28.8.21

Cwm Teigl -pontydd a phêl-droed

Pennod olaf cyfres Emlyn Williams: ATGOFION AM GWM TEIGL – TEG EI LUN [4]

Mae gennyf atgofion melys iawn am Glynis, Teiliau Bach. Pan ddechreuais fynychu’r ysgol yn Llan, roedd Glynis yn dringo i fyny at Bont Benyd (neu ‘Beunydd’) ar ffordd Cwm Teigl, ac wedyn, yn fy nanfon i’r ysgol bob dydd. Roedd hyn yn galluogi Mam ddychwelyd i Llechwedd yn gynt yn y bore i gyflawni ei gorchwylion beunyddiol ar y fferm. Wn i ddim os oedd y ddyletswydd foreuol hon yn plesio Glynis rhyw lawer. Yn anffodus, chefais i mo’i chwmni yn hir iawn, achos fe benderfynodd ei theulu (teulu William Roberts) godi eu pac ac ymfudo dros y môr i Awstralia. Mentro o wyrddni Cwm Teigl i ddifeithwch rhuddgoch Gorllewin Awstralia yn 1959 -dyna i chi anturiaeth yng ngwir ystyr y gair! 

Mae’r bont a gyfeiriais ati uchod wedi creu cryn dipyn o benbleth i mi. Ai ‘Bont Benyd’ neu ‘Bont Beunydd’ yw’r enw cywir arni? Mae’n siŵr fod rhywun ymysg darllenwyr Llafar Bro yn gwybod yr ateb*. 

Rwyn cofio hefyd Mr Hill yn Bron Teigl a Mr Thompson yn Bryn Wennol; dau ffisiotherapydd oedd yn gweithio llawn amser yn y clinig yn Heol Towyn. Ys gwn i sawl ffisiotherapydd sy’n gwasanaethu’r ardal heddiw? Y cwestiwn anochel sy’n codi … ydy’r ddarpariaeth iechyd yn yr ardal wedi gwella neu waethygu yn ystod y 60 mlynedd diwethaf? [Cwestiwn HAWDD IAWN i drigolion Stiniog ei hateb yn anffodus! -Gol.]

Americanwr oedd Mr Hill, ac roedd ganddo Austin Mini gwyrdd, un o’r rhai cyntaf yn yr ardal yn 1959. Roedd yn rhoi reid i mi weithiau i’r ysgol, ac roeddwn wrth fy modd yn eistedd yn y sêt flaen, yn gwrando ar ei acen unigryw ac yn cael newid gêr y Mini bach wrth gyflymu lawr yr allt tuag at y Bont Lein, a wedyn, ger Cae Swch. Cychwyn heriol i ddiwrnod yn yr ysgol!

 

Mae gen i lun o fy hun ym muarth Teiliau Mawr yn gwisgo dillad ffwtbol Manchester United (coch a gwyn … ond du a gwyn yw’r llun, wrth gwrs!) Wn i ddim pam mae’r llun wedi ei dynnu yn Nheiliau Mawr o bobman, na pham ddewisais i ‘Man U’ fel fy hoff dîm chwaith. Dwi ddim yn tybio fod gan Gruffydd na Gwen Mary Jones fawr o ddiddordeb ym myd y bêl-droed, er i’w mab, Ifan Wyn chwarae droeon fel gôl-geidwad i’r Blaenau ar ddiwedd y pumdegau.

Mae’n wir dweud fod ‘Man U’ a’r ‘Busby Babes’ wedi ymddangos yn y newyddion yn gyson yn 1958 a 1959, yn sgîl trychineb erchyll Munich, ble collodd 8 o chwaraewyr eu bywydau yn y ddamwain awyren. Mae’n debyg fy mod innau wedi cael cip ar y papurau newydd neu wedi digwydd clywed yr hanes ar y radio. Tybed ai’r cydymdeimladau niferus a fynegwyd tuag at y clwb yn ystod y cyfnod torcalonnus hwnnw a’m hysgogodd i ddewis a chefnogi ‘Man U’ o hynny mlaen -a hyd heddiw- mae’n rhaid i mi gyfadda. Pwy a ŵyr?

Welais i erioed mo Harry Gregg, Bill Foulkes, Denis Viollet na Bobby Charlton yn chwarae yn y cnawd ar gae Old Trafford, ond doeddwn i ddim yn hidio dim am hynny. Roeddwn i’n gallu mynd i Gae Clyd efo Taid a Guto Bryn Teg i edmygu gorchestion gwefreiddiol ‘Scousers’ Blaenau, sef Alan Button, y gôl-geidwad yn ei jersi felen, Keith Godby, Dave Todd a’r anfarwol Derek Turner, ymosodwr o fri ! Yn ystod pum tymor, fe chwaraeodd 169 o gemau ac fe darodd y rhwyd 174 o weithiau. Anhygoel! Yn ogystal, roedd ‘Man U’ yn gwisgo yr un lliwiau â Blaenau: coch a gwyn!

Cyn cau pen y mwdwl, rwy’n cofio hefyd rhedeg nerth fy nhraed at Bont Benyd i wylio a chlywed y trên stêm ar ei daith olaf o’r Bala i Blaenau … yn chwibannu a pwffian heibio Teigl Halt islaw yn Ionawr 1960. Fe fu’r hen drên yn gyfleus dros ben, ac i gymharu â dal y bws ym ‘Mhandy Bridge’, roedd yn llawer mwy cyffrous canfod y rhibin mwg yn agosáu, a wedyn, rasio lawr cae Teiliau Bach efo Mam i ddal y trên yn Teigl Halt a mynd i ‘negesa’ i Blaenau … siop Coparét, siop Cambrian i brynu recordiau, siop Woolworth i brynu da-das, a siop y crydd gyferbyn â’r ‘Commercial’ gynt.
Atgofion, atgofion! Ie, wir! 

Hwyrach fod llochesu yn y gorffennol a chwilio am gysur yn yr oes a fu yn rhan annatod o’r natur ddynol, yn enwedig pan mae cyflwr y byd mor ansicr a thorcalonnus ar hyn o bryd. Ond nid hiraethu am rhyw baradwys coll yw’r bwriad trwy gyfrwng yr erthygl hon. Yn hytrach, glynu’n glos at eiriau craff T.H. Parry Williams yn ei gerdd ‘Bro’:

Nid creu balchderau mo hyn gan un-o’i-go,
Mae darnau ohonof ar wasgar hyd y fro.

SYLWADAU I GLOI:
Rwy’n awyddus hefyd i gysylltu'r atgofion â'r presennol, er eu bod yn adlewyrchu cof plentyn o'r gorffennol. Atgofion ydy’r rhain sy'n pwysleisio dylanwad aruthrol blynyddoedd cynnar ein magwraeth ar ein bywydau fel oedolion yn nes ymlaen. Mae hyn yn gwneud i ni gwestiynu beth sy'n mynd drwy feddwl plentyn bach heddiw mewn cyfnod mor gythryblus a phryderus. Beth fydd cynnwys ei atgofion o'r blynyddoedd 2020 a 2021, tybed? Cyfnod ble nad yw'n gallu sgwrsio a ‘chadw reiat’ gyda'i ffrindiau neu ei gyd- ddisgyblion yn yr ysgol, ble mae'n rhaid gwisgo mwgwd, cuddio ei wyneb a chadw pellter oddi wrth pobl ddiarth; cyfnod ble nad oes modd anwesu a chofleidio ei anwyliaid (taid a nain, er enghraifft). Mae'n debyg y bydd y pandemig dieflig hwn yn cael effaith andwyol ar lesiant meddyddiol a chorfforol plant yn y dyfodol. Felly, mae'n angenrheidiol fod rhieni, teulu, athrawon a gweithwyr cymdeithasol yn rhoi pob chwarae teg i'r genedlaeth ifanc (hyd yn oed y rhai ieuengaf), i fynegi eu pryder, eu gofid a'u gobeithion, a thrwy hynny, eu helpu i wynebu'r dyfodol ansicr sydd o'u blaenau.

-----------------------------------
[*Mae Llafar Bro wedi holi Miss Rhiannon Davies, Tryfal cyn mynd i’r wasg, a ‘Benydd’ fu enw’r bont iddi hi erioed. Oes rhywun ymysg ein darllenwyr yn cytuno efo un o’r enwau a geir yma, neu’n cynnig enw arall eto? Diolch Emlyn am godi testun trafod difyr! Gol.]

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon