A fyddai hi’n torri’ch calon chi petaech chi’n gwerthu’ch tŷ a’r perchnogion newydd yn ei ail-enwi’n 'Llan-Tropez' neu rywbeth tebyg? Os y byddai, y newydd da yw bod modd osgoi'r hunllef honno bellach, a hynny trwy ymuno â chynllun DIOGELWN a gafodd ei lansio'n gynharach eleni gan Gymdeithas yr Iaith.
Yn y bôn, felly, mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng y Gymdeithas (rwyf yn falch o fod yn aelod ohoni) a phobl Cymru, ac mae'n perthyn i'r traddodiad hir o hunangymorth sydd gan y Cymry Cymraeg.
Mae yna ddwy ffordd o ymuno â'r cynllun.
Yn gyntaf, os ydych chi ar fin neu wrthi'n gwerthu'ch tŷ, bydd yn rhaid i chi gyfarwyddo cyfreithiwr beth bynnag wrth gwrs, a dim ond gofyn iddo lawrlwytho cymal safonol oddi ar wefan y Gymdeithas a'i roi yn y cytundeb gwerthu sydd rhaid. Mae'r cymal hwnnw'n cynnwys cyfamodau (sef addewidion ffurfiol, ysgrifenedig) gan y prynwyr i beidio â newid yr enw Cymraeg ar eich tŷ, yn ogystal â chyfyngiad a fydd yn diogelu'r cyfamodau hynny (ar ôl iddo gael ei gofrestru gan y Gofrestrfa Tir).
Yn ail, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwerthu'ch tŷ ar hyn o bryd, gallwch roi'r un cyfamodau i'r Gymdeithas eich hunain (a'u diogelu nhw gyda chyfyngiad yn yr un modd). Pwrpas hwn yw atal prynwyr neu gymyndderbynwyr rhag newid enw'r tŷ yn y dyfodol. Er mwyn i chi allu cyflawni’r amcan hwn, mae'r Gymdeithas wedi darparu dogfen safonol hefyd y bydd eich cyfreithiwr chi’n gallu’i llawrlwytho oddi ar eu gwefan.
Dyma DDOLEN i'r dudalen berthnasol ble mae'r cymal a'r ddogfen ar gael yn rhad ac am ddim*.
Wrth gwrs, byddai'n ddelfrydol petai Senedd Cymru'n deddfu yn y maes hwn, ond faint o enwau Cymraeg ar dai a fydd yn cael eu colli am byth cyn i hynny ddigwydd? Ydyn ni'n gallu fforddio aros? Gogoniant y peth yw nad oes angen i ni aros o gwbl bellach: gallwn wneud hynny ar ein pennau’n hunain gan ymuno â DIOGELWN.
Efallai'ch bod chi'n meddwl tybed: sut fydd y Gymdeithas yn gwybod a yw unrhyw gyfamod enw wedi’i dorri? Yr ateb yw bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae: dyna ran o'r bartneriaeth yr oeddwn yn sôn amdani gynnau fach. Mae’r Gymdeithas yn bwriadu cyhoeddi rhestr ar eu gwefan maes o law: rhestr o dai y bydd yr enwau Cymraeg arnyn nhw wedi'u diogelu. Os ydych chi’n sylwi ar gymydog sydd wrthi'n newid enw Cymraeg ar ei dŷ i un Saesneg, bydd modd i chi wirio'n syth trwy fwrw golwg sydyn ar y rhestr a yw e'n torri cyfamodau neu beidio. Os hynny, bydd gan y gymuned leol fandad na allai fod yn gliriach na'n gryfach i roi pwysau ar y cymydog hwnnw i beidio â newid enw’i dŷ, neu i'w newid yn ôl. Afraid dweud, gellid rhoi gwybod i'r Gymdeithas yn ogystal er mwyn iddi hi allu rhoi pwysau ar y person dan sylw a'i atgoffa o'i addewidion.
O ran diddordeb, mae gan Flaenau Ffestiniog arwyddocâd arbennig yng nghyd-destun DIOGELWN. 'Neuadd Ddu’ oedd yr enw tŷ cyntaf a ddiogelwyd dan y cynllun, sef cyn-gartref i'r bardd a’r awdur, Sian Northey, ym Manod. Yn wir, Sian wnaeth ysgogi popeth trwy gyhoeddi trydariad fis Mehefin y llynedd am ei phryderon hi ynglŷn â’r enw ar ei thŷ roedd hi ar fin ei werthu. Oherwydd fy mod i’n gyfreithiwr sydd wedi arbenigo yn y maes trawsgludo tir ers dros 30 mlynedd, teimlais yn gryf fod dyletswydd arna i i geisio gwneud gwahaniaeth, yn enwedig o ystyried i fi weld ffordd o wireddu breuddwyd Sian, nid yn unig yn achos ei thŷ hi, ond hefyd pob tŷ arall yng Nghymru y mae enw Cymraeg arno.
Felly, beth am ddiogelu'r enw Cymraeg ar eich tŷ chi? Dim ond ymuno â DIOGELWN sydd rhaid!
Simon Chandler
---------------------------
*Nid yw Llafar Bro yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon