22.9.19

Cyfres 'Gwaith' 2019

Dechrau da yw hanner y gwaith
Cyfnod o ddod yn ôl at waith ydi mis Medi i nifer:  rhifyn newydd o Llafar Bro ar ôl yr hoe arferol ym mis Awst; yr ysgolion yn agor am dymor newydd; y gwleidyddion yn ôl yn y Senedd ac yn San Steffan (ddweda’i ddim mwy am hynny!); a llawer yn dychwelyd i’w swyddi ar ôl ychydig o wyliau.

Y wawr o inclên y Greigddu, gan Helen McAteer, un o ffotograffwyr nodwedd rhifyn Medi 2019
Wnes i ddim mwynhau dychwelyd i ‘ngwaith 9 tan 5 fel gwas cyflog, ond dwi wedi cael modd i fyw ar y llaw arall, wrth olygu rhifyn Medi. Os ydi rhywun angen cymwynas, y peth callaf i’w wneud yn aml iawn ydi gofyn i berson prysur! Unwaith eto eleni, dwi’n falch o gyflwyno rhifyn Medi sy’n llawn dop o erthyglau difyr, gan gynnwys saith gan awduron gwadd -caredigion prysur i gyd, o feysydd gwahanol iawn -o fyd y celfyddydau i fentrau cymunedol, a’r byd academaidd- sydd wedi cytuno i gyfansoddi ysgrif i’w papur bro.

Fel bob mis Medi, mae thema arbennig yn rhedeg trwy llawer o’r erthyglau yn y rhifyn hwn; thema sy’n adlewyrchu rhyw elfen sy’n ddylanwadol ar fywyd yng nghylch Llafar Bro. Cafwyd DŴR fel thema y llynedd, a MYNYDD cyn hynny.

GWAITH sydd dan sylw y tro hwn.

Mae gwaith a mentergarwch yn holl bwysig i gynnal cymuned fyw, lle gall bobl ifanc aros yn eu milltir sgwâr os ydynt yn dymuno gwneud hynny; lle gall gyplau ifanc fforddio i brynu tŷ; a lle medr pobl gyfrannu rhywbeth yn ôl i’r gymuned sydd wedi eu ffurfio nhw, boed hynny trwy waith gwirfoddol, gweithredu ar bwyllgor, neu gynrychioli’r ardal mewn chwaraeon, celf, neu lenyddiaeth.
Mae gwaith a chyflogaeth yn allweddol at les unrhyw gymuned ac at gynnal balchder bro.

Yn rhifyn Medi, mae Dewi Lake yn ystyried y sgiliau mae pobl ifanc eu hangen wrth baratoi at fyd gwaith, a Llio Davies yn edrych ymlaen at yrfa yn y byd celf. Allfudo –pobl ifanc yn gadael eu milltir sgwâr- ydi pwnc Lowri Cunnington Wynne ac Elin Roberts. Mae Elin Hywel a’r Dref Werdd yn adrodd ar waith gwerthfawr y mentrau cymdeithasol a’r hyn y gall gymunedau wneud drostyn nhw eu hunain, ac mae dau a fagwyd yn Stiniog, sydd bellach yn gwneud eu marc yn y byd actio a dylunio cartŵns, sef Gwyn Vaughan Jones a Mal Humphreys, yn ystyried dylanwad eu magwraeth yma ar eu gwaith.
------------------------------

Addasiad o golofn olygyddol rhifyn Medi 2019.
Brysiwch allan i 'nôl eich copi!


1 comment:

  1. Rhifyn arbennig o ddiddorol Paul! Diolch am dy waith golygyddol gwych unwaith eto.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon