8.2.21

Diweddariad o'r Dref Werdd

Meg yn yr afon
Ni fyddwn yn synnu pe bai chi'n meddwl bod pethau wedi bod ychydig yn dawel ar ochr amgylcheddol Y Dref Werdd yn ystod y misoedd diwethaf.....dim gweithgareddau, dim diwrnodiau gwirfoddoli, dim prosiectau gyda’r ysgolion!   Ar ddiwedd mis Mawrth roedd fy nghalendr prysur yn wag mwya’ sydyn, a rhois i fy rhaw a’r lli’ gadwyn i lawr er mwyn helpu’r tîm gydag anghenion uniongyrchol ein cymuned, ac yr oedd yn fraint cael gwneud.   Erbyn mis Gorffennaf roeddwn i’n falch iawn o gael rhoi’r 'waders' ymlaen unwaith eto, a bod i fyny at fy nghanol yn Afon Bowydd yn trin llysiau’r dial, a dyna lle fues i tan Hydref!

Mae prosiectau a gafodd eu gohirio bellach yn ail-ddechrau o'r diwedd;  mis diwethaf dechreuodd yr adnoddau i'r ardd bywyd gwyllt o flaen y Ganolfan Gymdeithasol gyrraedd - mae'n debyg eich bod wedi sylwi ar y gwelyau uchel newydd (i'w plannu â pherlysiau), y darn o dywarchen blodau gwyllt, a'r coed ffrwythau sy'n mynd i mewn.  Bydd hwn yn rhywle i bawb fwynhau, lle gallwn (yn y pen draw!) drefnu gweithgareddau grŵp, fel garddio, dysgu am fywyd gwyllt a sut i ofalu amdano.

Dangoswyd ychydig o gariad a sylw i hen selerydd 5 Stryd Fawr a, diolch i ymdrechion Hefin Hamer, mae gennym bellach weithdy newydd, storfa logs, ystafell sychu a storfa (felly os nad ydw i yn yr afon neu'n plannu yn rhywle, dyna lle fyddai’n cuddio!). 

Byddai ein gwirfoddolwyr ymroddedig wrth gwrs wedi helpu gyda'r holl waith hwn fel arfer, ond gyda'r canllawiau a'r rheolau Cofid sy'n newid yn barhaus ynghylch cwrdd â phobl eraill, yn anffodus bu'n anodd trefnu unrhyw weithgareddau grŵp i'n gwirfoddolwyr.  Yn eu habsenoldeb profodd fy nghydweithwyr unwaith eto pa mor hyblyg ydyn nhw, gan eu bod nhw'n gallu mynd o lenwi ffurflenni, i lenwi sgip i lenwi gwelyau pridd yn hawdd!

Be Nesaf?
Gan fynd o un rhywogaeth ymledol i un arall, dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fyddwn yn hogi'r llifiau cadwyn i fynd i'r afael â phla Rhododendron unwaith eto. Mae hwn yn waith awyr agored corfforol ac yn llawer haws gyda mwy o help - felly os ydych chi am fynd allan o'r tŷ, cwrdd â phobl eraill (yn ddiogel!) a chyfrannu at waith cadwraeth werthfawr yna cysylltwch â ni. Byddwn yn cadw niferoedd y grwpiau yn isel, yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, felly bydd angen i chi gofrestru ymlaen llaw yn hytrach na dim ond troi fyny ar y diwrnod.

Cawsom ein siomi’n arw o fethu â gallu darparu hwyl a gemau yn y goedwig hanner tymor a Chalan Gaeaf i deuluoedd. OND, byddwn yn plannu llawer mwy o goed eto, yn ogystal â pherllan gymunedol, felly peidiwch â phoeni - bydd digon o gyfleoedd i gael eich dwylo'n fwdlyd yn fuan iawn!

Perllan Gymunedol – be’ ‘di hynny?!
Mae perllan gymunedol yn ofod ar gyfer tyfu coed ffrwythau er budd y gymuned gyfan. Bydd y ffrwythau a gynaeafir neu unrhyw gynnyrch a wneir ohono yn cael ei rannu gyda'r gymuned. Gall bawb gymryd rhan o'r dechrau - o blannu coed, gofalu am y coed a'u tocio, cynaeafu'r ffrwythau a gwneud cynnyrch. 

Ar y cyd gyda’r Cyngor Tref, rydym wedi nodi darn o dir fydd yn ddelfrydol ar gyfer y prosiect hwn, a thros yr wythnosau nesaf byddem yn dechrau paratoi’r tir, ac wedyn bydd y plannu yn cychwyn! Bydd diwrnodau plannu yn cael eu hysbysebu o flaen llaw, ac oherwydd cyfyngiadau Covid bydd angen i ni gyfyngu ar nifer y bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd ar un adeg, ond bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan! Eich perllan gymunedol CHI fydd hwn, felly cysylltwch â'ch syniadau, cwestiynau neu awgrymiadau.

*  *  *  *  *

Y Siop Werdd
Mae’r Dref Werdd wedi penodi Tanwen Roberts fel rheolwr y siop. Ers iddi gychwyn, gweithiodd Tanwen yn gwbl ddi-flino i gael popeth yn barod gyda chefnogaeth gweddill tîm y Dref Werdd, ac fe agorwyd drysau'r siop ers ychydig wythnosau bellach.

Menter gwbl newydd i’r Dref Werdd yw’r Siop Werdd;  menter fydd yn galluogi trigolion yr ardal a thu hwnt i brynu faint bynnag o gynnyrch maent yn gallu fforddio ac angen. Mae cyflenwad eang o fwydydd sych a ffres, a’r rhan fwyaf gan gynhyrchwyr lleol. Mae yno gigoedd amrywiol; llysiau a ffrwythau; a llefrith. Mae llawer iawn o fwydydd sych ar werth hefyd, yn cynnwys pasta, reis, siwgr, pob math o flawd a pherlysiau. Yn ogystal, bydd gwahanol gynnyrch glanhau ar gael yno hefyd.

Tanwen yn y siop
I gyd-fynd ag egwyddorion Y Dref Werdd, ni fydd y Siop Werdd yn defnyddio unrhyw blastigion gyda chwsmeriaid, mae’n ofynnol i bobl ddod a chynhwysyddion neu fagiau aml ddefnydd eu hunain i siopa, a bydd hyn yn chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i warchod yr amgylchedd leol. Byddwch yn gallu prynu poteli llefrith eich hunain a dod a nhw yn ôl bob tro a’u hail-lenwi o’r peiriant. Yr un syniad sydd gyda’r cynnyrch glanhau, ble fyddwn yn annog cwsmeriaid i ail ddefnyddio poteli shampŵ neu hylif golchi llestri, byddwch hyd yn oed yn gallu prynu brwsh dannedd di-blastig a mygydau aml-ddefnydd, sydd wedi dod yn ran o fywyd pawb erbyn heddiw.

Dywedodd Gwydion ap Wynn, rheolwr prosiect y Dref Werdd, “Daeth syniad y siop mewn sgwrs gyda chydweithiwr tua dwy flynedd yn ôl, rhywbeth gwbl newydd i’r Dref Werdd, ond gyda ‘chydig o frwfrydedd a gwaith caled, rydan ni’n croesawu cwsmeriaid o’r diwedd. Rydan wedi cael sawl grant i wireddu ein syniad ac mae’n bwysig i ni gydnabod hynny a diolch i’r Gronfa Gymunedol, Arloesi Gwynedd Wledig a Chyngor Gwynedd gyda’u cymorth i fusnesau fentro gyda’r gronfa Arfor. Rydan hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan yr archfarchnadoedd lleol, Co-op a Tesco.

Rhan arall hynod bwysig o’r siop fydd yr oergell gymunedol. Byddwn yn derbyn bwydydd dros ben o archfarchnadoedd lleol, ac yna yn cynnig y bwyd i unrhyw un yn y gymuned, am ddim. Unwaith eto yn chwarae rhan yn ein gwaith amgylcheddol, drwy osgoi gyrru bwyd sy’n gwbl fwytadwy, i safleoedd tirlenwi. Bydd y cynllun yma yn mynd law yn law gyda’r banc bwyd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y siop, cysylltwch gyda Tanwen ar 01766 830 750 neu ebostiwch tanwen@drefwerdd.cymru neu ewch draw i weld y wefan newydd– www.ysiopwerdd.cymru

*  *  *  *  *

Newyddion o’r HWB: Cefnogi Cymuned
Wel,  mae’r amser wedi hedfan ers i ni gychwyn y prosiect hwn ym mis Gorffennaf! Fel y gwyddoch mae’n debyg, prosiect chwe mis wedi ei ariannu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ymateb i effeithiau COVID-19 ar holl gymunedau Bro Ffestiniog (Ffestiniog, Dolwyddelan a Phenrhyndeudraeth) a’r cylch yw hwn. Felly mewn ystyr, rydym wedi bod yn gweithio i wneud pethau’n well i boblogaeth o 16,000 dros ardal o 50 milltir sgwâr.

Yn ystod y cyfnod yma, rydym wedi sefydlu sawl elfen i’r prosiect, yn cynnwys:
     • Creu bas data o wirfoddolwyr cymunedol sy’n ymateb i anghenion trigolion sy’n hunan ynysu drwy
helpu gyda siopa, casglu presgripsiynau, garddio a cherdded cŵn, ymysg pethau eraill.
     • Creu cynllun cyfeillio dros y ffôn, sef “Sgwrs”, mewn ymateb i’r unigrwydd y mae aelodau’r gymuned wedi ei deimlo yn ystod y flwyddyn anarferol yma. Mae hwn yn gynllun gwerthfawr sy’n mynd i’r afael â phroblem enfawr ac yn gwella iechyd meddwl buddiolwyr.
     • Gweinyddu grantiau bychan i fudiadau lleol i redeg prosiectau sy’n ymateb i anghenion y gymuned yng ngwyneb y pandemig.

Yn ogystal, mae sawl un wedi cael budd o'n cynllun digidol, llawer wedi derbyn cyfeiriadau i wasanaethau eraill, wedi derbyn mygydau aml defnyddiol am ddim neu wedi derbyn cefnogaeth ychwanegol mewn un ffordd neu’r llall.

Mae cyfanswm o 65 o bobl wedi elwa o’r prosiect hyd yn hyn, a’r rhif hwn yn tyfu yn ddyddiol. Mae
gennym 166 o wirfoddolwyr wedi cofrestru ar gyfer gwneud gwahanol weithgareddau. Ac mae 236 o
ymgysylltiadau wedi eu gweithredu yn ystod y pum mis diwethaf.
Rydym yn ddiolchgar a balch iawn o’r holl bobl sydd wedi gwirfoddoli gyda’r prosiect yn y misoedd diwethaf ac rydym yn gobeithio parhau i allu helpu yn ein cymunedau yn y dyfodol.

Ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn gobeithio parhau i gynnig gwasanaeth ‘Sgwrs’ ymhell i’r dyfodol gyda’r gobaith o ddatblygu’r cynllun i fod yn wasanaeth cyfeillio wyneb i wyneb yn ogystal â sgwrs ffôn wythnosol.

Ein gobaith hefyd fydd defnyddio’r cyfoeth naturiol sydd ganddom yn ein hardal i dreulio amser gyda phobl yn yr awyr agored, i wella iechyd meddwl a chyfleoedd. Rydym hefyd yn gobeithio cynnal sesiynau amgylcheddol er lles plant a phobl ifanc gyda chyfleon i ddysgu am natur a derbyn profiadau newydd.
Os hoffech roi eich barn am y prosiect neu ddod yn wirfoddolwr neu fuddiolwr, cysylltwch â ni.
Non, nina a Lauren 07385 783340 hwb@drefwerdd.cymru
----------------------

Addasiad o dair erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2020

Roedd Y Dref Werdd yn un o noddwyr y rhifyn, a hoffai pwyllgor Llafar Bro ddiolch o galon iddynt am eu cymwynas.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon