11.2.21

Gobeithio am wawr newydd

Pan sefydlwyd Llafar Bro, 45 mlynedd yn ôl, y freuddwyd oedd gallu darparu deunydd darllen a fyddai o ddiddordeb i ni, bobl y cylch, a hynny yn ein hiaith ein hunain. 

Gobeithio am wawr newydd -nid machlud ei ddyddiau- mae Llafar Bro! (LLUN- Keith O'Brien)

 Roedd Y Rhedegydd wedi dod i ben yn swta iawn, bron chwarter canrif ynghynt (1951), ar ôl bod yn ymddangos yn wythnosol am bron 75 mlynedd. Dyma ddatganiad a wnaed gan bapur Y Cymro  ar y pryd – 

"Cyhoedda perchnogion Y Cymro fod trefniadau wedi eu cwblhau i ymgorffori Y Rhedegydd yn Y Cymro o’r wythnos nesaf ymlaen ... Trwy’r ymgorfforiad hydera Y Cymro y gall gadw’n fyw deitl hen a pharchus Y Rhedegydd a pharhau i wasanaethu darllenwyr a theuluoedd cylch Blaenau Ffestiniog a fu’n gefn iddo cyhyd.” 

Bydd rhai ohonom yn cofio cyfraniadau clodwiw ein gohebydd lleol Ernest Jones i’r Cymro yn y cyfnod i ddilyn. 

Ond pam oedd raid i’r Rhedegydd ddod i ben fel papur lleol annibynnol? Mae’r eglurhad i’w gael mewn brawddeg arall allan o’r un erthygl – 

"Achoswyd hyn yn bennaf gan y cynnydd enfawr ym mhris papur ac yng nghostau cynhyrchu – codiadau y bu’n rhaid i bob papur wythnosol eu hwynebu." 

A’r un rheswm, sef costau cynhyrchu, a ddaeth â’r Cymro wythnosol hefyd i ben ymhen amser. Papur misol ydi hwnnw hefyd erbyn heddiw, a’i bris yn £1.50.

Mae’r un broblem wedi wynebu Llafar Bro hefyd ar hyd y blynyddoedd, ac yn parhau felly hyd heddiw. Felly tipyn o gamp fu cyrraedd y garreg filltir o 500 rhifyn.

 

Ond be am y dyfodol?
Er ein bod ni heddiw yn dathlu’r 500fed rhifyn, mae lle i bryderu hefyd ynglŷn â 500 go wahanol, sef y 500 coll. Cyn troad y ganrif roedd cylchrediad Llafar Bro oddeutu 1,300 bob mis ond erbyn heddiw dim ond rhyw 800 ohonoch sy’n prynu’r papur yn fisol. A bu adeg pan oedd cymaint â 220 arall yn cael eu hanfon drwy’r post i wahanol rannau o’r byd, ond mae’r nifer hwnnw hefyd wedi gostwng i tua 120.

Rhaid derbyn, wrth gwrs, bod poblogaeth y cylch wedi syrthio rhywfaint dros y blynyddoedd, a derbyn hefyd bod mwy a mwy o ddieithriaid wedi dod i fyw yn ein mysg; pobl nad ydyn nhw’n debygol o gyfrannu mewn unrhyw ffordd at ein diwylliant ni, ond pa mor bell i ffwrdd, meddech chi, ydi’r diwrnod pan y bydd raid i Llafar Bro hefyd - fel aml i bapur bro arall, gwaetha’r modd - orfod cyhoeddi ei rifyn olaf?

Do, bu raid codi’r pris o bryd i’w gilydd dros y blynyddoedd ond a yw 80c, erbyn heddiw, yn ormod i’w dalu am bapur lleol lliwgar, sy’n llawn o newyddion a hanesion eich ardal? 

Dwy neges, felly, i gloi-
Y gyntaf, i ddiolch o galon i’r rhai ffyddlon ohonoch sy’n prynu’r papur yn rheolaidd bob mis ac sydd bob amser hefyd mor barod eich cymwynas a’ch rhoddion. (Does yr un papur bro arall trwy Gymru gyfan a all ymfalchïo yn y fath haelioni.)  

A’r ail, i apelio’n daer at eraill ohonoch i ddod yn gwsmeriaid rheolaidd o hyn allan, a thrwy hynny wneud eich rhan i sicrhau dyfodol Llafar Bro, nid er eich mwyn eich hun, efallai, ond er mwyn eich plant, a phlant eich plant, a fydd yma, gobeithio, i ddarllen y 1000fed rhifyn.

------------------------

Erthygl gan Geraint Vaughan Jones a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020.

Yn dilyn cyfnod arall o gyhoeddi'n ddigidol er mwyn gwrachod ein gwirfoddolwyr, mi fydd Llafar Bro yn gwerthfawrogi'n fawr eich cefnogaeth unwaith y byddwn yn gwerthu rhifynnau papur eto! Diolch.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon