12.10.18

DŴR: Blwyddyn o Eithafion Tywydd


Wir i chi mae hi’n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog..” -medd anthem y grŵp lleol, Anweledig, ond be ydi’r gwir am ein tywydd enwog? Mae Dorothy a Gareth Williams wedi bod yn cofnodi  manylion tywydd 'Stiniog ers 1986.

Bu 2018 hyd yma yn flwyddyn eithriadol i’r rhai ohonom sydd yn cael pwnc y tywydd yn un diddorol. Os oes gennych ddiddordeb neu beidio, mae’r tywydd bob amser yn bwnc trafod yn y Blaenau ac yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom.


Bydd y mwyafrif yn cofio’r flwyddyn am y gwres a’r sychder mawr a gafwyd o ganol Mai hyd at ganol Gorffennaf. Cawsom 21 o ddyddiau heb ddiferyn o law rhwng Mehefin 21ain a Gorffennaf 11eg. Dyma’r cyfnod pan gawsom wres eithriadol hefyd, gyda’r gwres yn codi ar ei uchaf i 28.7°C yn ôl fy nghofnodion yng Nghae Clyd. Cawsom haf cynnar gwerth chweil eleni gan gychwyn ym mis Mai pan fu 16 o ddyddiau yn ystod y mis heb law o gwbl a’r tymheredd yn codi  i 24.2 gradd ar Fai 28ain.

Er y byddwn yn cofio’r haf yma am y gwres a’r sychder, ni chafwyd tywydd mor dda ers i wyliau’r plant gychwyn a bu mis Awst yn fis siomedig a gwlyb a llawer o ddyddiau pan na gododd y niwl drwy’r dydd. Efallai bydd darllenwyr yn synnu clywed mai ym mis Awst y cawsom y diwrnod gwlypaf o’r flwyddyn gyfan hyd yn hyn! Ar Awst 15fed, cofnodwyd dros ddwy fodfedd o law (53.5mm) a’r Blaenau, ynghyd â Chapel Curig, oedd y ddau le gwlypaf ym Mhrydain ar y diwrnod hwnnw. Yn wir, dim ond pedwar diwrnod heb law a gofnodwyd drwy gydol y mis.

Efallai erbyn hyn i fwy o dywydd eithafol 2018 fynd yn angof gennym ond cychwynnodd y flwyddyn ar nodyn gwlyb iawn. Cawsom Ionawr gwlyb a hynny’n dilyn misoedd gwlyb iawn ar ddiwedd 2017. Onibai am wlypder y gaeaf, byddai argyfwng sychder y gwanwyn a’r haf cynnar wedi bod llawer gwaeth a chwtogi, mae’n siwr, ar ein defnydd o ddŵr.

Yng nghanol gwres a sychder Mehefin/Gorffennaf, pylodd y cof am yr oerfel eithriadol a gafwyd ddiwedd Chwefror ac i fewn i ddechrau Mawrth. Plymiodd y tymheredd o 11.9°C ar Chwefror 19eg i -6.8 gradd ar Fawrth 1af. Yn wir, bu’r tymheredd o dan bwynt rhewi am 9 noson yn olynol ac ni chododd y tymheredd uwch pwynt rhewi am dridiau. Wedyn, pan gododd y tymheredd yn sydyn, cafwyd y pibau yn gollwng a nifer fawr ohonom heb ddŵr gyda photeli yn cael eu dosbarthu ar Sgwâr Diffwys â’r plymars i gyd yn brysur.

Un o fendithion tywydd oer mis Chwefror oedd yr heulwen a gafwyd a glesni eithriadol yr awyr ar ambell ddiwrnod, ynghyd â chochni’r machlud dros y Moelwyn.

 ninnau’n meddwl ein bod wedi cael gaeaf heb eira, cawsom flas ohono yn Chwefror ac i mewn i Fawrth. Ar Chwefror 27ain, cofnodais yn fy Llyfr Tywydd:

"Rhewllyd drwy’r dydd, cawodydd cyson o eira, heulwen ar adegau. Ysgolion lleol ynghau.” 
Dyma’r cyfnod y cyhoeddwyd fod y ‘Bwystfil o’r Dwyrain’ wedi cyrraedd gogledd orllewin Cymru. Ac yna ar ddydd Gŵyl Ddewi, â’r tymheredd rhwng -6.8°C dros nos a -2.6°C ar ei uchaf yn y dydd â’r gwynt o’r gogledd ddwyrain, cofnodais:


“Rhewllyd, bwrw eira, gwynt yn chwyrlio ac yn achosi lluwchio.”
Dan bwysau aeron cochion, mae’r griafolen yn adlewyrchu’r math o haf a gawsom. Erbyn hyn, gwelwn fod y lawntydd melyn, sychder yr haf wedi gwyrddio a’r nant oedd wedi sychu’n grimp ger ein tŷ yn byrlymu unwaith eto. Yn wir, cofnodwyd bron i 10 modfedd o law fis Awst, un o’r misoedd Awst gwlypaf imi gofnodi.


Tybed oes yna fwy o eithafion tywydd i ddod cyn i 2018 ddod i’w therfyn?
----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.
(Deallwn y bydd erthygl am dywydd ‘Stiniog ar hyd y blynyddoedd yn ymddangos yn Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ym mis Tachwedd. Bydd ar werth yng nghyfarfod y Gymdeithas ac yn Siop Lyfrau’r Hen Bost wedi hynny –Gol.)

Celf: Lleucu Gwenllian



1 comment:

  1. Diolch yn fawr i Paul, golygydd Medi, o fynd i'r fath drafferth i gasglu'r holl erthglau difyr at ei gilydd. Wedi ychwanegu'n arw at safon y papur bro arbennig hwn. Pwy fyddai'n meddwl y byddai gymaint o amrywiaeth diddorol wrth drafod hoff hylif y dalgylch. Llawer wedi mwynhau'r arlwy. Diolch eto, Paul, a dalia' ati.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon