15.2.21

Stolpia -Cofio'n ôl i'r 70au

Gan fy mod wedi cael fy atgoffa bod Llafar Bro wedi cyrraedd y 500fed rhifyn, hoffwn edrych yn ôl ychydig ar ambell beth yn ymwneud â'n papur bro. Bûm yn gysylltiedig â Llafar Bro bron o'r dechrau - pan oeddwn yn gweithio yn y chwarel, ac i'r cynllun atgyweirio caeau chwarae. Byddwn yn cynorthwyo gyda'r plygu ar y nos Fercher y deuai o'r wasg, ac yn ei werthu yn fisol, ar wahan i fis Awst, pan nad oedd rhifyn. Fy rownd i oedd: dechrau wrth ein tŷ ni, sef  Bryn Gwynedd, Rhiwbryfdir i lawr at Fecws Lei, a gwerthu oddeutu 50 i 60  ohnonynt i gyd, boed law neu hindda. Gyda llaw, pan oedd hi'n glawio yn drwm, gwisgwn gôt hir dywyll, a het law (souwester) a phan ddeuai ambell un i'r drws ar ôl imi roi cnoc arno, mi fyddent yn dychryn gan feddwl mai plismon oedd yn galw heibio.

Roedd amryw o'm cwsmeriaid yn edrych ymlaen at gael ei ddarllen gan y byddai newyddion bro, cyfarchion teuluol, ac ambell stori am dro trwstan, hen luniau, ayyb, ynddo, - sef rhai nad oedd ar gael yn yr un o'r papurau eraill, a'r cyfan yn Gymraeg. Pa fodd bynnag, fel un sy'n ymddiddori mewn hanes lleol, byddwn wrth fy modd yn darllen hen hanesion gan wahanol gyfranwyr i'r papur –a  dyna sydd gennyf y tro hwn, sef  cipolwg ar rai o'r atgofion difyr hynny a ymddangosodd ynddo yn ystod y cyfnod 1975-1985.

Ymddangosodd  atgofion am ardal Rhiwbryfdir ynddo gan y diweddar Glyn Bryfdir yn 1978 a dyma un stori fach dda ganddo am Lei, y ci bach:

Oes gan anifail gymeriad? 

Buasai holl blant y Rhiw yn dweud fod yr Hen Lei yn gymeriad arbennig iawn. Ci o eiddo Ioan Dwyryd oedd Lei, ond acw treuliodd rhan fwyaf o'i fywyd. Cysgai wrth droed y grisiau a hyd heddiw byddaf yn codi fy nhroed wrth fynd heibio'r fan. Gwnai bopeth ond siarad, a chymerai ran yn chwarae'r plant bob amser. Deuai gyda mi i'r ysgol bob dydd a byddai wrth y drws yn fy nisgwyl allan am dri o'r gloch… Ambell noson byddai mam yn dweud wrthyf am fynd i siop 'William Thomas y Chips'. Neidia'r hen gi ar ei draed a ffwrdd ag ef. Wn i ddim a oedd yn gallu dweud wrth William Thomas beth oedd y neges, ond byddai gwerth naw ceiniog yn barod erbyn i mi gyrraedd y siop.

Stryd Fawr  y Blaenau yn yr 1970au

Byddai un yn galw ei hun yn 'Ar Wasgar' yn anfon pytiau o atgofion difyr am Danygrisiau hefyd. Dyma un ohonynt o rifyn Tachwedd 1978:

Ymdrochi

Byddem yn cael hafau poeth yn Stiniog yr adeg hynny. Yn Nhanygrisiau roedd o leiaf pedwar lle y gallem ymdrochi. Y gair a ddefnyddid yn aml am hyn oedd "plymio". Yr oedd y Merddwr Mawr a'r Merddwr Bach (y ddau erbyn hyn o dan Lyn Ystradau). Yr oedd Llyn Hogiau yn afon Cwmorthin uwchben Tyn Pistyll. I'r merched a'r plant lleiaf yr oedd Llyn Merched - darn o afon Cwmorthin y tu ôl i Tŷ Mawr –lle codid argae i wneud llyn bach bas i ymdrochi ynddo. 

Pwy all ddweud wrthym pwy oedd yn galw ei hun yn 'Ar Wasgar' ?

Alltud arall a fyddai'n anfon amheuthun difyr o'i atgofion a fyddai W. M. Jones, Prestatyn. Dyma un stori o'i eiddo - 

Eirth

Eidalwr yn dod o gwmpas y wlad  hefo performing bears – eirth ar tsiaen (cadwyn). Cofio am y diweddar Barchedig D. Garfield Owen a minnau yn mynd am dro i ben y Crimea am y tro cyntaf erioed, ac wedi cyrraedd y copa, yn dod i gyfarfod y bobl a'r eirth, ac yn ei charlamu mewn braw i lawr yn ein holau. 

Un o'm hoff golofnau yn yr 80au oedd 'Dyddiau Gynt - Atgofion Alun Jones, Benar View'. Os cewch gyfle darllenwch rai ohonynt er mwyn ichi gael hwyl iawn. Yn wir, y mae hi'n anodd penderfynu pa stori i ddewis gan fod cymaint ohonynt yn peri i un chwerthin yn iawn. Beth bynnag, dyma un o'm ffefrynnau gan fy mod yn hoff iawn o storiau am y...

Twnnel Mawr

Bu'r twnnel mawr yn eithriadol o hwylus i Stiniog ar fwy nag un achlysur yn y gorffennol, pan fyddai'r ffordd dros Fwlch Gorddinan (y Crimea) a'r lein i'r Bala wedi eu cau gan eira. Cofiaf un adeg yn y flwyddyn 1937 pan ddechreuodd fwrw eira nos Sadwrn, a bu'n bwrw drwy dydd Sul, ac erbyn bore dydd Llun roedd eira trwchus iawn.

Dywed ymhellach iddynt fethu a chael y 'trên mail', chwech o'r gloch i fyny, ac roedd trên y gweithwyr yn sobor o hwyr yn cyrraedd stesion Dolwyddelan. Beth bynnag, aed i fyny cyn belled a Roman Bridge yn weddol rwydd, ond wedyn, bu'n waith llafurus i glirio'r eira at y twnnel. Erbyn hynny roedd yr injian angen dŵr a bu'n rhaid i'r gyrrwr, Ifor Roberts, lenwi sach o eira er mwyn cael dŵr yn nhanc yr injian.Wrth fynd trwy'r twnnel cawsont rybudd detonators bod y pen arall wedi cau, a methasant a dod allan ohono oherwydd y lluwchfeydd. Erbyn cyrraedd platfform y stesion roedd hi'n 8:10 y nos, wedi teithio chwe milltir o 11 y bore !

Bu Bwlch Gorddinan a lein y Great i'r Bala ar gau am dros wythnos, a mynych y clywais Jack Evans y checker yn dweud wrth rai o'r masnachwyr fyddai'n cwyno fod eu nwyddau ar ôl. Peidiwch a chwyno da chwi, onibai am y twll yna fe fuasech wedi llwgu ers llawer dydd.

Gan fod gofod yn brin bydd yn rhaid imi adael rhai o'm hoff atgofion a cholofnau difyr Llafar Bro o'r 70au tan rywdro eto. Nid oes dwywaith amdani, bu amryw ohonynt yn boblogaidd iawn, yn addysgiadol, ac yn ennyn diddordeb y darllenwyr. Dyma enwi rhyw ychydig – Atgofion W. H. Reese; Sgotwrs Stiniog gan fy niweddar gyfaill Emrys Evans, I'r Merched; Colofn Byd Natur Ken Daniels, a sawl un arall. 

O.N.  Canmoliaeth o'r mwyaf i bawb sydd wedi bod ynglŷn â Llafar Bro tros yr holl flynyddoedd a boed iddo hir oes a gobeithio y bydd rhai yn dathlu sawl carreg filltir arall yn ei hanes. 

---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon