Colofn olygyddol rhifyn Gorffennaf/Awst 2021
Mae llawer wedi’i ddweud am berfformiad Cymru yn yr Ewros, ac er nad oes gwadu eu bod yn salach tîm na Denmarc yn eu gêm olaf, eto’i gyd roedd yn gamp arbennig iddyn nhw gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth o ystyried yr amodau teithio fu’n rhaid dioddef. Does yna ddim cywilydd mewn mynd allan ‘run pryd a chewri fel Portiwgal, yr Iseldiroedd, a Ffrainc, a gallwn edrych ymlaen rwan at gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Medi; pawb at y peth y bo!
Elfen gododd galon yn arw iawn yn ystod yr Ewros oedd anogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ddisgyblion Cymru i ganu Hen Wlad Fy Nhadau ar ddydd Gwener y 25ain o Fehefin. Bu’r ymateb yn anhygoel gan ysgolion cynradd ac uwchradd trwy Gymru benbaladr; o’r Fro Gymraeg i’r Cymoedd, ac i Glawdd Offa. Roedd llywodraeth San Steffan, ‘da chi’n gweld, wedi bod yn hwrjio syniad chwerthinllyd ar gyfer yr un dyddiad, sef diwrnod ‘un brydain, un genedl’ ac wedi gofyn i ysgolion ganu cân newydd efo jac-yr-undeb i ysgogi balchder brydeinig! Aeth y syniad lawr fel balŵn blwm yng Nghymru a’r Alban! Diolch i athrawon a disgyblion Bro Ffestiniog a Chymru am dynnu deigryn i lygad a chodi calon efo ffilmiau ohonyn nhw’n bloeddio canu ein hanthem genedlaethol ni yn falch efo’r ddraig goch. Arbennig.
Llongyfarchiadau hefyd, a diolch i’r Cynghorydd Glyn Daniels -swyddog hysbysebion Llafar Bro- ar ei gynnig blaengar gerbron y cyngor sir yn ddiweddar, y dylid codi dwy bunt ar bawb sydd am gael mynd i ben yr Wyddfa. Syniad ardderchog fyddai wedi dod a miliwn o bunnau i’r economi leol. Tydi’r Parc Cenedlaethol ddim yn cefnogi’r syniad, ond o leia’ bu rhywfaint o drafod ar faterion gor-dwristiaeth yn Eryri yn sgîl y cynnig.
Dwi’n edrych ymlaen yn arw at haf eleni, yn fwy na’r arfer efallai, ar ôl yr holl gyfyngiadau ers llynedd. Does dim cynlluniau i deithio ymhell, dim ond crwydro’r filltir sgwâr a rhoi traed i fyny yn yr ardd. Os gawn ni dywydd da!
Gobeithiaf fod rhywbeth o fewn cloriau’r rhifyn yma fydd o ddiddordeb i bawb. Mae’n bleser a braint cael hel deunydd at ei gilydd efo gohebwyr a cholofnwyr Llafar Bro, ond dwi braidd yn bryderus am y dyfodol os dwi’n onest. Mae’r gwerthiant wedi gostwng ac mae wedi mynd yn anodd iawn cael pobl i yrru cyfarchion i golofnau’r ardaloedd, er annog, cymell, ac atgoffa ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gadewch i ni wybod sut fedrwn wella’r ddarpariaeth gyfeillion ac mi geisiwn, gyda’n gilydd, gyhoeddi papur o safon am flynyddoedd eto i ddod. Diolch am eich cefnogaeth; daliwn i gredu!
Paul Williams
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon