson.  Chwaraewyd y ffeinal ddwywaith yn erbyn Bangor, gyda'r un canlyniad, 1-1. Gohiriwyd y ffeinal wedyn tan ddechrau tymor 1969-70.  Bangor a orfu bryd hynny 3-1.  Dim ond unwaith y methodd y Blaenau â sgorio drwy'r tymor.

Dim ond un chwaraewr lleol a welwyd, sef Billy Williams.  Yr oedd Queensferry yn y Gynghrair yn 1968-69.

   
* * * * * * * *
1969-70
Bu 1969-70 yn dymor prysur iawn i Stiniog.  Chwaraewyd 49 o gemau, yn cynnwys 17 o gemau cwpan.  Roedd y tymor hwn yn arbennig oherwydd i'r Blaenau, o'r diwedd gael hwyl go dda yng Nghwpan Cymru.

Cymerodd y cwpannau beth wmbredd o amser y clwb, mewn gwirionedd, a diau mai hynny a barodd iddynt fethu â bod yn y tri uchaf yn y Gynghrair, oherwydd ym mhrysurdeb diwedd y tymor collasant y ffordd yn llwyr yn eu gemau Cynghrair gan golli deuddeg pwynt a hwythau yn ffefrynnau am y bencampwriaeth.

Enillwyd Cwpan Cookson drwy guro Coleg y Brifysgol, clwb tref Bangor, Bethesda a Chei Connah.  Chris Gallagher oedd y prif sgoriwr gyda 31 gôl.  Sgorwyr eraill oedd Paul Lloyd (28) Graham Griffiths (20).  Mab oedd Graham i Jack Griffiths a chwaraeai i'r Blaenau adeg y brodyr Cole, Wrecsam.  Ef, a Graham Jones, Peter Rowlands, Bob a John Clarke, Peter Jackson a Joe Devine a chwaraeodd fwyaf o gemau.

Enillwyr Cwpan Cookson. Llun o wefan Stiniog[dot]com
Tîm lleol a chwaraeodd un gêm oedd Elwyn Morris, Glyn Jones, Keith Owen, Billy Lloyd Williams, Gwyn Roberts, David Emlyn Griffiths, Richard Elwyn Jones, David Benjamin Williams, Gareth Roberts a Herbert Jones.

Ennill yn erbyn y Rhyl a wnaethant, ond roedd hi'n rhy hwyr i ennill y bencampwriaeth.  Chwaraewyd pedair gêm o fewn pedwar diwrnod ar ddiwedd y tymor.

1970-71
Tîm annhebyg o guro y Blaenau yn 1970-71 oedd y Bermo, ond dyna a wnaethant yn y gêm gyn-derfynol Cwpan y Gogledd ym Mhorthmadog.

Yng Nghwpan Cymru, trechwyd Stiniog eto gan Groesoswallt wedi i'r Blaenau guro Llandudno a Brymbo.

Am y tro cyntaf, ymunodd y clwb yng nghystadleuaeth Tlws Cymdeithas Peldroed Lloegr, ond curwyd hwy gartref gan Gei Connah.

Roedd tri chyfnod pwysig i Stiniog yn y tymor hwn.  Gwnaethant yn dda yn y 19 gêm gyntaf drwy ennill 14 ohonynt, ond difethwyd y cychwyn da drwy gael dim ond un fuddugoliaeth yn y 19 gêm nesaf.  Yna collwyd pwyntiau pwysig tua'r Pasg i ddifetha eu siawns i ennill y bencampwriaeth.

Tua'r adeg hynny y gorffennodd Tommy Lane fel rheolwr y tîm.  Aeth Queensferry allan o'r Gynghrair cyn dechrau 1970-71.  Enwau yn llyfrau y tymor oedd Eddie Folksman, Joe Duncan, Jim Robinson, Alan Sumner a Whelan.  Sumner (30 gôl) oedd y prif sgoriwr.  Ni chollodd Peter Jackson yr un gêm.
----------------

Mae rhan gyntaf yr hanes y tro hwn yn unigryw i wefan Llafar Bro gan nad ydi'r bennod wedi ymddangos yn y papur: bu bwlch yn y gyfres yng ngwanwyn 2006. Ymddangosodd yr ail hanner ddeg mlynedd union yn ôl, yn rhifyn Mai 2006.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

6.5.16

Blas ar sgwrs

Adroddiadau o gyfarfodydd Chwefror a Mawrth ambell un o gymdeithasau prysur yr ardal.

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Wrth groesawu’r aelodau i gyfarfod cyntaf tymor newydd y Gymdeithas Hanes, dywedodd y llywydd, Robin Davies, mor falch ydoedd o weld  cymaint o wynebau newydd. Diolchodd i Gareth Jones, yr ysgrifennydd, am baratoi rhaglen mor ddifyr ar gyfer 2016.
Gŵr gwadd y noson oedd yr hen ffefryn Steffan ab Owain, a’i destun ‘Chwarel y Moelwyn’.
Sefydlwyd y chwarel gyntaf ar lethrau’r Moelwyn Bach ar dir y goron, er fod gan Parc Llanfrothen a Stâd Ormsby-Gore Oakeley dir yn ymylu ar y safle. O 1805 ymlaen bu nifer o gwmnïau gwahanol yn cloddio am lechfaen ar y safle. Un o’r rheini oedd y Royal Cambrian Company a berchnogid gan deulu’r Rothschilds. Ond, fel pob cwmni arall o’i flaen, chafodd hwn, chwaith, fawr o lwyddiant.
Cyfeiriodd Steffan at y llwybr oedd yn rhedeg o’r chwarel i lawr i Groesor ac a adwaenid fel Ffordd yr Iddew Mawr.

Cwmnïau eraill a fu yno oedd y Great Moelwyn Slate Company Ltd yn 1860, yr Union Slate Company Ltd yn 1873 a Moelwyn Slate Company yn ddiweddarach. Bu gwŷr lleol hefyd yn ceisio cynnal y chwarel, megis Cadwaladr Roberts, Buarth Melyn. Fe gollodd ef ei dad tra yn gweithio yn y chwarel.

Adeiladwyd chwe inclên o’r chwarel i ymuno neu gysylltu â’r Lein Fach o'r Blaenau i Borthmadog ond diflannodd olion rhai ohonynt pan aed ati i greu’r orsaf drydan yn Nhanygrisiau a chodi argae Llyn Stwlan.

Roedd pawb, yn amlwg, wedi cael blas ar y sgwrs a bu cryn drafod wedyn efo pawb yn synnu at waith ymchwil manwl Steffan. John Hughes a dalodd y diolchiadau ffurfiol ac roedd yn gofidio ei fod ef ac eraill wedi colli’r cyfle i grwydro tir y chwarel tra’r oedden nhw’n gweithio yn y pwerdy.

 * * * * * *

Fis yn ddiweddarach, daeth cynulleidfa dda arall i glywed sgwrs gan Vivian Parry Williams ar destun: Y cynllun mawreddog i ddraenio chwareli Stiniog yn 1903.

Seiliwyd y ddarlith ar adroddiad gan Thomas Jones ym Mai 1903 i ddraenio'r miliynau o alwyni o ddŵr oedd yng nghrombil y chwareli. Yn yr Ocli er enghraifft defnyddir pympiau oedd yn pwmpio
allan 40,000 galwyn yr awr ond yr oedd angen un yn pwmpio 100,000 galwyn yr awr. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys chwareli Llechwedd, Foty a Maenofferen yn ogystal.

Bwriad a chynnig Thomas Jones i ddatrys y broblem oedd cloddio un o ddau dwnnel o’r chwareli i'w gwagio. I’r perwyl hwn cysylltodd â chwmni oedd yn creu twnnel Simplon yn y Swistir. Yr oeddynt yn defnyddio dril arbennig ac yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn y cynllun hwn.

Nod Jones oedd cysylltu’r bedair chwarel ag un twnnel i redeg i lawr i Ryd-y-sarn neu i Gymerau.
Amcangyfrifwyd mai cost y twnnel i Ryd-y-sarn oedd £75,000 a £65,000 i Gymerau ond teimlodd Thomas Jones y basa £100,000 yn clirio'r cyfan. Wedi ystyried hyn a hefyd cost y posibilrwydd o drydaneiddio y chwareli penderfynwyd gwrthod cynllun Thomas Jones.

Yr oedd Vivian yn dal allan mae'r rhesymau am wrthod y cynllun oedd diffyg cyfalaf, diffyg hyder a diffyg gweledigaeth. Tybiodd beth fasa’r sefyllfa heddiw pe baent wedi mynd ymlaen efo’r cynllun... Hwyrach y buasent yn parhau i weithio yn y chwareli, ac na fysa poblogaeth Blaenau wedi disgyn
o dan y 5,000. Byddai mwy o siopau yn y dref, ac ni fasa cymaint o gapeli wedi cau. Pwy a ŵyr?!

Yr oedd nifer y sylwadau ar y diwedd yn tystio fod y gwrandawyr wedi cymryd diddordeb mawr ac wedi mwynhau darlith am bwnc oedd yn hollol newydd iddynt. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan  Bill Jones gan dynnu ein sylw at un o’r sleidiau a ddangoswyd, un yn dangos rhediad y twneli
yn yr Ocli.
Robin Davies


Cymdeithas Hanes Bro Cynfal 
Pan gyfarfu’r gymdeithas yn y neuadd ym mis Chwefror, y gŵr gwadd oedd Bill Jones o’r Blaenau, sydd wedi bod yn gwneud gwaith archeolegol yng Nghwm Penamnen ers blynyddoedd bellach. 

Llywyddwyd y noson gan Emyr ac er fod nifer fechan o’r aelodau yn bresennol am wahanol resymau, mwynhawyd y cyflwyniad gan y rhai oedd yno. 

Roedd lluniau ardderchog gan Bill i gyd-fynd a’i sgwrs – lluniau o eglwys Dolwyddelan, Bryn y Bedd a Chwmorthin. Diolch i Bill am noson ddiddorol dros ben.


Merched y Wawr  Blaenau
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor newydd yn y Ganolfan Gymdeithasol o dan lywyddiaeth Ceinwen Humphries, a'r gŵr gwadd oedd Dafydd Roberts o'r Manod, gyda chymorth Gareth T. Jones ar y cyfrifiadur.

Dangosodd amryw o sleidiau o’r ardal a dynnwyd gan ei dad-yng-nghyfraith rai blynyddoedd yn ôl, a’u cymharu â rhai diweddar a dynnwyd gan Dafydd ei hun.

 

O hen ffordd Dolwen a'r Tyrpag Newydd i ganol y dref a'r diwydiant chwareli, gwelwyd newidiadau mawr.  Cyn gorffen cafwyd cwis  darluniadol o ddarnau addurniadol a dyddiadau a welir ar rai o adeiladau'r dref, a syndod oedd sylweddoli cyn lleied yr ydym yn sylwi ar yr hyn sydd o'n cwmpas.

Diolchwyd i'r ddau am noson ddifyr gan Ellen Evans.


Merched y Wawr Llan
Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni OPRA Cymru, oedd y siaradwr gwadd yn ein cyfarfod fis Chwefror. Cawsom sgwrs ddifyr ganddo yn olrhain hanes sefydlu’r Cwmni, gan egluro sut yr oedd wedi gweld bod y Gymraeg yn benthyg ei hun i opera.

Clywsom mai ei weledigaeth oedd chwalu’r elfen uchelael sy’n nodweddiadol o opera, gan ddod â’r cyfrwng o fewn cyrraedd pawb. Wrth ddiolch iddo, llongyfarchodd Nan Rowlands y Cwmni ar lwyddiant ‘Carmenâd i Ysgolion’ a dymunodd yn dda i’r daith nesaf yn ystod mis Mawrth gyda ‘Deigryn yn y Dirgel’.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yr adroddiadau uchod yn rhifynnau Chwefror a Mawrth 2016.
Gallwch ddilyn hanesion eraill o'r cymdeithasau efo'r dolenni isod.

4.5.16

Pwyllgor Amddifyn yr Ysbyty Coffa

Y frwydr yn parhau.
(O rifyn Ebrill 2016)

Ar ôl chwe mis union o orfod aros, fe gafwyd cyfarfod efo rhai o swyddogion y Bwrdd Iechyd.  Yn bresennol ar ran y Betsi roedd y cadeirydd Dr Peter Higson, Geoff Lang (Cyfarwyddwr Strategaeth), Ffion Johnstone (Adran Rheolaeth Meddyginiaethau) a Wyn Thomas (Adran Gofal Cymunedol). Yno i’w cyfarfod roedd wyth o aelodau’r Pwyllgor Amddiffyn, dau gynghorydd tref ac aelod o Gyngor Cymunedol Dolwyddelan.

Parhaodd y drafodaeth am ddwyawr a manteisiwyd ar y cyfle i godi nifer o bynciau llosg, megis:
(i) agwedd ac ymddygiad anfoddhaol un o’r meddygon ‘locum’ sy’n cael ei anfon yma gan y bwrdd iechyd
(ii) methiant cyson y Betsi i gydnabod ac i ymateb i ddwsinau o lythyrau cŵyn oddi wrth gleifion yr ardal, a rhai o’r rheini’n gwynion difrifol iawn
(iii) yr anhwylustod i bobol o’r ardal hon, sydd heb gar, fynd i lawr i Alltwen i gadw apwyntiad neu i ymweld ag anwyliaid sy’n gleifion yno
(iv) y ffaith bod BIPBC wedi dangos ffafriaeth, dro ar ôl tro, tuag at ardaloedd mwy llewyrchus glannau môr. 
(v) bod aelodau’r Bwrdd Prosiect Iechyd a Gofal Integredig (PIGCI) wedi anwybyddu barn pobl y cylch wrth benderfynu nad oedd arnom angen gwlâu i gleifion na gwasanaeth mân anafiadau nac uned pelydr-X mwyach.

Sut bynnag, yn ôl eu harfer doedd swyddogion y Betsi ddim yn barod i gydnabod unrhyw fai nac unrhyw fethiant ar eu rhan nhw, nac yn barod, chwaith, i ystyried hyd yn oed y cyfaddawd lleiaf! Yn hytrach, wrth i’r cyfarfod ddod i ben, apeliodd Dr Higson arnom i gydweithio efo’r Bwrdd Iechyd o hyn allan, a hynny er mwyn gwireddu’r union gynlluniau y mae pobol yr ardal yma wedi eu gwrthwynebu o’r cychwyn!

Fyddwn ni ddim yn gneud hynny, wrth gwrs, ond mae’n rhoi syniad ichi o sut bobol rydan ni’n ceisio delio efo nhw, sef swyddogion ar gyflogau uchel eu hunain sy’n rhoi mwy o bwys ar arbed arian nag ar wella amodau iechyd a lles pobl yr ardal hon!

Gyda llaw, fe ddywedodd Dr Higson unwaith eto nad oedd BIPBC wedi talu unrhyw sylw i ganlyniad y refferendwm llynedd.

Pam? Wel am nad oes gan Ddemocratiaeth ddim byd o gwbwl i’w wneud â’r modd y mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithredu, medda fo!

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, dyma ddywedodd Dr Whitehead, cadeirydd y PIGCI: ‘Os bydd ein cynlluniau ni’n llwyddo,’ medda fo, ‘bydd Blaenau Ffestiniog yn dangos y ffordd ymlaen i weddill Cymru.’ ‘Os’ go fawr oedd hwnnw, gyfeillion, ac un oedd yn awgrymu ansicrwydd Dr Whitehead hyd yn oed mor gynnar â hynny yn y broses. Ond gyda chefnogaeth gweddill ei Fwrdd Prosiect, rhai ohonyn nhw’n aelodau lleyg lleol, fe lwyddodd i gael ei ffordd, a thrwy hynny hyrwyddo amcanion y Betsi ar gyfer yr ardal hon. Erbyn heddiw, fedrwch chi ddychmygu unrhyw ran o ‘weddill Cymru’ yn dewis yr un llwybr â’r un a gafodd ei orfodi arnom ni, yma?

Y gwaith o ddymchwel rhannau o'r Ysbyty Coffa yn mynd rhagddo. Llun VPW, 27 Ebrill 2016. Cafodd y llun yma ei rannu 230 o weithiau a'i weld gan 14,000 o bobl o fewn deuddydd i'w roi ar dudalen gweplyfr/facebook Llafar Bro, a nifer yn rhoi sylwadau am y broses.

Mai 5ed
A dyma ni ar drothwy etholiadau unwaith eto. Gan mai’r refferendwm ar Ewrop ym Mehefin fydd yn cael y sylw mwyaf o ddigon, yna mae peryg i etholiadau’r Cynulliad ymddangos yn ddibwys i lawer ohonom.

Ond, i’r rhai ohonoch sy’n dal i deimlo’n ddig oherwydd y ffordd y mae’r Betsi wedi trin yr ardal hon, yna manteisiwch ar eich cyfle i ddangos eich ochor. Er enghraifft, os daw ymgeiswyr - waeth o ba blaid - at ddrws eich tŷ i ofyn am eich cefnogaeth, yna gofynnwch iddyn nhw’n blwmp ac yn blaen be mae’n nhw wedi’i neud, a be maen nhw’n fwriadu ei wneud ynghylch y gwasanaeth iechyd israddol sydd gynnon ni, bellach, yn y rhan hon o’r etholaeth.

Peidiwch, da chi, â cholli’ch cyfle i fwrw’ch pleidlais, hyd yn oed os ydach chi fel finna, bellach, yn ei chael hi’n anodd derbyn bod unrhyw fath o ddemocratiaeth yn bodoli tu hwnt i’r blwch pleidleisio.

Dydi peidio pleidleisio ddim yn dangos protest o unrhyw fath. Pan fo canran y bleidlais yn isel, nid fel ‘protest’ mae’r gwleidyddion yn egluro peth felly ond fel ‘diffyg diddordeb y cyhoedd’.

Ond mae’n bosib defnyddio’ch pleidlais mewn ffordd wahanol i ddangos protest, sef trwy ei difetha hi’n fwriadol gan nodi pam ar eich papur pleidlais. Beth mae hynny’n ei gyflawni, meddach chi? Wel, mae’r pleidleisiau a ddifethwyd hefyd yn cael eu cyfrif ac mae’r cyfanswm yn cael ei gyhoeddi. Os bydd y cyfanswm hwnnw’n uchel, yna bydd y wasg am gael gwybod pam, a phwy ŵyr na fydd eich protest yn cael sylw wedi’r cyfan!
GVJ
---------------------------------


Gallwch ddilyn yr hanes efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

2.5.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Gwawdio'r gwan a gwadu'r gwir

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Dyma'r bennod a baratowyd ar gyfer rhifyn Ebrill eleni. Aeth ar goll yn y wasg, felly mae'n ymddangos am y tro cyntaf yma ar y wefan.

Cerdyn a yrwyd adra o'r rhyfel. Diolch i Nita Thomas.
Wedi cyflwyno’r Ddeddf Orfodaeth ar dechrau 1916, daeth diwedd ar swyddogaeth recriwtwyr lleol, megis Lewis Davies, Y Gloch, ac yntau’n ymfalchïo iddo ‘berswadio’ dros 500 o fechgyn lleol i ymuno.

Er i nifer fawr o ddynion yr ardal ateb yr alwad i ymrestru cyn i orfodaeth gael ei gyflwyno yn gynnar yn 1916, yr oedd canran helaeth heb fod mor awyddus i wisgo lifrau'r fyddin. I'r sawl a wrthwynebai ymrestru  gorfodol, cyflwynodd y Swyddfa Ryfel drefn newydd o dribiwnlysoedd, i benderfynu a fyddai gan yr apelydd resymau dilys dros wrthod.

Sefydlwyd tribiwnlysoedd lleol, gyda chasgliad o rhwng chwech a deuddeg o aelodau dethol o'r gymdeithas yn gwasanaethu arnynt. Os na fyddai'r sawl fyddai'n apelio am ryddhad rhag gwasanaeth milwrol yn fodlon ar benderfyniad y panel detholedig hwnnw, byddai hawl ganddynt i apelio i Dribiwnlys Sirol. Gwasanaethai nifer o ddynion blaenllaw'r sir ar dribiwnlys y sir, ac yn arferol, yn wynebau dieithr i'r dynion a fyddent yn apelio am esgusodiad rhag ymuno.

Bu llawer o ddrwgdeimlad rhwng dynion a wynebent y tribiwnlysoedd, ac aelodau'r llysoedd hynny wedi eu sefydlu. Ceir adroddiadau yn y wasg ar y pryd o ymosodiadau corfforol ar aelodau rhai o'r tribiwnlysoedd, oherwydd natur y dasg a roddwyd gerbron yr aelodau rheiny. Fel y cynyddodd y niferoedd a fyddai'n ymddangos o flaen aelodau'r tribiwnlysoedd, felly hefyd y cynyddodd y drwgdeimlad tuag at y drefn ym mhob cymuned. Cymaint ofn yr awdurdodau o ddrwg-ymateb gan berthnasau colledigion y rhyfel tuag at gyn-aelodau o'r tribiwnlysoedd wedi diwedd y Rhyfel Mawr, fel y gorchmynnwyd i bob cofnod o'u gweithgareddau gael eu dinistrio yn 1922.

Cawn enghreifftiau lu yn y wasg yr adeg honno o ymateb rhai aelodau, swyddogion a chynrychiolwyr milwrol a fyddent yn ceisio penderfynu tynged y dynion fyddai'n ymddangos yn y llysoedd hynny, ac yn apelio am ryddhad rhag ymrestru. Ychydig iawn o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag at yr apelydd, yn aml. Byddai pwysau o du'r swyddogion milwrol i gael mwy o eneidiau i ymuno â'r lluoedd arfog yn golygu na fyddai sentiment yn rhan o'r trafodaethau yn rheolaidd.

Yr oedd nifer o resymau gan y rhai a fyddent yn apelio dros wrthwynebu ymrestru. Byddai adroddiadau manwl gan ohebyddion y wasg o'r digwyddiadau a'r trafodaethau yn y tribiwnlysoedd. Er bod hawl gan unigolyn a fyddai'n anghytuno â dyfarniad y tribiwnlys lleol gael apelio am wrandawiad gan aelodau tribiwnlys ei sir, anwybyddid ei gri yn aml. Cafwyd  nifer o enghreifftiau o ddylanwad y swyddogion milwrol oedd yn bresennol ym mhob un o'r tribiwnlysoedd. Roedd y modd y byddent yn ymddwyn tuag at rai o'r apelyddion yn ymylu ar greulondeb yn aml.

Yn Nhribiwnlys Apêl Sir Feirionnydd ym Mawrth 1916, gwrthodwyd ceisiadau mwy nac un gwrthwynebwr cydwybodol am esgusodiad rhag ymuno. Yr oedd un wedi gofyn caniatâd y tribiwnlys i gael ei anfon i ffatri arfau yn hytrach na mynd i'r fyddin. Roedd ganddo resymau personol i gael aros yn nes adref. Ond gofynnodd un Mr Martin, aelod o banel y tribiwnlys iddo "A ydych am fyned i wneud pethau i ladd pobl? Pwy ydych yn meddwl aiff i'w defnyddio?", gan dderbyn yr ateb parod gan yr apelydd "Rhywun â mwy o galon na fi."

Yn y golofn wythnosol, 'Y Rhyfel', ar 8 Ebrill, datganodd golygydd Y Rhedegydd ei farn yn hollol glir i'r darllenwyr, parthed y tribiwnlysoedd. Dan bennawd 'Y Tribiwnalau Eto' dechreuodd ei ysgrif gyda llinell o gynghanedd, a’r cyfan yn sillafiadau’r cyfnod:
Llai o sen - lle i synnwyr.
Pe bae angen cael rhywbeth mwy na'r ffeithiau a gofnodwyd gennyf o dro i dro er cyfiawnhau y feirniadaeth lem a roddwyd mewn ysgrifau blaenorol ar annoethineb ac annhegwch rhai o Dribiwnalau Cymru, ceir hynny yn ddi-ameu yn y cylchlythyr miniog a yrrwyd allan yr wythnos ddiweddaf gan Mr Walter Long, Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol at Dribiwnalau y Deyrnas. Mae Mr Long, fel mwyafrif o bobl deg a diragfarn wedi cael ei orfodi i gredu mai gwawdio'r gwan, a gwadu'r gwir wna aml i Dribiwnal. Geilw arnynt mewn geiriau digon plaen i roddi llai o sen a lle i synnwyr yn eu dyfarniadau. Geilw sylw arbennig at y ddau ddosparth y ceisiwyd yn yr ysgrifau hyn i amddiffyn eu cam, sef Mab y Weddw a'r gwrthwynebwr cydwybodol.
    Mae yn resyn meddwl fod rhai o Dribiwnalau Siroedd Cymru yn waeth troseddwyr yn y ddau beth uchod nag a fu Tribiwnalau Lleol. Dangosodd aml un o honynt yn hollol anghymwys i'r swydd, yn hollol analluog i ddal mantol cyfiawnder yn union...Hoffwn ddweyd wrth bawb a'r cyfryw, ai ar Dribiwnal Lleol neu Sirol yr eisteddant, fod Barnwr cyfiawnach na hwynt hwy wedi dweyd "A pha farn y barnoch y'ch bernir. A pha fesur y mesuroch yr adfesurir i chwithau." Ac ni lefarodd y gwr Hwnnw yr un gair yn ofer erioed.
        ------------------------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.