Colofn Olygyddol Glyn Lasarus Jones
Pleser yw cael cyflwyno rhifynnau 501 a 502 - nid i’ch dwylo yn anffodus, ond i sgriniau eich cyfrifiadur neu ffonau neu lechi.
Oherwydd yr ansicrwydd o ran pryd y codid y cyfyngiadau teithio a phryd fyddai rhai siopau yn cael ail-agor, gwnaethpwyd y penderfyniad anodd i wneud rhifynnau cyntaf 2021 yn ddigidol.
Edrych ymlaen at y gwanwyn! |
Os ydych chi’n nabod rhywun heb fod y we ganddynt, beth am argraffu copi neu dudalen neu ddwy ar eu cyfer?
Gobeithio y cawsoch chi i gyd fwynhad o ddarllen rhifyn dathlu Llafar Bro – y 500fed rhifyn ym mis Rhagfyr.
Ymlaen at y milfed rŵan. Os yw fy nghyfrifo’n gywir, mi fydd hi’n 2065 arnom yn cyhoeddi’r rhifyn hwnnw, a minnau yn ei brynu o fy mhensiwn, a bwrw y bydd pensiwn ar gael bryd hynny, a’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad yn y cornelyn hwn o’r ddaear.
Am flwyddyn ryfedd oedd y llynedd. Dechreuodd yn ôl yr arfer fel pob blwyddyn yn ei dro, ac yna daeth y cyfyngiadau symud ar ein gwarthaf. Rhyfedd fel y newidiodd pethau. Dim awyrennau yn yr awyr, pobl yn crwydro’r bryniau efo’u teuluoedd, a llond y lle o Gymraeg. Ond yna daeth yr unigrwydd a’r ansicrwydd a’r rhwystredigaeth, gyda llawer yn gaeth i’w cartrefi ac yn ofni gadael, a llawer yn wir yn dal heb adael eu cartrefi bron o gwbl ers mis Mawrth. Do yn wir, bu’r cyfnod clo yn falm ac yn felltith ar yr un pryd.
Darllenais ambell erthygl ddiddorol iawn yn ddiweddar yn cymharu agweddau o’r Pla Du, neu Haint y Nodau, fel y gelwid hi, gyda chlwy’r corona. Afiechyd hollol ofnadwy oedd y Pla Du a ysgubodd drwy Gymru mewn sawl ton rhwng y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r ail ganrif ar bymtheg.
Bryd hynny, fel heddiw, gwelwyd llywodraethau yn gogor-droi cyn ymateb. Yn wir, gydag un don o’r Pla Du yn 1665, gwelwyd achosion o’r llywodraeth yn celu’r gwirionedd ac yn tanamcangyfrif nifer y meirw. Mae sôn bod rhai gwledydd wedi gwneud hynny y llynedd gyda Cofid. Adeg y Pla Du, gwelwyd y cyfoethogion yn ffoi o Lundain, gan gynnwys meddygon a’r teulu brenhinol eu hunain. Gwelsom ni yng Nghymru yr un ecsodus hwn i’n cefn gwlad yn ystod y cyfnod clo. Ond mi welwyd dewrder adeg y Pla Du yn ogystal, gyda Maer Llundain yn gwrthod gadael y ddinas rhag lledaenu’r haint. Gwelsom ninnau hefyd ddewrder gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn rhoi eu lles eu hunain yn y fantol i ymdrin â’r cleifion.
Hunanynysu am bythefnos oedd yn rhaid i ni ei wneud os oedd symptomau arnom, ond pan oedd y Pla yn Llundain yn yr ail ganrif ar bymtheg, cai cleifion posib eu cloi yn eu cartrefi, peintiwyd croes fawr goch ar eu drws a rhoddwyd gwarchodwyr i sefyll y tu allan rhag ofn iddynt geisio ffoi. A bryd hynny, fel heddiw, roedd yna rai a wrthodai ufuddhau ac a oedd yn mynnu cymdeithasu a hel tafarndai. Yr un yw’r natur ddynol ym mhob oes, debyg.
Boed i 2021 fod yn flwyddyn well na’r un yr ydym ni wedi ffarwelio â hi.
----------------------------
Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2021
Mae rhifynnau digidol Ionawr a Chwefror (a mwy) ar gael i'w lawr-lwytho am ddim.
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon