16.8.21

Stolpia- gwynt a thrydan

Atgofion am Chwarel Llechwedd … pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Un o’m dyletswyddau fel ffitar yn y chwarel yn yr 1960au oedd cychwyn y cywasgyddion awyr yn y boreau, sef tri ohonynt i gyd. Byddai un ohonynt mewn adeilad ar y Bonc Ganol a gyferbyn â rhan ogleddol y felin, mwy neu lai, a’r grisiau a fyddai rhwng y bonc hon a Phonc yr Efail (5). Credaf mai caban, neu swyddfa fach oedd yr adeilad yn wreiddiol, h.y. cyn fy nyddiau i yn y chwarel. Beth bynnag, cofiaf fynd yno un bore a rhoi’r cywasgydd ar waith, ond gan fod y cyflenwad trydan yn dod o bwerdy’r chwarel ym Mhant yr Afon, ger y Twnnel Mawr, ni ddechreuodd y peiriant ar ei union a dechreuodd wreichioni cryn dipyn a diffoddais ef rhagblaen yn fy nychryn. Yn dilyn y profiad hwn, byddwn yn aros i weld y golau yn dod ymlaen i fyny yn yr adeiladau ar Bonc yr Efail cyn ei gychwyn, a sicrhau bod y cyflenwad wedi cyrraedd y cwt compresor.

Wel, un bore roeddwn yn aros yn nrws y cwt i weld os yr oedd y golau wedi dod ymlaen ar Bonc yr Efail, ond nid oedd dim math o lewyrch i’w weld yno. Wedi bod yn ôl ac ymlaen i mewn ac allan o’r cwt am oddeutu chwarter awr neu fwy yn ei ddisgwyl, penderfynais ei throedio hi i fyny am y bonc i ganfod beth oedd y broblem, ond wedi ychydig gamau, mi glywn leisiau yn dod i’m cwfwr drwy’r tywyllwch, a rhyw dri neu bedwar o’m cydweithwyr oeddynt. Yn y man dywedodd un ohonynt-

“Y mae rhywbeth mawr o’i le efo’r letrig.” 

Ponc yr Offis- cwt compresor oedd yr adeilad ar ben yr inclên ar y chwith, yn y 60au

Fel yr oedd hi’n dyddio, gyda mwy o olau dydd, mi welsom beth oedd y drwg. Nid oedd gwifrau o gwbl ar y polion a ddeuai i fyny o bwerdy Pant yr Afon. Roedd lladron wedi bod wrthi yn y nos ac wedi dwyn pob un wan jac ohonynt. Edrychasom ar ein gilydd yn gegrwth, a methu a choelio bod ffasiwn beth wedi digwydd. Cofiaf hefyd bod rhai’n gweithio ar y Twnnel Mawr y noson flaenorol, ac mae hi’n bosib bod sŵn mynd a dod i mewn ac allan o’r twnnel wedi bod yn help i’r lladron gyflawni eu drygwaith yn rhwydd. Wrth gwrs, golygodd tipyn o waith i ni wedyn i osod gwifrau o’r newydd yn eu lle, ac yn y cyfamser, bu’n rhaid troi at ddefnyddio trydan o’r grid am sbelan.

Byddai’r ddau gywasgydd arall ym mhen gogleddol ‘Melin No5’ ar Bonc yr Efail, un ohonynt yn glamp o gompresor a’r llall yn dipyn llai o faint. Un tro, fel yr oeddwn  ar fin mynd i fewn i’r ffitin siop, galwodd un o chwarelwyr y felin arnaf a dweud bod angar, neu stêm garw yn dod o’r compresor mawr a bod gofyn imi gael golwg arno yn bur siarp. Wedi cyrraedd ato, gwir oedd ei eiriau. Roedd y rhan uchaf ohono dan stêm mawr, ac felly, mi ddiffoddais ef ar fy union. Pan gefais olwg arno wedyn er mwyn gweld pam nad oedd y dŵr yn llifo i’r rhyngoerydd (intercooler), mi glywn oglau fel rhywbeth yn berwi mewn cegin. Wedi cario’r neges i Emrys, fy mos, aethpwyd ati hi yn y prynhawn i’w ddatgymalu, ac ar ôl agor y caead talcen, gwelwn (ac ogleuwn), beth oedd y mater - roedd brithyll bach wedi mynd i lawr drwy’r beipen ac wedi mynd yn sownd ym mhrif bibell y rhyngoerydd. Roedd oglau pysgodyn yn berwi yn ein ffroenau hyd nes y tynnwyd y creadur bach allan ohoni a chael y dŵr i lifo iddo drachefn. Gyda llaw, nid oedd gan yr un ohonom ffansi bwyta’r ‘sgodyn, chwaith!

O.N. - Diddorol oedd sylwadau Bryn yn rhifyn Mai gyda chyfeiriad at ei dad yn gweithio yn Chwarel Llechwedd, ac fel y byddai’n hoff o bysgota yn Llynnoedd Barlwyd. Y mae gennyf gof o’i weld gerllaw caban y pysgotwyr ger Llyn Mawr (Barlwyd) un tro pan yr oeddem ni’r hogiau yn crwydro’r fro ar ddiwrnod braf yn yr haf.
--------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2021

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon