3.2.21

Bro Ffestiniog ar Flaen y Gad

Mae pedwar ar ddeg o fentrau cymunedol ym Mro Ffestiniog; mwy nag mewn unrhyw ardal arall yng Nghymru. Eu prif bwrpas yw gwasanaethu’r gymuned, ond maent yn cael eu rhedeg fel busnesau cymdeithasol, gyda’r budd a’r elw i gyd yn dod i’r gymuned. 

 Mae mentrau cymunedol yr ardal wedi dod at ei gilydd fel rhwydwaith dan faner Cwmni Bro Ffestiniog, er mwyn hwyluso cydweithrediad rhwng y mentrau a chyda’r elfennau o’r sectorau preifat a chyhoeddus sy’n greiddiol i economi sylfaenol y fro. Mae’r model cydweithredol o ddatblygu cymunedol a arloesir gan Cwmni Bro yn cyfuno agweddau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannnol o ddatblygiad y gymuned. Hynny yw, mae model Cwmni Bro Ffestiniog yn defnyddio ffordd integredig, crwn, o feddwl a gweithredu er lles y gymuned. Cymharer hyn gyda’r modd unllygeidiog mae llywodraethau yn tueddu gweithredu, yn gaeth i’w seilos.

Rhyngddynt mae aelodau Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobl. Dengys dadansoddiad o effeithiau economaidd y mentrau bod canran uchel o’u hincwm yn dod o fasnachu a bod yr incwm, i raddau helaeth iawn, yn aros a chylchdroi o fewn yr ardal.


Mudiad Cymunedol i Gymru
Mae model Cwmni Bro Ffestiniog o ddatblygu cymunedol integredig yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu gan gymunedau eraill yng Nghymru, a thu hwnt. Eisoes mae hyn yn dechrau digwydd. Er enghraifft, sefydlwyd rhwydwaith o fentrau cymdeithasol ar Ynys Môn, dan y teitl Bro Môn, a symbylwyd gan esiampl Bro Ffestiniog. Trwy fabwysiadu’r model o ddatblygu cymunedol ac asio’r model gyda datblygiad yr economi sylfaenol mae potensial i drawsnewid economi a chymunedau Cymru. 

Mae traddodiad o fenter cymunedol yn rhedeg trwy hanes Cymru ac mae’r etifeddiaeth gyfoethog hon yn sail ar gyfer adeiladu dyfodol llewyrchus. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg medrai canran uwch o bobl yng Nghymru ddarllen ac ysgrifennu nag mewn bron unrhyw wlad arall. Cyflawnwyd hyn drwy fenter cymunedol blaengar yr ysgolion cylchynol. Codwyd addoldai ar hyd a lled y wlad, neuaddau gweithwyr, cymdeithasau adeiladu, mentrau cydweithredol amaethyddol, clybiau chwaraeon, siopau cydweithredol, undebau credyd, mudiadau a phleidiau gwleidyddol, undebau llafur, cyrff addysgol a diwylliannol, gwasanaethau iechyd cymunedol a myrdd o fentrau elusennol amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol hyd at y dydd heddiw. Yr her yw addasu’r traddodiad cyfoethog hwn o fenter cymdeithasol er mwyn creu ein dyfodol.

Yn nannedd argyfwng amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cyfalafiaeth trawswladol heddiw mae cymunedau ar hyd a lled y byd yn ymrymuso ac yn datblygu atebion amgen ar gyfer tawsnewid y drefn, o’r gwaelod i fyny. Rydym yn rhannu gweledigaeth gyda chymunedau o Galiffornia i Gwrdistan.

Eisoes mae sawl cymuned ar draws Cymru wedi dechrau rhwydweithio a chydweithio ac y mae Mudiad Cymunedol ar gyfer Cymru yn dechrau cymryd siap, dan arweiniad Cwmni Bro Ffestiniog. Mae profiad cymunedau yn Sweden yn cynnig patrwm y gellir ei efelychu a’i addasu ar gyfer Cymru. Yn Sweden mae cymunedau ar hyd a lled y wlad wedi cydweithio i greu mudiad cymunedol gyda’i Senedd Cenedlaethol y Cymunedau sy’n sicrhau llais a phwerdy cymunedol grymus.       


Daw dydd…
Er bod gan gyfalafiaeth rymoedd enfawr mae gennym fel cymunedau arf cryfach nag hyd yn oed Plwtoniwm y drefn. Rydym yn rhannu cariad at gyd-ddyn, at degwch a chydraddoldeb ac at ryddid a gweledigaeth am gymuned wedi’i thrawsnewid yn lleol, yn genedlaethol ac yn gydwladol, ynghyd â dyfodol amgen i’n planed. 

Mae pobl ar hyd a lled Cymru yn holi’n aml beth yw’r rheswm am lwyddiant cymunedol yr ardal hon. Mae’r ateb yn syml: Mae Bro Ffestiniog ar flaen y gad oherwydd ein prif gyfoeth, sef hanes a phobl arbennig ein cymuned. Hwnna ydio!     


Camu ymlaen
Ym Mro Ffestiniog mae arwyddion o newid diwylliannol ar droed; fwyfwy i wneud pethau trosom ein hunain fel cymuned. Ar y sylfaen hwn mae Cwmni Bro yn cymryd y camau nesaf, fel y nodir isod.

* Hwyluso twf a datblygiad y mentrau cymdeithasol presennol a mentrau newydd ym Mro Ffestiniog.
* Hybu mwy o gydweithio rhwng y sector cymunedol a’r busnesau preifat sydd wedi’u hangori’n lleol.
* Cydweithredu pellach gyda llywodraethau ar lefel cynghorau cymuned, Gwynedd, Cymru a’r Deyrnas Gyfunol.
*Cydweithio gydag asiantaethau datblygiad sirol a chenedlaethol, yn cynnwys Arloesi Gwynedd, Mantell Gwynedd, Canolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.   
* Gweithio gyda’r byd addysg, yn cynnwys yr ysgolion, Coleg Meirion-Dwyfor, Prifysgolion Bangor, Aberystwyth a Manceinion, a chyda Rhwydwaith yr Economi Sylfaenol yng Nghymru. Ymchwilir i’r berthynas rhwng model Cwmni Bro Ffestiniog o ddatblygu cymunedol a datblygiad yr economi sylfaenol.
* Hyrwyddo cydweithrediad rhwng Cwmni Bro Ffestiniog a chymunedau chwarelyddol eraill yng Ngwynedd. I’r pwrpas hwn sefydlwyd cwmni cymdeithasol, DOLAN, ar y cyd rhwng Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog i hybu datblygiad y cymunedau hyn.
* Trwy’r cynllun Rhwyd ehangu’r cydweithrediad rhwng mentrau cymdeithasol ar draws Cymru sy’n gweithio’n y Gymraeg, er mwyn cryfhau’r berthynas rhwng datblygiad cymunedol a meithrin yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.
* Gweithio ar brosiect gydag ardaloedd chwarelyddol, glofäol a chefn gwlad ar draws Cymru i greu cyfleoedd addysgol a phrofiad gwaith er mwyn meithrin arweinwyr cymunedol y dyfodol.
* Hwyluso trafodaeth ar gynllunio corff cyllidol yn benodol i fuddsoddi yn y sector cymunedol.
* Creu strategaeth a maniffesto economaidd a chymunedol ar gyfer dyfodol amgen i Wynedd a Môn.
* Datblygiad pellach BROcast Ffestiniog, sef darlledu digidol cymunedol, a chydweithio gydag ardaloedd eraill i hybu rhwydwaith o gyfryngau cymunedol ar draws Cymru.

www.cwmnibro.cymru 
-------------------------

Addasiad o erthygl ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2020

Roedd Cwmni Bro Ffestiniog yn un o noddwyr y rhifyn, a hoffai pwyllgor Llafar Bro ddiolch o galon iddynt am eu cymwynas.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon