13.1.15

Taro'r post i'r parad gl'wad

Heno, yn fwy nac erioed, dwi'n falch o fod yn un o drigolion 'Stiniog.


 Roedd gen' i lwmp yn fy ngwddw'n gynharach heno wrth i fil o bobl y fro ddod i Ysgol y Moelwyn ar noson oer, er mwyn gyrru neges glir i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr; i'r gweinidog iechyd, Mark Drakeford; ac i'r rhai sy'n cael eu talu i'n cynrychioli ni yn seneddau Caerdydd a Llundain.

Ciwio brwdfrydig tu allan
Clywch! Mae'r gymuned hon yn mynnu cael gwelyau i gleifion yn ôl yn yr ysbyty, yn ogystal â'r gwasanaeth pelydr X, a'r adran mân anafiadau.

Bu'n rhaid cau drysau'r neuadd orlawn oherwydd rheolau tân, a'r cefnogwyr yn dal i giwio i ddod i mewn, felly fe gynhaliwyd y cyfarfod ddwywaith, i ddwy llond neuadd!

Roedd y trefnwyr -Cyngor Tref Ffestiniog a Phwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog- angen cefnogaeth cant a hanner o etholwyr y fro, er mwyn cael cynnal refferendwm lleol, yn holi'r cwestiwn:

"A ddylai gwlâu ar gyfer cleifion, gwasanaeth pelydr-x ac uned mân anafiadau fod yn rhan o unrhyw gynlluniau ar gyfer Ysbyty Coffa Ffestiniog?"


Cafwyd 150 sawl gwaith!

Byddai'n GYWILYDD i neb beidio talu sylw y tro yma. 
Diolch i'r trefnwyr, a diolch i bobl dda Bro Ffestiniog am ddangos eu hochor. Eto.

Ymlaen!

PW. 13eg Ionawr 2015
----------------------------------

Ôl-nodyn: 'Y gair olaf' am yr ymgyrch.



2 comments:

  1. Da iawb chdi Pól, yn cyfleu teimladau pawb fynychodd y cyfarfod hynod hwn neithiwr. Noson i'w chofio. Pa ardal arall drwy Gymru fyddai'n dangos ei barn mor argyhoeddiedig. Cymerwch sylw o'r hyn sy'n cael ei ddatgan mor glir gan ddinasyddion dalgylch yr Ysbyty Coffa, chwi fiwrocratiaid. Trueni na fyddai'r sawl a etholwyd i'n cynrychioli yn y ddwy Senedd yn cymryd sylw o farn yr union bobl a bleidleisiodd iddynt dros y blynyddoedd. Cywilydd iddynt am anwybyddu'n pryderon. Nid i hyn y bum i, a nifer eraill yn y dre yn canfasio'n ddyfal flynyddoedd yn ól i gael dau genedlaetholwr á thán yn eu boliau i'n cynrychioli, siawns?
    ,

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch VP. Ymlaen at y bleidlais leol rwan!

      Delete

Diolch am eich negeseuon